Beth yw strwythur hierarchaeth cyfrifon Canvas?

Mae’r termau cyfrif ac isgyfrif yn unedau sefydliadol yn Canvas. Mae gan bob enghraifft o Canvas botensial i gynnwys hierarchaeth o gyfrifon ac isgyfrifon, ond maen nhw’n dechrau gydag un cyfrif yn unig (y cyfeirir ato fel y cyfrif gwraidd). Mae cyfrifon yn cynnwys isgyfrifon, cyrsiau, ac adrannau, ac mae modd i chi ychwanegu pob un o’r rhain eich hun yn Canvas, drwy'r API, neu drwy broses fewngludo SIS.

Gweld Hierarchaeth

Gall sefydliadau greu strwythur hierarchaidd sy’n gweddu orau i anghenion eu sefydliad. Bydd modd neilltuo defnyddwyr sydd â rôl gweinyddwr i isgyfrifon penodol sydd â hawliau penodol ar lefel cyfrif.

Mae hawliau ar lefel cyfrif yn cael eu pennu ar y cychwyn gan weinyddwyr y cyfrif gwraidd, ac wedyn yn symud i lawr drwy'r hierarchaeth ond nid i fyny. Mae modd i weinyddwyr isgyfrifon addasu hawliau ar lefel y cyfrif ar gyfer eu hisgyfrif. Mae gan weinyddwyr mewn un cyfrif hawliau gweinyddol yn y cyfrif hwnnw yn ogystal ag yn unrhyw isgyfrifon y cyfrif hwnnw. Yn ogystal â hyn, gall gweinyddwr symud cwrs o fewn ei isgyfrif, ond ddim symud cwrs rhwng isgyfrifon oni bai ei fod yn weinyddwr cyfrif rhiant pob isgyfrif.

Ac eithrio’r Tymhorau, proses Mewngludo SIS, Dilysu ac ambell osodiad cyfrif, mae modd addasu'r rhan fwyaf o osodiadau cyfrif gweinyddol neu, yn achos hawliau, eu diystyru mewn isgyfrif. I gael rhagor o wybodaeth am hawliau ar lefel y cyfrif, edrychwch ar y PDF ar Hawliau Lefel y Cyfrif Canvas.

Gweld Isgyfrifon

Mae isgyfrifon yn aml yn cael eu defnyddio i reoli hawliau a hierarchaeth mewn sefydliad. Mae llawer o sefydliadau’n creu strwythurau sefydliadol isgyfrif sy'n adlewyrchu eu systemau SIS neu eu systemau cofrestru. Er enghraifft, mae modd creu isgyfrifon ar gyfer colegau unigol o fewn prifysgol, neu ar gyfer ysgolion o fewn ardal. Mae modd creu isgyfrifon hefyd o fewn isgyfrifon, er enghraifft pan fydd coleg yn rhannu’n adrannau a fydd yn rhannu’n rhaglenni, neu ysgol sy’n rhannu'n lefelau gradd sy’n rhannu’n bynciau penodol.

Gweld Isgyfrifon

Mae modd neilltuo gweinyddwyr, defnyddwyr Canvas eraill, a chyrsiau i isgyfrifon. Gall defnyddiwr fod â rôl wahanol ym mhob isgyfrif. Er enghraifft, gall deon coleg sydd hefyd yn dysgu cyrsiau yn ei sefydliad gael ei neilltuo i fod yn weinyddwr cyfrif y coleg a chael rôl athro mewn isgyfrif.

Mae modd creu isgyfrifon hefyd i greu a chael mynediad at fanciau cwestiynau, deilliannau, cyfarwyddiadau sgorio, cynlluniau graddau, adroddiadau, a dadansoddiadau.

Er does dim modd creu tymhorau mewn isgyfrifon, mae llawer o sefydliadau yn creu tymhorau yn y cyfrif gwraidd y gellir eu defnyddio mewn isgyfrifon penodol fel bod gan bob un wahanol ddyddiadau mynediad.

Trefnu cyfrifon ar sail:

  • Adrannau wedyn Dyddiadau Tymhorau. Er enghraifft: Yr Adran Wyddoniaeth; hydref 2012/gwanwyn 2013/haf 2013
  • Adrannau wedyn Isadrannau. Er enghraifft: Yr Adran Wyddoniaeth; Ffiseg/Bioleg/Cemeg
  • Adrannau wedyn Isadrannau wedyn Math o gwrs. Er enghraifft: Yr Adran Wyddoniaeth; Bioleg; Wyneb i Wyneb/Cyfunol/Ar-lein yn llwyr
  • Ysgol wedyn Lefel gradd. Er enghraifft: Ysgol K12; Gradd gyntaf

Gweld Cyrsiau ac Adrannau

Mae cyrsiau (Courses) yn cael eu hychwanegu at gyfrif neu isgyfrif [1]. Y cyrsiau yw’r rhith ystafell ddosbarth lle mae'r holl gynnwys yn cael ei gadw a lle mae defnyddwyr yn gallu dysgu a rhyngweithio ag addysgwyr a'u cyfoedion.

Mae adrannau (Sections) yn grŵp o fyfyrwyr sydd wedi’u trefnu at ddibenion gweinyddol [2]. Pan fydd defnyddwyr wedi ymrestru ar gwrs, maen nhw mewn gwirionedd wedi ymrestru yn un o adrannau’r cwrs hwnnw. Mae'n bosib rhoi mwy nag un adran mewn cwrs, ond does dim modd rhoi adrannau mewn adrannau. Mae pob adran o'r cwrs yn rhannu'r un cynnwys.

Os yw cwrs yn cael ei ddysgu gan un neu ragor o ddysgwyr, gall adrannau aros o dan un cwrs os yw pob addysgwr yn cael ei ychwanegu i’w adran ei hun.

Opsiynau Adran

Opsiynau Adran

Gall pob adran fod â’i dyddiadau erbyn amrywiol ar gyfer aseiniadau, cwisiau, a thrafodaethau. Er enghraifft, efallai y bydd gan gwrs adrannau sy'n cwrdd ar ddiwrnodau gwahanol o'r wythnos neu mewn fformatau gwahanol (ar-lein o'i gymharu ag wyneb i wyneb).

Mae adrannau’n fuddiol hefyd pan fydd cynorthwywyr dysgu yn cael eu neilltuo i helpu i reoli cyrsiau a goruchwylio’r broses raddio ar gyfer cyfran o ymrestriad cwrs. Fel rhan o ymrestriadau SIS neu ymrestriadau heb fod yn rhai awtomatig, gallwch gyfyngu'r myfyrwyr i weld myfyrwyr yn unig yn eu hadran. Gall addysgwyr gyfyngu’r myfyrwyr hefyd os ydych chi'n gadael iddyn nhw ymrestru defnyddwyr eu hunain yn eu cyrsiau eu hunain.

Nodyn: Does dim modd i weinyddwyr ac addysgwyr gyfyngu adrannau rhag cael mynediad at grwydro cyrsiau (h.y. Aseiniadau, Trafodaethau, Cwisiau, ayb). Os byddwch chi eisiau neilltuo aseiniadau penodol i adrannau unigol, mae modd gwneud hyn o’r maes Neilltuo I (Assign To).