Fel gweinyddwr, gallwch ddefnyddio’r Golygydd Thema (Theme Editor) greu themâu personol ar gyfer eich sefydliad. Mae themâu yn cael eu creu o dempledi Canvas sy’n bodoli’n barod. Mae unrhyw thema sydd ar waith yn y cyfrif hefyd ar waith yn yr holl isgyfrifon, er bod modd defnyddio’r Golygydd Thema (Theme Editor) i greu themâu ar gyfer isgyfrifon unigol. Ar ôl i chi greu a chadw thema, gallwch roi’r thema ar waith ar gyfer eich cyfrif ar unrhyw adeg Gallwch hefyd greu themâu newydd yn seiliedig ar themâu blaenorol. Dysgu sut i reoli themâu wedi’u cadw.
Gweld fideo am y Golygydd Thema.
Etifeddu Thema (Theme Inheritance)
Mae brand personol yn cael ei gynnal ar lefel y cyfrif, ac yn ddiofyn, mae isgyfrifon a’u cyrsiau cysylltiedig yn etifeddu brand cwrs. Ond, gallwch alluogi isgyfrifon i ddefnyddio’r Golygydd Thema; bydd unrhyw elfennau sydd ddim yn cael eu newid yn benodol yn dal yn cael eu hetifeddu ar lefel y cyfrif.
Mae ymrestriadau defnyddwyr yn gysylltiedig ar lefel y cyfrif, ac mae ymrestriadau cwrs yn gysylltiedig ar lefel yr isgyfrif. Mae ymrestriad yn cael ei greu pan fydd defnyddiwr a chwrs yn cael eu cyfuno. Os nad yw defnyddiwr wedi ymrestru ar unrhyw gwrs, yna bydd y Dangosfwrdd yn dangos brand y cyfrif. Mae’r algorithm hwn hefyd yn ymwneud â thudalennau sydd ddim yn gysylltiedig â chwrs gan gynnwys cyfrif a gosodiadau defnyddiwr, Calendr, a Sgyrsiau. Mae data defnyddwyr wastad yn cael ei ddal ar lefel y cyfrif, a dyna pam nad oes modd iddyn nhw etifeddu brand isgyfrifon.
Os yw defnyddiwr wedi ymrestru ar gwrs yn y cyfrif, yna mae’r Dangosfwrdd yn dangos brand y cyfrif. Os yw defnyddiwr wedi ymrestru ar gwrs o fewn isgyfrif, yna mae’r Dangosfwrdd yn dangos brand isgyfrif. Os yw defnyddiwr wedi ymrestru ar gwrs o fewn mwy nag un isgyfrif, neu os yw un o'r cyrsiau yn y cyfrif, yna mae’r Dangosfwrdd yn dangos brand y cyfrif.
Cydrannau’r Golygydd Thema (Theme Editor Components)
Am fanylion am gydrannau’r Golygydd Thema, gan gynnwys cydrannau sydd i'w gweld ar apiau Canvas, ewch i weld PDF Cydrannau Golygydd Thema Canvas. I gael help gyda thempledi delweddau, ewch i weld PDF Templedi Delweddau Golygydd Thema Canvas. Dydy logos, delweddau, a marciau dŵr ddim i’w gweld gan ddefnyddwyr sy’n galluogi’r opsiwn nodwedd Arddulliau Cyferbynnedd Uchel (High Contrast Styles) yng ngosodiadau’r defnyddiwr.
Ffeil CSS/JS (CSS/JS Files)
Does dim angen ffeiliau dalenni arddull rhaeadru (CSS) neu JavaScript (JS) personol, ond mae’r Golygydd Thema yn gallu delio â ffeiliau disodli hefyd. Rhaid i swyddogaeth ffeil CSS/JS fod wedi’i galluogi gan eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid. Cyn llwytho ffeiliau CCS neu JS personol i fyny, byddwch yn ymwybodol o’r peryglon cysylltiedig, gan y gall ffeiliau personol achosi anawsterau hygyrchedd neu wrthdaro â diweddariadau Canvas yn y dyfodol. Gallwch ddysgu mwy am gyfyngiadau ar CSS/JS personol.
Nodiadau:
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Themâu (Themes).
Nodyn: Os yw themâu isgyfrifon wedi cael eu galluogi, mae pob isgyfrif hefyd yn cynnwys dolen Themâu (Themes). I agor y Golygydd Thema ar gyfer isgyfrif, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts) i ganfod yr isgyfrif a’i agor, yna cliciwch ddolen Themâu (Themes) yr isgyfrif.
Os nad oes gennych chi thema Canvas ar gyfer eich cyfrif, defnyddiwch dempled i greu thema newydd. Gallwch ddewis templed Diofyn Canvas, templed syml a thempled Cyflwr U. Os yw eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid wedi galluogi’r opsiwn nodwedd sy'n benodol i K12, bydd y Thema K12 hefyd yn ymddangos fel templed.
I greu thema newydd, dylech hofran uwchben templed a chlicio’r botwm Agor yn y Golygydd Thema (Open in Theme Editor) [1], neu cliciwch y botwm Ychwanegu Thema (Add Theme) [2] a dewis templed o’r rhestr.
Os ydych chi eisoes wedi creu a chadw thema, gallwch olygu themâu sydd wedi’u cadw unrhyw bryd. Mae themâu sydd wedi’u cadw yn ymddangos yn yr adran Fy Themâu (My Themes). I agor thema sydd wedi'i chadw, dylech hofran dros enw’r thema a chlicio’r botwm Agor yn y Golygydd Thema (Open in Theme Editor) [1].
