Sut ydw i’n ffurfweddu ap allanol ar gyfer cyfrif gan ddefnyddio URL?
Mae rhai apiau allanol angen ffurfweddiad URl. Mae’r wers hon yn dangos sut i ychwanegu adnodd Allanol gan ddefnyddio’r URL a ddarparwyd gan y darparwr apiau allanol. I ddysgu mwy am ffurfweddu apiau allanol, ewch i'r Edu App Center.
Nodiadau:
- Mae apiau allanol hefyd yn gallu cael eu ffurfweddu gan ddefnyddio URL mewn is-gyfrifon.
- Mae ffurfweddu ap allanol eich hun yn hawl cyfrif. Os nad oes modd i chi ffurfweddu ap allanol, nid yw’r hawl hwn wedi cael ei alluogi ar gyfer eich rôl defnyddiwr.
Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Apiau

Cliciwch y tab Apiau (Apps).
Gweld Ffurfweddiadau Ap

I ffurfweddu ap, cliciwch y botwm Gweld Ffurfweddiadau Ap (View App Configurations).
Ychwanegu Ap Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Ap (Add App).
Gosod Math o Ffurfweddiad

Dewiswch y gwymplen Math o Ffurfweddiad a gosod y math o ffurfweddiad i Yn ôl URL (By URL).
Ychwanegu Manylion Ap

Rhowch enw’r ap yn y maes Enw (Name) [1]. Rhowch yr allwedd defnyddiwr yn y maes Allwedd Defnyddiwr (Consumer Key) [2] a’r gyfrinach wedi’i rhannu yn y maes Cyfrinach wedi’i Rhannu (Shared Secret) [3]. Bydd yr allwedd a’r gyfrinach wedi’u rhannu yn cael eu darparu gan y gwerthwr neu (neu os yn defnyddio'r Edu App Center) gan y wefan.
Note: Mae rhai apiau sydd ddim angen allwedd defnyddiwr neu gyfrinach wedi’i rhannu, felly talwch sylw i’r cyfarwyddiadau ffurfweddu.
Ychwanegu URL Ffurfweddu

Yn y maes URL Ffurfweddu (Configuration URL) [3], rhowch URL yr ap. Mae apiau wedi’i ffurfwedddu ac rydym ni’n argymell eu bod yn cael eu rhoi fel dolenni diogel (HTTPS).
Cyflwyno Ap

Cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Dilysu Ap

Os yw’r ap eisoes wedi cael ei ychwanegu at y cyfrif, mae Canvas yn gwirio eich bod chi eisiau gosod yr ap. I fwrw ymlaen, cliciwch y botwm Iawn, Gosod Adnodd (Yes, Install Tool).
Note: Dydy cadarnhau ddim ond yn digwydd yn yr un cyd-destun ar gyfer ap allanol sydd eisoes yn bodoli (fel gosod yr un ap fwy nag un waith yn y cyfrif gwraidd).
Gweld Ap

Gweld yr ap allanol.
I reoli'r ap, cliciwch yr eicon Gosodiadau [1]. I olygu’r ap, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I reoli lleoliadau ap, cliciwch y ddolen Lleoliadau (Placements) [3]. I ddileu’r ap, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [4].
I ychwanegu ap allanol at far offer y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, cliciwch y togl Ychwanegu at far offer y Glygydd Cynnwys Cyfoethog (Add to RCE toolbar) [5]. Dim ond ar gyfer adnoddau sy’n gallu delio â lleoliad yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog y mae’r opsiwn hwn ar gael.
Note: Pan fyddwch chi’n clicio’r ddolen Lleoliadau, mae’n bosib y byddwch chi’n gweld neges Dim Lleoliadau wedi’u Galluogi. Mae’r neges hon yn nodi nad oes gan yr ap unrhyw leoliadau penodol o fewn Canvas. Ond, bydd yr ap yn dal i weithio’n iawn.