Sut ydw i’n rheoli opsiynau nodweddion ar gyfer cyfrif?
Mae rhai o nodweddion Canvas yn ddewisol neu’n newydd, a gellir eu rhoi ar waith neu eu diffodd. Mae’r wers hon yn rhoi trosolwg o sut i reoli opsiynau nodweddion ar gyfer cyfrif cyfan. Gallwch chi reoli rhai nodweddion ar y cyfrif, yr isgyfrif, y cwrs a lefelau'r defnyddiwr. Ar lefel y cwrs, gallwch roi’r cyfle i addysgwyr roi nodweddion ar waith fesul cwrs. Gall addysgwyr weld a opsiynau nodweddion ar lefel cwrs yng Ngosodiadau'r Cwrs. Does gan weinyddwyr nac addysgwyr ddim rheolaeth dros opsiynau nodweddion ar lefel y defnyddiwr ar gyfer defnyddwyr eraill.
Yn ddiofyn, mae’r rhan fwyaf o opsiynau nodwedd wedi’u gosod i Wedi Diffodd (Off) ac Wedi Datgloi (Unlocked), sy’n golygu eu bod i’w gweld ar lefel y cwrs ond nad ydyn nhw ymlaen. Gallwch chi osod opsiynau nodweddion Ymlaen (On) neu I Ffwrdd (Off). Y cyflwr rydych chi’n ei ddewis yw’r cyflwr diofyn ar gyfer isgyfrifon a chyrsiau. Gallwch chi hefyd gloi neu ddatgloi rhai nodweddion i atal neu ganiatáu i ddefnyddwyr eraill newid y cyflwr diofyn ar lefel isgyfrif neu gwrs. Mae rhai nodweddion yn ymddangos yn ddiofyn ar Ymlaen (On), ac mae nodweddion eraill yn ymddangos pan maent wedi’u galluogi gan eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid (Customer Success Manager). I gael manylion am yr holl opsiynau nodweddion sydd ar gael yn Canvas, ewch i ddogfen adnoddau Crynodeb Opsiynau Nodweddion (Feature Option Summary) Canvas.
Sylwch:
- Ni fydd gosodiadau opsiwn nodwedd byth yn cael eu copïo o’r amgylchedd cynhyrchu a byddant bob amser yn cadw eu gosodiadau diofyn. Rhaid i opsiynau nodweddion gael eu rheoli'n unigol yn yr amgylchedd prawf a’r amgylchedd beta.
- Efallai na fydd rhai opsiynau nodwedd ar gael mewn cyfrifon Am-Ddim-i-Athrawon ac is-gyfrifon. I gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau nodwedd sydd ar gael mewn cyfrifon Am Ddim i Athrawon, ewch i’r ddogfen Cymharu Cyfrifon Canvas.
- Mewn is-gyfrifon, dim ond nodweddion lefel y cyfrif sydd wedi’u datgloi y gallwch chi eu rheoli.
- Mewn cyfrifon Am Ddim i Athrawon, dydych chi ddim yn gallu rheoli opsiynau nodweddion ar lefel y cyfrif.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Tab Opsiynau Nodweddion
Cliciwch y tab Opsiynau Nodweddion (Feature Options).
Gweld Opsiynau Nodweddion
Mae’r nodweddion sydd ar gael yn ymddangos yn yr tab Opsiynau Nodweddion. Efallai y bydd angen i rai nodweddion newydd gael eu galluogi gan eich Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid (CSM).
Hidlo'r Opsiynau Nodwedd
I hidlo yn ôl pob nodwedd, nodweddion wedi'u galluogi neu nodweddion wedi'u hanalluogi, cliciwch y gwymplen Hidlo (Filter).
Chwilio Opsiynau Nodwedd
I chwilio am opsiwn nodwedd, teipiwch allweddair yn y maes Chwilio (Search).
Gweld Hierarchaeth Nodweddion
Unwaith mae nodweddion ar gael, maent yn cael eu rhestru yn ôl Cyfrif (Account) [1] neu Gwrs (Course) [2], yn dibynnu ar lefel hierarchaeth y nodwedd.
Mae pob nodwedd yn cynnwys disgrifiad o'r nodwedd. I ehangu blwch y nodwedd a dangos y disgrifiad, cliciwch yr eicon saeth [3].
Gweld Tagiau Nodweddion
Mae tagiau nodweddion yn helpu i adnabod cyflwr pob nodwedd. Os nad oes tag, mae hyn yn golygu bod y nodwedd yn sefydlog ac yn barod i’w defnyddio yn eich amgylchedd cynhyrchu [1].
Mae nodweddion yn gallu cynnwys tag Rhagolwg Nodwedd (Feature Preview) [2], sy’n golygu bod y nodwedd wrthi’n cael ei datblygu. Gallwch chi optio i mewn i’r nodwedd ac ymuno â grŵp defnyddwyr y Gymuned i helpu i wella’r nodwedd drwy adborth uniongyrchol. Mae mynediad at y grŵp defnyddwyr wedi’i nodi yn nisgrifiad yr opsiwn nodwedd.
