Sut ydw i’n galluogi cofrestru agored mewn cyfrif ac yn gadael i addysgwyr ychwanegu defnyddwyr at gwrs heb gyfrifon Canvas?
Fel gweinyddwr, gallwch alluogi Cofrestru Agored (Open Registration) ar gyfer eich cyfrif cyfan. Mae cofrestru agored yn galluogi addysgwyr sydd â’r hawliau priodol i ychwanegu defnyddwyr at gwrs, hyd yn oed os nad oes gan y defnyddwyr gyfrifon Canvas yn barod. Pan fydd hyfforddwr yn ychwanegu defnyddiwr at gwrs, anfonir gwahoddiad cwrs at y defnyddiwr. I ymuno â’r cwrs, rhaid i’r defnyddiwr gofrestru â Canvas yn gyntaf a chreu cyfrinair. Bydd cyfrif y defnyddiwr wedyn yn ymddangos yn rhestr Defnyddwyr (Users) y cyfrif.
Hyd yn oed os yw Cofrestru Agored (Open Registration) wedi’i analluogi, bydd rolau gweinyddol sydd â hawl i ychwanegu neu dynnu defnyddwyr bob amser yn gallu ychwanegu defnyddwyr at gyrsiau heb gyfrifon Canvas.
Ar ôl galluogi’r nodwedd hon, gall addysgwyr ychwanegu defnyddwyr ar dudalen Pobl (People) y cwrs.
Agor Cyfrif
Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Newid Cofrestru Agored
Yn y tab Gosodiadau o dan y pennawd Nodweddion (Features), cliciwch y blwch ticio Cofrestru Agored (Open Registration).
Sylwch: Yn ddiofyn, mae’r opsiwn hwn wedi’i ddiffodd.
Diweddaru Gosodiadau
Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).