Sut ydw i’n rheoli graddfeydd meistroli deilliannau mewn cyfrif?

Os yw’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif wedi’i alluogi ar gyfer eich cyfrif, mae graddfeydd meistroli a dulliau cyfrifo wedi’u gwahanu o ddeilliannau unigol ac mae’r dudalen Deilliannau’n dangos tabiau Graddfeydd Meistroli a Dulliau Cyfrifo.

O’r tab Meistroli, gallwch chi osod graddfeydd meistroli ar gyfer y cyfrif cyfan.

Nodiadau:

  • Bydd galluogi’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif yn effeithio ar ddata cyfrif cyfredol.
  • Mae’r sgôr meistroli meini prawf diofyn y dangos graddfa 0-4.
  • Os oes cyfarwyddyd sgorio gyda deilliannau wedi’u halinio wedi cael ei ddefnyddio i asesu aseiniad cyn i’r Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif gael eu galluogi, nid yw’r aseiniad yn cael ei effeithio. Ond, mae unrhyw aseiniadau sydd heb gael eu hasesu gan y cyfarwyddyd sgorio yn cael eu heffeithio os bydd sgorau meistroli’n cael eu haddasu.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Agor Meistroli

Agor Meistroli

I weld a rheoli’r raddfa meistroli ar gyfer cwrs, cliciwch y tab Meistroli (Mastery).

Nodyn: Os nad yw’r tab Meistroli i’w weld ar y dudalen Deilliannau, nid yw graddfeydd meistroli deilliannau lefel y cyfrif wedi cael eu galluogi gan eich sefydliad.

Rheoli Graddfeydd Meistroli

Mae’r dudalen Meistroli yn dangos y raddfa meistroli sy’n cael ei defnyddio’n ddiofyn ar gyfer pob cwrs yn eich cyfrif. Yn ddiofyn, mae graddfa meistroli’r cyfrif yn cynnwys pum lefel: Rhagori ar Feistroli, Meistroli, Bron a Meistroli, Heb Feistroli, a Dim Tystiolaeth.

Ar gyfer pob lefel meistroli, gallwch chi weld disgrifiad o’r lefel [1], pwyntiau’r lefel [2], a lliw y lefel [3].

I addasu disgrifiad o’r lefel, rhowch ddisgrifiad yn y maes Disgrifiad (Description) [4].

I addasu’r gwerth pwynt sy’n gysylltiedig â chyflawni’r lefel, rhowch werth yn y maes Pwyntiau (Points) [5].

I nodi’r lefel sy’n nodi meistrolaeth myfyriwr, dewch o hyd i’r lefel yn y rhestr a chlicio’r botwm radio Meistroli (Mastery) [6].

Newid Lliw

Newid Lliw

Mae lliw yn cael ei neilltuo i bob lefel meistroli swydd i’w weld wrth edrych ar sgorau deilliannau yn y Llyfr Graddau Meistroli Dysgu. I newid lliw y lefel, cliciwch y botwm Newid (Change) [1]. Yna cliciwch yr eicon ar gyfer y lliw rydych chi eisiau ei ddefnyddio [2] neu roi cod hex y lliw yn y maes testun [3]. Os nad yw’r cod hex yn ddilys, mae’r maes yn dangos eicon rhybudd. Nid yw mathau gwahanol o wyn yn dderbyniol fel lliw.

I gadw eich dewis o liw, cliciwch y botwm Gosod [4].

Ychwanegu Lefel Meistroli

I ychwanegu lefel meistroli newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Lefel Meistroli (Add Mastery Level) [1]. Mae’r lefel newydd i’w gweld ar waelod y rhestr ac nid oes modd ei symud [2]. Ond, bydd y lefelau meistroli’n cael eu trefnu’n rhifol ar ôl i’ch newidiadau gael eu cadw.

Dileu Lefel Meistroli

I ddileu lefel meistroli, cliciwch yr eicon Dileu.

Cadarnhau’r broses Dileu

Cadarnhau’r broses Dileu

I gadarnhau eich bod chi eisiau dileu’r lefel meistroli cliciwch y botwm Cadarnhau (Confirm).

Cadw Graddfa Meistroli

Cadw Graddfa Meistroli

I gadw’r newidiadau i’r raddfa meistroli, cliciwch y botwm Cadw Graddfa Meistroli (Save Mastery Scale).

Cadarnhau Newidiadau

Cadarnhau Newidiadau

Bydd cadw eich newidiadau i’r raddfa meistroli yn diweddaru’r holl gyfarwyddiadau dysgu sydd wedi’i neilltuo i ddeilliannau sydd heb gael eu hasesu yn eich cyfrif. I gadarnhau eich newidiadau, cliciwch y botwm Cadw (Save).