Sut ydw i’n rhedeg adroddiadau Cofrestr Presenoldeb ar gyfer cyfrif?

Gallwch chi redeg adroddiadau i adolygu gwybodaeth presenoldeb at gyfer is-garfan o’r cyrsiau a’r myfyrwyr yn eich cyfrif. Mae’r adroddiad hwn yn cael ei anfon i’ch e-bost, lle gallwch chi ei lwytho i lawr fel ffeil gwerth wedi’i wahanu gan goma (CSV).

Mae’r adroddiad CSV sydd wedi’i lwytho i lawr yn dangos yr holl gynnwys mewn rhestr. Mae adroddiadau bob amser yn cynnwys y meysydd data canlynol: ID y Cwrs, ID y Cwrs SIS, Cod y Cwrs, Enw’r Cwrs, ID yr Athro, Enw’r Athro, ID y Myfyriwr, Enw’r Myfyriwr, Dyddiad y Dosbarth, Presenoldeb, a Stamp Amser.

Mae Bathodynnau Cofrestr Presenoldeb wedi’u cynnwys yn adroddiadau’r cyfrif os cawson nhw eu creu yn y cyfrif a’u bod wedi cael eu neilltuo i fyfyrwyr. Yn ogystal, dim ond os cawson nhw eu gosod o fewn y cyfnod rydych chi’n ei nodi yn yr adroddiad y bydd bathodynnau’n cael eu cynnwys/ I weld bathodynnau ar gyfer adroddiadau mewn is-gyfrif, rhaid i chi wneud cais am yr adroddiad o’r is-gyfrif. Er enghraifft, os yw addysgwr wedi marcio myfyriwr gyda bathodyn a gafodd ei greu mewn cwrs neu mewn is-gyfrif, ni fydd y bathodyn yn ymddangos yn yr adroddiad pan fydd yn cael ei allgludo o’r cyfrif.

Gallwch chi greu adroddiadau ar gyfer y cwrs cyfan, neu gallwch chi greu adroddiadau’n seiliedig ar fyfyrwyr neu gyrsiau penodol. I ddod o hyd i ID y cwrs neu’r myfyriwr, edrychwch ar y dudalen Pobl, cliciwch enw myfyriwr, a bydd Id y cwrs a’r myfyriwr yn URL y porwr (e.e. courses/XXXXXX/users/XXX).

Nodyn: Er mwyn casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen, bydd adroddiad darpariaeth hefyd yn cael ei greu pan fydd cais yn cael ei wneud am adroddiad presenoldeb. Gellir gweld yr adroddiad darpariaeth yn y tab Adroddiadau yng Ngosodiadau’r Cyfrif.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Presenoldeb

Gweld Presenoldeb

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Presenoldeb (Attendance).

Nodi Data Adroddiad

Creu Adroddiad

Yn y tab Creu Adroddiad, gallwch chi nodi’r meini prawf ar gyfer eich adroddiad. Os byddwch chi’n gadael meysydd yn wag, bydd yr adroddiad yn cael ei greu ar gyfer y cyfrif cyfan.

Gallwch chi ddewis ystod dyddiadau ar gyfer yr adroddiad [1]. Hefyd, gallwch chi hidlo’n opsiynol yn ôl ID cwrs SIS [2] neu ID myfyriwr SIS [3].

Yn ddiofyn, bydd y maes e-bost [4] yn cael ei boblogi gyda’ch cyfeiriad e-bost i anfon yr adroddiad. Ewch ati i gadarnhau eich e-bost yn y maes neu roi cyfeiriad e-bost newydd.

Rhedeg Adroddiad

Cliciwch y Botwm Rhedeg Adroddiad

Cliciwch y botwm Rhedeg Adroddiad (Run Report).

Gweld Hysbysiad

Gweld Hysbysiad o Adroddiad

Dylai hysbysiad ymddangos os cafodd eich cais ei chyflwyno’n llwyddiannus.

Gweld E-bost

Byddwch chi’n derbyn e-bost gyda'r pwnc Adroddiad Cofrestr Presenoldeb. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen lle gallwch chi gael gafael ar eich adroddiad presenoldeb am y 24 awr nesaf. Pan fyddwch chi’n clicio’r ddolen, gallwch chi ddewis gweld canlyniadau’r adroddiad neu eu llwytho i lawr.