Sut ydw i’n ffurfweddu allwedd LTI ar gyfer cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch chi ffurfweddu allwedd LTI o’r dudalen Allweddi Datblygwr. Mae allwedd LTI yn gallu cael eu defnyddio i alluogi ap allanol sy’n gallu delio â IMS Global LTI 1.3 a LTI Advantage.

Pan mae darparwr adnoddau’n gallu delio â hyn, mae’r fframwaith hon yn gadael i weinyddwyr reoli holl ddata ffurfweddiad adnodd LTI yn uniongyrchol o’r dudalen Allweddi Datblygwr. Yna, gall yr LTI gael ei ychwanegu at gyfrif neu gwrs drwy ID cleient cysylltiedig. Dylai cwestiynau penodol am integreiddiad neu integreiddiad posib darparwr â fframwaith LTI 1.3 a LTI Advantage gael eu hanfon yn uniongyrchol at y darparwr adnodd.

Nodiadau:

  • Mae Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn un o’r hawliau mewn cyfrif. Os na allwch chi weld dolen yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.
  • Mae analluogi neu ddileu allwedd LTI yn tynnu gosodiadau’r rhaglen.
  • I gael rhagor o wybodaeth am integreiddiadau LTI, ewch i’r dudalen API Cyflwyniad Adnoddau Allanol.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Allweddi Datblygwyr

Agor Allweddi Datblygwyr

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Allwedd Datblygwyr (Developer Keys).

Ychwanegu Allwedd LTI

Ychwanegu Allwedd LTI

Cliciwch y botwm Ychwanegu Allwedd Datblygwr (Add Developer Key) [1]. Yna cliciwch yr opsiwn Ychwanegu Allwedd LTI (Add LTI Key) [2].

 

Rhoi Gosodiadau LTI

Rhoi Gosodiadau LTI

Rhoi’r gosodiadau ar gyfer yr allwedd LTI:

  • Enw Allwedd [1]: Enw’r cwmni neu adnodd allanol.
  • E-bost perchennog [2]: E-bost y person sy’n berchen ar yr adnodd allanol.
  • Ailgyfeirio URIs [3]: Dylai ailgyfeirio data URI gael ei ddarparu gan y darparwr adnodd. Os byddwch chi’n dewis y dull ffurfweddu Gludo JSON, bydd y maes Ailgyfeirio URI yn llenwi’n awtomatig ar ôl i chi roi’r ffurfweddiad LTI 1.3.
  • Nodiadau [4]: Unrhyw nodiadau am yr allwedd LTI, fel y rheswm y cafodd ei chreu.

Dewis Dull Ffurfweddu

I ddewis y dull rydych chi eisiau ei ddefnyddio i ffurfweddu eich adnodd LTI, cliciwch y gwymplen Dull (Method).

 

Rhoi Manylion Cofnod eich hun

Rhoi Manylion Cofnod eich hun

I roi manylion eich allwedd LTI eich hun, cliciwch yr opsiwn Rhoi eich hun (Manual Entry) [1].

Os yw’r darparwr adnodd yn gofyn bod eu hadnodd yn cael eu gosod drwy roi eich hun, bydd angen iddyn nhw ddarparu’r manylion i lenwi’r meysydd gofynnol. Y meysydd gofynnol yw teitl [2], disgrifiad [3], URL dolen darged [4], URL cychwyn cysylltiad OpenID [5], a dull JWK [6]. Mae modd gosod y dull JWK i JWK cyhoeddus neu URL JWK cyhoeddus.

Gallwch chi hefyd roi manylion nad oes eu hangen ar gyfer gwasanaethau LTI Advantage [7], gosodiadau ychwanegol [8], a lleoliadau [9]. Bydd unrhyw eitemau sy’n cael eu dewis yn y maes Lleoliadau yn ymddangos fel eitemau gosodiad LTI [10].

Note: Os nad yw’r gwerthwyr LTI yn gallu darparu’r wybodaeth am y meysydd gofynnol, efallai y byddwch chi eisiau ffurfweddu’r adnodd drwy’r opsiwn Gludo JSON neu Rhoi URL.

Rhowch Fanylion JSON

I ludo fformatio JSON ar gyfer eich ffurfweddiad LTI 1.3, cliciwch yr opsiwn Gludo JSON (Paste JSON) [1].

Yna rhowch y fformatio JSON yn y maes Ffurfweddiad LTI 1.3 (LTI 1.3 Configuration) [2].

Rhoi URL JSON

I roi URL JSON, cliciwch yr opsiwn Rhoi URL (Enter URL) [1]. Yna rhowch yr URL JSON yn y maes URL JSON (JSON URL) [2].

Cadw Allwedd LTI

Cadw Allwedd LTI

I gadw eich allwedd, cliciwch y botwm Cadw (Save).

Gweld Allwedd LTI

Gweld eich allwedd LTI [1]. Yr eicon Adnodd Allanol [2] sy’n dangos yr allweddi LTI.

Mae pob allwedd LTI yn cynnwys ID cleient [3]. Copïwch neu ysgrifennu’r ID cleient i alluogi’r adnodd allanol o’ch Gosodiadau Cyfrif neu i’w rannu â defnyddwyr i alluogi’r adnodd mewn cwrs.