Sut ydw i’n creu neu’n rheoli banciau cwestiynau mewn cyfrif?
Ar ôl i chi greu Banciau Cwestiynau yn eich cyfrif, gallwch eu dileu, eu golygu, neu osod nod tudalen arnynt fel bo angen. Mae rhoi nod tudalen ar fanc cwestiynau yn galluogi defnyddwyr i ganfod eu hoff Fanciau Cwestiynau a rhai maen nhw'n eu defnyddio'n aml.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Banciau Cwestiynau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Banciau Cwestiynau (Question Banks).
Golygu Banc Cwestiynau

I newid enw’r banc cwestiynau, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [1].
I olygu, ychwanegu neu ddileu cwestiynau o'r banc cwestiynau, cliciwch enw'r banc cwestiynau [2].
Rhoi Nod Tudalen ar Fanc Cwestiynau

Cliciwch yr eicon Nod Tudalen (Bookmark). Mae banciau cwestiynau sydd â nod tudalen yn barod yn dangos croes wen yn yr eicon nod tudalen.
Gweld banciau sydd â nod tudalen

I weld banciau cwestiynau sydd â nod tudalen, cliciwch y botwm Gweld banciau sydd â nod tudalen (View Bookmarked Banks).
Dileu Banc Cwestiynau

Cliciwch yr eicon Dileu (Delete).
Cadarnhau’r broses Dileu

Cliciwch y botwm Iawn (OK) i ddileu'r banc cwestiynau.