Sut ydw i’n defnyddio’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan fel gweinyddwr?

Mae'r Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan i'w gweld ar ochr chwith pob tudalen yn Canvas. Mae’r dolenni Crwydro’r Safle Cyfan yn rhoi mynediad cyflym at nodweddion Canvas a ddefnyddir yn aml. Fel gweinyddwr, dyma rai o’ch dolenni diofyn: y ddewislen Help, Cyfrif Defnyddiwr, Gweinyddwr, Dangosfwrdd, Cyrsiau, Grwpiau, Calendr a Blwch Derbyn.

Yn ddibynnol ar osodiadau cyfrif eich sefydliad, efallai y bydd dolenni eraill yn ymddangos yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan.

Gweld Cyfrif

Gweld Cyfrif

I weld eich gwybodaeth defnyddiwr, cliciwch y ddolen Cyfrif. Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos dolenni i gael mynediad at eich proffil, gosodiadau defnyddiwr, gosodiadau ar gyfer hysbysiadau, ffeiliau personol ac e-Bortffolios. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ddolen Cyfrif i allgofnodi o Canvas.

Gweld Gweinyddwr

Gweld Gweinyddwr

Os ydych chi’n weinyddwr Canvas, gallwch gael mynediad at gyfrifon ac isgyfrifon Canvas eich sefydliad drwy ddefnyddio’r ddolen Gweinyddwr (Admin) [1]. Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos rhestr o’ch cyfrifon. I weld cyfrif, cliciwch enw’r cyfrif [2]. I weld eich holl gyfrifon sy’n cael eu rheoli, cliciwch y ddolen Pob Cyfrif (All Accounts) [3].

Gweld Dangosfwrdd

Y Dangosfwrdd yw’r dudalen lanio ar ôl i ddefnyddiwr fewngofnodi i Canvas. Mae modd newid gosodiadau’r Dangosfwrdd i ddangos cardiau cwrs neu restr o weithgarwch diweddar, gan gynnwys hysbysiadau ar gyfer holl gyrsiau presennol Canvas.

Gweld Cyrsiau

Gweld Cyrsiau

I weld eich cyrsiau, cliciwch y ddolen Cyrsiau [1]. Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos unrhyw gyrsiau rydych chi wedi ymrestru ar eu cyfer [2].

Mae’r ddewislen hon hefyd yn dangos unrhyw gyrsiau sydd wedi'u marcio fel ffefrynnau. Os nad oes unrhyw gyrsiau wedi’u dewis fel ffefrynnau, bydd y rhestr cyrsiau yn dangos yr holl gyrsiau presennol. Os bydd cwrs yn cynnwys dyddiadau tymhorau, bydd enw'r tymor yn ymddangos gyda’r cwrs.

Os ydych chi wedi cael eich ychwanegu at unrhyw gyrsiau, gallwch edrych ar gwrs drwy glicio ei enw. Os yw’ch sefydliad wedi galluogi’r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus (Public Course Index), gallwch weld pob cwrs sydd ar gael drwy glicio’r ddolen Pob Cwrs (All Courses) [3].

Gweld Grwpiau

Gweld Grwpiau

Os ydych chi wedi ymrestru ar unrhyw grwpiau, gallwch weld eich grwpiau drwy ddefnyddio’r ddolen Grwpiau (Groups) [1]. Bydd dewislen yn ehangu ac yn dangos pob grŵp rydych chi wedi ymrestru ar ei gyfer. Fel arfer, mae unrhyw grwpiau rydych chi’n aelodau ohonyn nhw yn bodoli fel grŵp cyfrif.

I weld grŵp, cliciwch enw’r grŵp [2]. I weld eich holl grwpiau, cliciwch y ddolen Pob Grŵp [3].

Note: Does dim modd addasu'r grwpiau yn y gwymplen.

Gweld Calendr

I weld eich Calendr, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar). Gallwch greu digwyddiadau ar gyfer eich calendr personol, a gweld digwyddiadau cyrsiau lle rydych chi wedi cael eich ychwanegu fel defnyddiwr, os oes rhai.

Gweld Blwch Derbyn

I weld eich Blwch Derbyn ar gyfer yr adran Sgyrsiau, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox). Sgyrsiau yw system negeseuon Canvas lle gallwch chi gyfathrebu â defnyddwyr eraill yn eich cyfrif. Caiff nifer y negeseuon newydd ei ddangos fel rhan o eicon y Blwch Derbyn.

Gweld Hanes

Gweld Hanes

I weld hanes eich ymweliadau â thudalenau cwrs Canvas yn ddiweddar, cliciwch y ddolen Hanes (History). Mae Hanes Diweddar yn dangos hyd at dair wythnos o’ch ymweliadau â thudalennau cwrs Canvas.

Gweld Commons

Os yw eich sefydliad yn cymryd rhan yn Canvas Commons, gallwch gael mynediad at Commons drwy ddefnyddio’r ddolen Commons.

Gweld Help

Gweld Help

I gael help gyda Canvas, cliciwch y ddolen Help [1]. Mae’r ddewislen Help yn ymddangos [2]. Dewiswch yr opsiwn help sy’n berthnasol i’ch anghenion chi. Gallwch addasu’r ddewislen Help ar gyfer eich sefydliad.

Note: Yn ddibynnol ar eich rôl defnyddiwr a gosodiadau eich sefydliad, gall y ddewislen Help ddangos gwahanol opsiynau.

Crebachu’r Ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan

I ehangu neu grebachu’r ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch yr eicon saeth.

Mae’r ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan yn crebachu’n awtomatig ar gyfer sgriniau dyfeisiau tabled.