Sut ydw i’n dileu cyflwyniad aseiniad wedi’i lwytho i fyny fel ffeil fel gweinyddwr?

Fel gweinyddwr, gallwch chi ddileu cyflwyniad aseiniad myfyriwr yn Speedgrader. Mae hyn yn gadael i chi reoli cyflwyniadau amhriodol neu gyflwyniadau sydd angen cael eu tynnu o gwrs.

Nodiadau:

  • Dim ond gweinyddwyr sydd â’r hawl Defnyddwyr - Gweithredu Fel sy’n gallu dileu cyflwyniadau aseiniad.
  • Dim ond cyflwyniadau aseiniad wedi’i lytho i fyny fel ffeil sy’n gallu cael eu dileu gan weinyddwr

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cwrs

Gallwch chi ddefnyddio opsiynau hidlo [1] neu chwilio [2] y cwrs i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

I agor cwrs, cliciwch enw’r cwrs rydych chi eisiau ei agor [3].

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Agor Aseiniad

Cliciwch enw’r aseiniad.

Agor SpeedGrader

Cliciwch y ddolen SpeedGrader.

Dileu Cyflwyniad

Dod o hyd i ddolen y ffeil cyflwyniad [1]. Yna cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [2].

Cadarnhau’r broses Dileu

Cadarnhau’r broses Dileu

I gadarnhau eich bod chi eisiau dileu’r ffeil cyflwyniad, cliciwch y botwm Iawn (OK).

Gweld Ffeil wedi’i Dileu

Ar ôl i’r ffeil gael ei dileu, bydd neges yn ymddangos yn SpeedGrader i roi gwybod i addysgwyr bod y ffeil wedi cael ei dileu [1].  Mae’r ffeil cyflwyniad hefyd yn cael ei disodli gan File_Removed.pdf [2].