Sut ydw i’n newid dyddiadau dechrau a gorffen adran y cwrs fel gweinyddwr?

Bydd adrannau’n etifeddu dyddiadau cyrsiau sydd wedi'u pennu ar gyfer eich sefydliad cyfan yn ddiofyn. Os nad yw cwrs yn cynnwys dyddiadau penodol, dyddiadau’r adran yw dyddiadau’r tymor yn ddiofyn. Ond, efallai y bydd angen i chi newid dyddiadau dechrau a gorffen adran. Gall dyddiadau fod yn fyrrach na dyddiadau’r tymhorau neu orgyffwrdd â dyddiadau’r cyrsiau neu dymhorau.

Mae’n bosib i ddyddiadau adran gael effaith ar y dudalen Cyrsiau a lleoliad y cwrs yn y rhestr Ymrestriadau Blaenorol, Presennol ac yn y Dyfodol i fyfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i weld siart rhyngweithiol Gweld Cwrs a Chyfranogiad Myfyriwr (Student Course Visibility and Participation).  

Cyfyngu Dyddiadau Cyfranogiad Defnyddiwr

Gallwch chi bennu p’un ai a yw myfyrwyr ond yn gallu cymryd rhan yn yr adran yn ystod y dyddiadau adran penodedig gan ddefnyddio'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr. Mae cymryd rhan yn golygu bod y myfyrwyr yn gallu cyflwyno aseiniadau, postio trafodaethau, llwytho ffeiliau i fyny, neu gymryd rhan mewn unrhyw dasgau gweithredu eraill ar gyfer adran y cwrs. Os ydych chi'n cyfyngu myfyrwyr i allu cymryd rhan yn ystod dyddiadau’r adrannau yn unig, byddan nhw'n gallu derbyn gwahoddiad adran y cwrs, cael mynediad at adran y cwrs, ac edrych ar gynnwys, ond fydd dim modd iddyn nhw gymryd rhan yn llawn tan ddiwrnod cyntaf y cwrs ar gyfer yr adran. Pan ddaw adran y cwrs i ben, bydd adran y cwrs yn cael ei gwneud yn un darllen-yn-unig.

Dyddiadau Disodli Adran

Mae dyddiadau disodli adran yn cael eu creu os yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi ei ddewis fel rhan o broses creu dyddiadau dechrau a gorffen adran (mae angen y ddau ddyddiad). Gall myfyrwyr gymryd rhan yn adran y cwrs cyn ac ar ôl y dyddiad dechrau a’r dyddiad gorffen, a bydd y gallu i gymryd rhan bob amser yn dibynnu ar ddyddiadau'r cwrs. Os nad yw cwrs yn cynnwys dyddiadau cwrs, mae dyddiadau’n cael eu pennu gan ddyddiadau tymhorau.

Ystyriaethau Dangosfwrdd

Gall y blwch ticio adrannau Cyfranogiad Myfyrwyr effeithio ar gyrsiau sydd wedi'u marcio fel ffefrynnau ac sy'n ymddangos yn y Dangosfwrdd. Os yw adran yn cynnwys dyddiad diystyru a bod y blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi'i ddewis, ni fydd modd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs ar ôl y dyddiad gorffen yr adran, a bydd y cwrs yn cael ei dynnu o'r Dangosfwrdd.

Yn ogystal, os nad yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi'i ddewis, bydd y cwrs dal i ymddangos yn y Dangosfwrdd fel hoff gwrs ar ôl y dyddiad gorffen yr adran gan fod adran y cwrs yn caniatáu cyfranogiad fel cwrs gweithredol. Ni fydd y cwrs yn cael ei dynnu nes bod adran y cwrs wedi dod i ben yn ôl dyddiadau'r cwrs/tymor. Ond, os nad yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi'i ddewis ar gyfer yr adran, bydd dyddiadau'r adran yn penderfynu lleoliad adran y cwrs yn rhestr Ymrestriadau Blaenorol, Ymrestriadau Presennol, neu Ymrestriadau yn y Dyfodol beth bynnag fo dyddiadau tymor y cwrs.

Nodyn: Mae modd ychwanegu dyddiadau cychwyn a gorffen adrannau drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) eich sefydliad.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen cyrsiau, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) cwrs.

Agor Adran

Agor Adran

Cliciwch enw’r adran.

Golygu Adran

Golygu Adran

Cliciwch y botwm Golygu Adran (Edit Section).

Pennu Dyddiad Dechrau

Pennu Dyddiad Dechrau’r Cwrs

Cliciwch yr eicon calendr Cychwyn (Starts) [1]. Dewiswch ddyddiad dechrau newydd ar gyfer yr adran [2].

Pennu Dyddiad Gorffen

Pennu Dyddiad Gorffen

Cliciwch yr eicon calendr Gorffen (Ends) [1]. Dewiswch ddyddiad gorffen newydd ar gyfer yr adran [2].

Nodyn: Mae dyddiadau gorffen yn digwydd ar yr union funud y cawson nhw eu gosod. Er enghraifft, bydd adran sydd ag amser gorffen o 11:59pm yn gorffen am 11:59:00.

Cyfyngu Cyfranogiad Myfyriwr

Cyfyngu Cyfranogiad Myfyriwr

Os nad ydych am adael i fyfyrwyr gymryd rhan yn adran y cwrs y tu allan i ddyddiadau'r adran, dewiswch y blwch ticio Dim ond rhwng y dyddiadau hyn y bydd modd i Fyfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs (Students can only participate in the course between these dates) [1]. Mae dewis y blwch ticio hwn yn creu proses ddisodli adran ac yn disodli dyddiadau'r cwrs. Dim ond rhwng dyddiadau’r adran y bydd modd i fyfyrwyr gymryd rhan yn adran y cwrs, bydd adran y cwrs mewn cyflwr darllen yn unig y tu all i ddyddiau adran y cwrs.

Mae'r blwch ticio hwn yn effeithio ar rolau myfyrwyr ac arsyllwr yn unig, mae pop rôl arall yn dychwelyd i ddyddiadau mynediad at y tymor yn ddiofyn.

Sylwch:

  • Mae dyddiadau disodli adran yn cael eu creu os yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi ei ddewis.
  • Os nad yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi'i ddewis, gall myfyrwyr gymryd rhan yn adran y cwrs cyn y dyddiad dechrau ac ar ôl y dyddiad gorffen, a bydd cyfranogiad yn cael ei bennu gan ddyddiadau'r cwrs bob amser. Os nad yw cwrs yn cynnwys dyddiadau cwrs, mae dyddiadau’n cael eu penny gan ddyddiadau tymhorau.
  • Pan nad yw'r blwch ticio Cyfranogiad Myfyrwyr wedi'i ddewis, bydd dyddiadau'r adran yn penderfynu lleoliad y cwrs yn rhestr Ymrestriadau Blaenorol, Ymrestriadau Presennol, neu Ymrestriadau yn y Dyfodol y myfyrwyr.

Diweddaru Adran

Diweddaru Adran

Cliciwch y botwm Diweddaru Adran (Update Section).