Sut ydw i’n traws-restru adran mewn cwrs fel gweinyddwr?

Mae traws-restru yn caniatáu i chi symud ymrestriadau ar adrannau o gyrsiau unigol a’u cyfuno mewn un cwrs. Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol i addysgwyr sy’n dysgu mwy nag un adran o’r un cwrs, ac sydd am reoli data cwrs mewn un lleoliad yn unig. Gall addysgwyr ganiatáu i fyfyrwyr weld defnyddwyr mewn adrannau eraill, neu gyfyngu arnyn nhw fel mai dim ond defnyddwyr yn yr un adran y maen nhw’n gallu eu gweld. Ni fydd enwau adrannau yn newid pan fyddan nhw’n cael eu traws-restru; dim ond cael ei symud i gwrs arall mae’r adran.

Dylid traws-restru pan fydd cyrsiau heb eu cyhoeddi. Caiff gwaith cwrs ei gadw yn y cwrs, nid gydag ymrestriadau’r adran. Felly, os bydd cwrs sydd wedi'i gyhoeddi yn cael ei draws-restru, bydd yr holl ymrestriadau wedi’u traws-restru yn colli unrhyw raddau ac asesiadau cysylltiedig sydd wedi’u cyflwyno. Ni fydd sgyrsiau rhwng defnyddwyr a gafodd eu creu cyn i adran gael ei draws-restru yn caniatáu atebion ar ôl traws-restru.

I draws-restru cwrs, rhaid i chi wybod beth yw enw’r cwrs neu ID y cwrs rydych chi am draws-restru iddo. Fodd bynnag, mae defnyddio ID cwrs yn ffordd well o gadarnhau eich bod yn traws-restru adran i'r cwrs cywir. Gallwch ddod o hyd i ID y cwrs drwy agor y cwrs ac edrych ar y rhif ar ddiwedd URL y porwr (e.e. account.instructure.com/courses/XXXXXX).

Dim ond mewn un cwrs ar y tro y gall adrannau ymddangos. Ar ôl i adran gael ei thraws-restru, gallwch draws-restru’r adran eto i gwrs arall os oes angen. Gallwch hefyd dynnu adran oddi ar y draws-restr.

Mae’r erthygl hwn yn dangos sut i draws-restru adran eich hun. Ond, mae hefyd modd traws-restru gan ddefnyddio’r nodwedd mewngludo SIS. I gael rhagor o wybodaeth am draws-restru, gwyliwch y fideo am draws-restru.

Nodiadau: Cyn y bydd modd i chi draws-restru adran, rhaid i’r cwrs gynnwys o leiaf un ymrestriad.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

Agor Gosodiadau

Yn y rhestr cyrsiau, cliciwch eicon Gosodiadau (Settings) cwrs y plentyn.

Agor Adrannau

Agor Adrannau

Cliciwch y tab Adrannau (Sections).

Agor Adran

Agor Adran

Cliciwch deitl yr adran rydych chi am ei thraws-restru.

Traws-restru adran

Traws-restru adran

Cliciwch y botwm Traws-Restru’r Adran Hon (Cross-List this Section).

Chwilio am gwrs

Chwilio am gwrs

Yn y maes Chwilio am Gwrs (Search for Course) [1], rhowch enw'r cwrs rydych chi’n traws-restru iddo. Neu, yn y maes ID y Cwrs (Course ID) [2], rhowch y rhif ID ar gyfer y cwrs.

Traws-restru’r adran hon

Traws-restru’r adran hon

Cadarnhewch eich bod wedi dewis y cwrs cywir [1]. Cliciwch y botwm Traws-Restru’r Adran Hon (Cross-List This Section) [2].

Cadarnhau Traws-Restru

Mae’r adran wedi'i thraws-restru nawr yn ymddangos yn y cwrs newydd. Bydd y briwsion bara yn dangos cod newydd y cwrs.

Traws-Restru’r Adran Eto

Traws-Restru’r Adran Eto

Dim ond mewn un cwrs ar y tro y gall adrannau ymddangos. Os oes angen traws-restru’r adran hon mewn cwrs arall, cliciwch y botwm Traws-Restru’r Adran Hon Eto (Re-Cross-List this Section).