Sut ydw i’n dirwyn cwrs i ben ar ddiwedd tymor fel gweinyddwr?
Pan mae cwrs wedi dirwyn i ben a’ch bod chi eisiau darparu mynediad darllen yn unig at y cwrs, efallai y byddwch chi’n gallu dirwyn y cwrs i ben eich hun yn Canvas. Ond, os yw eich sefydliad yn defnyddio meddalwedd sy’n dirwyn ymrestriadau i ben yn awtomatig, does dim angen i chi ddirwyn eich cwrs i ben eich hun gan y bydd dyddiad gorffen y cwrs yn dirwyn y cwrs i ben yn awtomatig ar eich rhan.
Pan mae cyrsiau’n cael eu dirwyn i ben gennych chi, mae pob ymrestriad yn cael ei dynnu o’r cwrs a’i roi yn y dudalen ymrestriadau blaenorol. Bydd gan bob defnyddiwr yn y cwrs fynediad darllen yn unig. Mae’r newid hwn yn berthnasol i ben ymrestriad, gan gynnwys addysgwyr cwrs. Ni fydd gan rolau addysgwyr yr un mynediad yn y cwrs a bydd yn arwain at golli swyddogaeth cwrs a gwybodaeth defnyddiwr, fel gweld data SIS. Os oes angen swyddogaeth lawn ar addysgwyr ond eich bod chi eisiau dirwyn y cwrs i ben i fyfyrwyr, gallwch chi newid dyddiad gorffen cyfranogiad y cwrs. Sylwch fod addysgwyr yn gallu newid dyddiad cyfranogiad cwrs eu cyrsiau.
Ar ôl i’r cwrs ddirwyn i ben, os nad ydych chi eisiau i fyfyrwyr allu gweld y cwrs o gwbl, gallwch chi atal myfyrwyr rhag gweld cyrsiau blaenorol. Gallwch chi ddad-ddirwyn cwrs i ben, os oes angen.
Sylwch:
- Mae dirwyn cwrs i ben eich hun yn hawl cwrs. Os nad yw’r botwm Dirwyn y cwrs hwn i ben yn ymddangos yng Ngosodiadau Cwrs, mae’r gosodiad hwn wedi cael ei gyfyngu ar gyfer eich cwrs. Os ydych chi’n addysgwr, cysylltwch â'ch gweinyddwr i gael cymorth.
- Mae dirwyn cwrs i ben eich hun, neu ddirwyn cwrs i ben yn galed, yn arwain at golli swyddogaeth a mynediad defnyddiwr ar gyfer pob rôl defnyddiwr. I gadw gwybodaeth a mynediad defnyddiwr, a swyddogaeth cwrs ar gyfer addysgwyr, ystyriwch ddirwyn cwrs i ben yn feddal gan ddefnyddio dyddiadau tymor neu ddyddiadau gorffen cwrs.
- Pan fydd cwrs wedi dirwyn i ben, bydd dyddiad gorffen cyfranogiad y cwrs yn cael ei boblogi’n awtomatig gyda'r amser a’r dyddiad presennol.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).
Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.
Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.
Dirwyn y cwrs hwn i ben

I ddirwyn eich cwrs i ben, cliciwch y botwm Dirwyn y cwrs hwn i ben Hwn (Conclude this Course).
Dirwyn cwrs i ben

Cliciwch y botwm Dirwyn cwrs i ben (Conclude Course).
Gweld Cadarnhad

Gwiriwch fod y cwrs wedi cael ei ddirwyn i ben.