Gweld Cyflyrau Nodweddion
Fel gweinyddwr lefel cyfrif, gallwch chi ddewis i alluogi neu analluogi nodweddion yn ddiofyn yn y cyfrif a’r holl is-gyfrifon.
Os oes modd golygu nodwedd ar lefel is-gyfrif neu gwrs, gallwch chi ddewis cloi neu ganiatáu golygu cyflwr diofyn y nodwedd ar lefel yr is-gyfrif neu’r cwrs.
Rheoli Cyflwr Diofyn Nodwedd
Fel gweinyddwr lefel cyfrif, gallwch chi ddewis i alluogi neu analluogi nodweddion yn ddiofyn ar gyfer y cyfrif a’r holl is-gyfrifon.
I alluogi neu analluogi nodwedd, cliciwch eicon Cyflwr y nodwedd [1].
I alluogi’r nodwedd yn ddiofyn ar gyfer y cyfrif a phob is-gyfrif, cliciwch yr opsiwn Wedi Galluogi (Enabled) [2].
I analluogi’r nodwedd yn ddiofyn ar gyfer y cyfrif a phob is-gyfrif, cliciwch yr opsiwn Wedi Analluogi (Enabled) [3].
Nodyn: Yn dibynnu ar swyddogaeth y nodwedd pan fyddwch chi’n galluogi nodwedd, efallai y bydd Canvas yn dangos neges o rybudd yn gofyn i chi gadarnhau eich dewis, oherwydd does dim modd diffodd rhai nodweddion cyfrif ar ôl iddyn nhw gael eu galluogi.
Caniatáu a Chloi Nodweddion
Mae modd rheoli rhai nodweddion ar lefel is-gyfrif neu gwrs. Fel gweinyddwr cyfrif, gallwch chi ddewis cloi neu ganiatáu i’r nodweddion hynny gael eu golygu ar lefel yr is-gyfrif neu gwrs.
I ganiatáu neu wahardd cyflwr diofyn nodwedd rhag cael ei olygu ar lefel is-gyfrif neu gwrs, cliciwch yr eicon Cyflwr (State) [1].
I gloi cyflwr diofyn nodwedd fel nad oes modd ei olygu ar lefel is-gyfrif neu gwrs, dewiswch yr opsiwn Cloi (Lock) [2].
I ganiatáu i gyflwr diofyn nodwedd gael ei olygu ar lefel is-gyfrif neu gwrs, dad-diciwch yr opsiwn Cloi (Lock).
Sylwch:
- Ni fydd nodweddion sydd ond yn gallu cael eu rheoli ar lefel y cyfrif yn dangos eicon wedi cloi neu ddatgloi [3]. Mae cyflyrau diofyn y nodweddion hynny wedi’u gosod ar gyfer y cyfrif a phob is-gyfrif.
- Yn dibynnu ar swyddogaeth y nodwedd, pan fyddwch chi’ datgloi cyflwr nodwedd, efallai y bydd Canvas yn dangos neges o rybudd yn gofyn i chi gadarnhau eich dewis, oherwydd does dim modd diffodd rhai nodweddion cyfrif ar ôl iddyn nhw gael eu galluogi.
Gweld Cyflyrau Nodweddion Tooltips
I weld disgrifiad manylach o gyflwr y rhagolwg nodwedd, hofrwch dros yr eicon cyflwr y rhagolwg nodwedd. Mae tooltip yn egluro cyflwr presennol y rhagolwg nodwedd. Mae’r tooltip yn dangos y disgrifiadau canlynol yn seiliedig ar gyflwr y rhagolwg nodwedd:
Rhagolygon Nodwedd Cyfrif:
- Cyflwr: Wedi galluogi a Datgloi | Tooltip: Wedi’i ganiatáu ar gyfer is-gyfrifon/cyrsiau, ymlaen yn ddiofyn
- Cyflwr: Wedi galluogi a Chloi | Tooltip: Wedi galluogi ar gyfer pob is-gyfrif/cwrs
- Cyflwr: Wedi analluogi a Datgloi | Tooltip: Wedi’i ganiatáu ar gyfer is-gyfrifon/cyrsiau, wedi diffodd yn ddiofyn
- Cyflwr: Wedi analluogi a Chloi | Tooltip: Wedi analluogi ar gyfer pob is-gyfrif/cwrs
Rhagolygon Nodweddion Cwrs
- Cyflwr: Wedi galluogi a Datgloi | Tooltip: Yn ddewisol mewn cwrs, ymlaen yn ddiofyn
- Cyflwr: Wedi analluogi a Datgloi | Tooltip: Yn ddewisol mewn cwrs, wedi diffodd yn ddiofyn