Sut ydw i’n gweld grwpiau mewn cyfrif?
Mae modd gweld grwpiau presennol yn eich cyfrif. Mae edrych ar grwpiau ar lefel y cyfrif yn debyg i edrych ar grwpiau ar lefel y cwrs. Bydd y grwpiau sydd wedi’u creu ar lefel y cyfrif yn dal i’w gweld ar y ddewislen Grwpiau (Groups) yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan.
Nodyn: Mae gweld grwpiau defnyddwyr yn hawl cyfrif. Os na allwch chi weld grwpiau defnyddwyr, mae eich gweinyddwr wedi atal yr opsiwn hwn.
Agor Cyfrif
![Agor Cyfrif](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/949/740/original/167b4d34-2e3f-4046-9aed-39673e67bdab.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
![Agor yr adnodd Pobl](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/755/382/original/59a3b177-c463-4464-9ce9-51c59096b183.png)
Yn Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Gweld Grwpiau Defnyddwyr
![Gweld Grwpiau Defnyddwyr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/593/835/original/49a413f6-450b-4c1f-958d-60bcb668366a.png)
Cliciwch y ddolen Gweld Grwpiau Defnyddwyr (View User Groups).
Gweld Setiau Grwpiau
Ar ôl i chi greu set grwpiau yn eich cyfrif, bydd y set grwpiau'n ymddangos fel tab er mwyn gallu gweld gwybodaeth am y grwpiau’n hawdd [1]. Gallwch chi hefyd weld set grwpiau drwy glicio enw’r tab.
Mae’r tab sydd wedi’i amlygu'n dangos pa set grwpiau rydych chi'n ei weld [2]. Cliciwch unrhyw dab i weld set grwpiau arall.
Gweld Grwpiau
Wrth i chi greu'r set grwpiau, fe wnaethoch chi hefyd greu grwpiau, naill ai’n awtomatig neu fel arall.
Caiff yr holl grwpiau eu crebachu yn y dudalen yn ddiofyn. Gallwch ehangu pob grŵp a gweld pa fyfyrwyr sydd wedi’u neilltuo ar gyfer pob grŵp yn y set grwpiau, os o gwbl, drwy glicio’r saeth wrth enw'r grŵp [1].
Ar ôl i ddefnyddwyr ddechrau cymryd rhan mewn grŵp, gallwch weld eu gweithgarwch mewn grŵp drwy glicio yr eicon Opsiynau [2] a dewis y ddolen Mynd i Hafan y Grŵp (Visit Group Homepage) [3].
Ychwanegu Set Grwpiau
![Ychwanegu Set Grwpiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/380/283/original/9440be36-0722-4672-a0b9-afd7e99445dc.png)
I ychwanegu set grwpiau,, cliciwch y botwm Ychwanegu Set Grwpiau (Add Group Set).
Rheoli Set Grwpiau
I reoli grŵp, cliciwch eicon Opsiynau y grŵp [1].
I olygu enw’r grŵp, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I ddileu’r grŵp, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [3].
Nodyn: Ar hyn o bryd, nid oes modd defnyddio'r ddolen Neilltuo Myfyrwyr ar Hap (Randomly Assign Students) mewn grwpiau cyfrif. Rhaid i bob myfyriwr gael ei ychwanegu â llaw at bob grŵp.