Sut ydw i’n ychwanegu allwedd API datblygwr ar gyfer cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch chi greu allweddi API datblygwyr ar gyfer cyfrifon gwraidd. Mae allwedd API datblygwr yn god sy’n cael ei roi i ddatblygwr rhaglen trydydd parti sy’n caniatáu mynediad at wybodaeth a hawliau penodol yn Canvas. Mae modd defnyddio allweddi API datblygwyr i greu integreiddiadau personol gyda Canvas a gadael i apiau trydydd parti ddefnyddio dilysu Canvas. Mae’r allwedd API datblygwr yn defnyddio OAuth2 i alluogi’r rhaglen i ddefnyddio Canvas ar gyfer dilysu. I gael rhagor o wybodaeth am OAuth2, gweler dogfennau OAuth API Instructure.

Mae’r allwedd API datblygwr yn cael ei hanfon o’r rhaglen i Canvas pan mae’r defnyddiwr yn gofyn am fynediad. Mae’r rhaglen yn gofyn i’r defnyddiwr am hawl i greu tocyn mynediad API yn rhaglennol. Pan mae’r defnyddiwr yn awdurdodi’r rhaglen, bydd gan y rhaglen trydydd parti yr un mynediad at wybodaeth a hawliau cyfrif â'r defnyddiwr a roddodd fynediad. I gael rhagor o wybodaeth am ddogfennau datblygwr, gweler dudalen Github Instructure.

Cwmpasu Allwedd

Mae Allweddi API Datblygwyr yn cynnwys swyddogaeth ar gyfer cwmpasu allwedd fel rhan o ychwanegu allwedd API datblygwr. Mae cwmpasu allwedd yn gadael i chi reoli mynediad uniongyrchol at bwyntiau gorffen API penodol ar gyfer adnoddau trydydd parti.

Sylwch: Mae Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn un o’r hawliau mewn cyfrif. Os na allwch chi weld dolen yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Allweddi Datblygwyr

Agor Allweddi Datblygwyr

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Allwedd Datblygwyr (Developer Keys).

Ychwanegu Allwedd Datblygwr

Ychwanegu Allwedd Datblygwr

Cliciwch y botwm Ychwanegu Allwedd Datblygwr (Add Developer Key).

Ychwanegu Allwedd API

Ychwanegu Allwedd API

Cliciwch yr opsiwn Ychwanegu Allwedd API (Add LTI Key).

Rhoi Gosodiadau Allwedd

Rhoi’r gosodiadau ar gyfer yr allwedd API datblygwr:

  • Enw Allwedd [1]: Enw eich ap neu gwmni fel arfer. Bydd y maes hwn yn cael ei ddangos pan mae gofyn i ddefnyddwyr gymeradwyo mynediad at eu cyfrif Canvas ar eich rhan.
  • E-bost perchennog [2]: E-bost y person sy’n berchen ar yr adnodd datblygwr.
  • Ailgyfeirio URIs [3]: Y parthau lle mae ceisiadau am docynnau’n cael eu gwneud. Nid eich URI Canvas yw’r URIs hyn. I osgoi pryderon am borwyr cynnwys cymysg, defnyddiwch https.
  • URI Ailgyfeirio (Hen) [4]: Yr URI ar gyfer ailgyfeirio allwedd. Mae’r maes hwn yn gadael i chi osod yr URI blaenorol ar gyfer adnodd. Yn y pen draw bydd y maes hwn yn cael ei dynnu.
  • Cod Gwerthwr (LTI 2) [5]: Cod cofrestru unigryw sy’n nodi gwerthwr neu ddatblygwr adnodd trydydd parti. Mae hyn yn benodol ar gyfer adnoddau ac apiau LTI 2.
  • URL Eicon [6]: URL yr eicon ar gyfer eich adnodd datblygwr. Mae’r URL yn cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr i gymeradwyo awdurdodi ar gyfer eich adnodd. I osgoi pryderon am borwyr cynnwys cymysg, defnyddiwch https.
  • Nodiadau [7]: Unrhyw nodiadau am yr allwedd datblygwr, fel y rheswm y cafodd ei chreu.
  • Clwstwr Prawf Yn Unig [8]: Creu allwedd datblygwr sydd ddim ond yn gallu cael ei defnyddio yn amgylchedd prawf Canvas.
  • Gorfodi Cwmpasau [9]: Yn gadael i chi bersonoli mynediad ar gyfer yr allwedd. Neu, bydd gan yr allwedd fynediad at bob pwynt gorffen sydd ar gael i’r defnyddiwr sy'n awdurdodi.

Cadw Allwedd

Cadw Allwedd

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Gweld Allwedd

Ewch i weld yr Allwedd Datblygwr ar gyfer eich cyfrif.