I greu thema newydd yn seiliedig ar thema sydd wedi’i chadw, cliciwch y botwm Ychwanegu Thema [2] a dewis enw'r thema sydd wedi’i gadw ar y rhestr [3]. Mae’r opsiwn hwn yn eich helpu i osgoi diystyru'r thema rydych chi eisoes wedi’i chadw.
Mae’r Golygydd Thema (Theme Editor) yn dangos tudalen sampl er mwyn i chi gael rhagolwg o’ch brand personol. Bydd y cydrannau hyn yn newid yn unol â’r lliwiau a’r brand rydych chi’n eu hychwanegu gan ddefnyddio'r Golygydd Thema (Theme Editor).
Os oes ffeiliau disodli dalenni arddull rhaeadru (CSS) neu JavaScript (JS) personol wedi cael eu galluogi ar gyfer eich cyfrif, yna bydd bar ochr y Golygydd Thema (Theme Editor) yn dangos tab Golygu (Edit) [1] a thab Llwytho i fyny (Upload) [2]. Yn ddiofyn, mae’r Golygydd Thema yn mynd i’r tab Golygu (Edit) ac yn dangos holl gydrannau’r Golygydd Thema. Mae’r tab Llwytho i fyny (Upload) yn gadael i chi lwytho ffeiliau personol i fyny.
Mae gan y Golygydd Thema bedwar grŵp o gydrannau: Brand Cyffredinol, Crwydro'r Safle Cyfan, Marciau Dŵr, Delweddau Eraill, a Sgrin Mewngofnodi. Yn ddiofyn, mae bar ochr y Golygydd Thema yn dangos y grŵp Brand Cyffredinol (Global Branding).
Chwiliwch am y gydran rydych chi am ei haddasu. Gallwch ehangu a chrebachu grwpiau drwy glicio’r eicon saeth drws nesaf i bennawd y grŵp.
Mae gwerth diofyn pob cydran wedi’i bylu yn y maes testun.
I nodi cydran lliw, dewch o hyd i faes testun y gydran a rhowch liw CSS newydd. Gallwch roi lliwiau gan ddefnyddio cod HEX, gwerth RGB, neu enw lliw dilys.
Nodyn: Bydd lliwiau sy’n cael eu rhoi yn newid ac yn ymddangos fel codau hex.
Mewn porwyr sy’n gallu delio â lliwiau cynhenid, mae modd defnyddio’r dewisydd lliwiau i ddewis gwerth. Chwiliwch am y gydran a chlicio’r blwch lliw. Bydd y dewisydd lliw yn ymddangos mewn ffenestr newydd.
Dewiswch liw yn y ffenestr dewis lliw [1]. Ar ôl i liw gael ei ddewis, bydd y gydran yn dangos y lliw newydd yn y blwch [2]. Hefyd, bydd lliw hex y gydran yn diweddaru gyda’r gwerth lliw newydd.
Ar gyfer cydrannau sydd angen delweddau, dewch o hyd i’r gydran a chliciwch y ddolen Dewis Delwedd (Select Image). Bydd y disgrifiad o’r ddelwedd yn cynnwys mathau o ffeiliau cydnaws.
I weld rhagolwg o’ch thema, cliciwch y botwm Gweld Rhagolwg o’ch Newidiadau (Preview Your Changes).
Bydd Canvas yn creu rhagolwg o’r cydrannau ar sail eich newidiadau i’r templed. Os oes angen, gallwch wneud newidiadau ychwanegol a gweld rhagolwg o'ch thema eto.
Pan fyddwch chi’n fodlon ar y newidiadau i’ch templed, cadwch eich thema drwy glicio’r botwm Cadw Thema (Save Theme).
Os ydych chi wedi addasu thema o dempled, mae’r Golygydd Thema yn creu copi o’r thema. Does dim modd golygu templedi yn uniongyrchol. Yn y maes Enw Thema (Theme Name) [1], rhowch enw ar gyfer eich thema. Cliciwch y botwm Cadw Thema (Save Theme) [2].
Nodyn: Os ydych chi wedi golygu thema sydd wedi’i chadw eisoes, bydd cadw’r thema yn diystyru’r fersiwn blaenorol ac yn defnyddio’r un enw ar gyfer y thema.
I roi eich thema ar waith yn eich cyfrif, cliciwch y botwm Rhoi Thema ar Waith (Apply theme) [1].
I adael y thema a dychwelyd i'r dudalen Themâu, cliciwch y botwm Gadael (Exit) [2]. Gallwch agor y thema a’i rhoi ar waith yn eich cyfrif unrhyw dro.
I roi thema ar waith yn eich cyfrif cyfan, cliciwch y botwm Iawn (OK) [1]. I ddychwelyd i'r Golygydd Thema (Theme Editor), cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [2].
Nodyn: Os yw eich cyfrif yn caniatáu i isgyfrifon addasu eu themâu eu hunain, yna bydd unrhyw newidiadau perthnasol rydych chi wedi’u gwneud hefyd yn hidlo i lawr i unrhyw isgyfrifon cysylltiedig. Mae Canvas yn dangos statws eich diweddariadau yn y Golygydd Thema; ar ôl i’r broses gael ei chwblhau ar gyfer pob isgyfrif, bydd yr isgyfrif yn diflannu o’r ffenestr cynnydd. Ar ôl i'r holl isgyfrifon gael eu diweddaru, bydd y Golygydd Thema yn eich ailgyfeirio yn ôl i’r dudalen Themâu (Themes).