Sut ydw i’n defnyddio’r dudalen Pobl mewn cyfrif?

Gallwch weld pob defnyddiwr yn eich cyfrif ar y dudalen Pobl. Gallwch weld a hidlo defnyddwyr yn ôl rôl cwrs, yn ogystal â chwilio am ddefnyddwyr unigol. Hefyd, gallwch roi colofnau canlyniadau chwilio mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol.

Ar gyfer yr holl ddefnyddwyr, gallwch reoli a chreu grwpiau cyfrif, rheoli lluniau proffil a gweld proffiliau’r defnyddwyr.

Nodyn: Efallai y byddwch yn gweld opsiynau i reoli ymrestriadau dros dro (manage temporary enrollments) ar y dudalen Pobl, os yw hynny wedi’i alluogi ar gyfer eich sefydliad.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor Defnyddwyr

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Gweld yr adnodd Pobl mewn Isgyfrifon

Gweld yr adnodd Pobl mewn Isgyfrifon

Os ydych chi wedi trefnu cyrsiau yn eich cyfrif yn ôl isgyfrifon a bod y cyrsiau hynny’n cynnwys ymrestriadau, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts) i ddod o hyd i’r isgyfrif a’i agor, yna cliciwch ddolen Pobl (People) yr isgyfrif.

Gweld yr adnodd Pobl

Mae'r dudalen Pobl yn dangos yr holl ddefnyddwyr yn y cyfrif. Mae’r dudalen wedi’i dylunio gyda'r gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1] ac yna’r data defnyddiwr sydd wedi’i greu [2].

Mae pob maes yn defnyddio lled y porwr i gyd, ac mae modd addasu hyn yn ôl yr angen i arddangos data am y cwrs.

Chwilio a Hidlo Defnyddwyr

Mae’r gosodiadau cyffredinol yn cynnwys chwilio a hidlo yn ôl data defnyddiwr. Caiff meysydd chwilio a hidlyddion eu diweddaru'n ddeinamig.

Mae'r dudalen Pobl yn dangos defnyddwyr yn ôl yr holl rolau cwrs yn ddiofyn. I hidlo defnyddwyr yn ôl rôl unigol, dewiswch y ddewislen Rolau (Roles) [1].

Gallwch chwilio am ddefnyddiwr penodol yn ôl enw, e-bost, ID SIS, ID mewngofnodi ac ID defnyddiwr Canvas. Os oes gennych chi’r hawliau Rheoli Data SIS a Darllen Data SIS, gallwch chi hefyd chwilio yn ôl ID Integreiddio.

I chwilio am ddefnyddiwr penodol, teipiwch yn y maes chwilio [2].

I gynnwys defnyddwyr wedi’u dileu mewn canlyniadau chwilio, cliciwch y blwch ticio Cynnwys defnyddwyr wedi’u dileu mewn canlyniadau chwilio (Include deleted users in search results) [3].

Nodyn: Nid yw’r ddewislen Rolau (Roles) yn cynnwys rolau gweinyddol. 

Rheoli Defnyddwyr

Rheoli Defnyddwyr

I ychwanegu defnyddiwr at y cyfrif,, cliciwch y botwm Ychwanegu Pobl (Add People) [1]. Dydy'r botwm Ychwanegu Pobl ddim ond yn ymddangos os oes gennych ganiatâd i reoli ymrestriadau.

I reoli opsiynau defnyddwyr ar lefel y cyfrif, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) [2]. Os oes gennych chi hawliau priodol, gallwch chi reoli lluniau proffil a gweld grwpiau o ddefnyddwyr.

Gweld Defnyddwyr

Mae’r dudalen Pobl yn tudalennu canlyniadau hidlo a chwilio mewn setiau o 15 defnyddiwr ac maent yn cael eu rhoi yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw. Mae pob tudalen sydd wedi’i thudalennu yn cael ei dangos mewn fformat tabl ond mae’r colofnau’n addasu yn unol â'r golofn letaf ar y dudalen honno.

Mae’r canlyniadau'n dangos enw a llun proffil y defnyddiwr [1], cyfeiriad e-bost [2], ID SIS (os yw’n berthnasol) [3] a’r dyddiad a’r amser y mewngofnodwyd ddiwethaf [4]. Os oes rhywun wedi mewngofnodi ar y diwrnod presennol, dim ond yr amser fydd yn cael ei ddangos.

Gellir gosod pennawd pob colofn mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol.

Nodiadau:

  • Mae gweld cyfeiriadau e-bost defnyddwyr yn hawl cyfrif. Yn dibynnu ar eich hawliau, efallai na fyddwch chi’n gallu gweld cyfeiriad e-bost defnyddiwr.
  • Os nad oes lluniau proffil ar gael neu os nad yw defnyddiwr wedi dewis llun proffil eto, bydd llythrennau blaen y defnyddiwr i’w gweld yn lle llun proffil.

Rheoli Defnyddiwr

I agor proffil defnyddiwr, cliciwch enw’r defnyddiwr [1].

Gallwch greu ymrestriad dros dro (create a temporary enrollment) [2] os yw hynny wedi’i alluogi ar gyfer eich sefydliad. Gallwch hefyd weithredu fel y defnyddiwr [3], anfon neges o’r Blwch Derbyn Sgyrsiau [4], a golygu manylion y defnyddiwr [5].

 

Gweld Proffil y Defnyddiwr

Bydd proffil y defnyddiwr yn dangos gwybodaeth am y defnyddiwr mewn sawl ardal:

  • Enw ac E-bost (Name and Email) [1]: yn dangos enw llawn y defnyddiwr, enw arddangos y defnyddiwr, enw mewn trefn, llun proffil, e-bost diofyn, a pharth amser. Fel gweinyddwr, gallwch chi olygu manylion proffil y defnyddiwr, gweithredu fel y defnyddiwr, cyfuno cyfrif y defnyddiwr a dileu’r defnyddiwr o’r cyfrif.
  • Gwybodaeth mewngofnodi (Login information) [2]: yn dangos gwybodaeth mewngofnodi’r defnyddiwr, ID SIS (os o gwbl), cyfrif, a chais olaf. Os oes gennych chi hawl, gallwch chi reoli gwybodaeth mewngofnodi eich hun er mwyn golygu'r wybodaeth mewngofnodi neu ychwanegu gwybodaeth mewngofnodi a chyfrinair ychwanegol.
  • Ymrestriadau (Enrollments) [3]: yn dangos yr ymrestriadau ar gyfer y defnyddiwr wedi’u grwpio yn ôl cwrs a/neu gyfrifon (os yw’r defnyddiwr hefyd yn weinyddwr).
  • Ymweliadau â'r Dudalen (Page Views) [4]: yn dangos yr ymweliadau mwyaf diweddar ar gyfer y defnyddiwr.

 

Pan fydd ar gael, gallwch chi hefyd weld canlyniadau deilliant ar gyfer y defnyddiwr [5] ac anfon neges at y defnyddiwr [6].