Sut ydw i’n cael mynediad at amgylchedd prawf Canvas fel gweinyddwr?

Efallai na fydd yr amgylchedd prawf ar gael yn eich sefydliad. Os na allwch chi gyrchu’r amgylchedd prawf yn eich sefydliad, ystyriwch ddefnyddio’r amgylchedd beta at ddibenion profi.

Yn yr amgylchedd prawf, gallwch chi brofi drwy ddefnyddio data amser real heb amharu ar eich amgylchedd cynhyrchu byw. Yma gallwch ychwanegu defnyddwyr, newid y CSS a/neu ddatrys problemau heb amharu ar brofiad eich defnyddwyr. Mae’r amgylchedd prawf yn etifeddu nodweddion newydd wedi’u diweddaru sy’n cael eu hychwanegu at yr amgylchedd cynhyrchu ddydd Llun ar ôl y cynhyrchiad. Gallwch ffurfweddu eich amgylchedd prawf gyda nodweddion sy'n barod i’w cynhyrchu, fel mynediad at system dilysu mewngofnodi eich sefydliad.

Os ydych chi am gael y nodweddion cynhyrchu diweddaraf yn Canvas, ewch i’r dudalen Nodiadau Rhyddhau yn yr adnodd Cymuned Canvas.

Mae’r amgylchedd prawf ar wahân i’r amgylchedd beta, sy’n cael ei ddisodli gan ddata o’r amgylchedd cynhyrchu yn wythnosol. Mae’r amgylchedd beta yn caniatáu i chi edrych ar nodweddion newydd cyn iddynt gael eu cynhyrchu. Rhagor o wybodaeth am amgylcheddau gwahanol Canvas.  

Nodiadau am yr Amgylchedd Prawf:

  • Gall yr holl ddefnyddwyr fynd i amgylchedd prawf Canvas, ond ni all myfyrwyr weld cynnwys cwrs y tu hwnt i’r Dangosfwrdd; os ydych chi’n weinyddwr a’ch bod am ganiatáu i fyfyrwyr weld holl gynnwys y cwrs, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid Customer Success Manager).
  • Nid oes modd anfon hysbysiadau yn yr amgylchedd prawf, gan gynnwys gwahoddiadau cwrs ac adroddiadau sy’n cael eu llwytho i lawr.
  • Does dim modd defnyddio Cwisiau Newydd (New Quizzes) yn amgylchedd prawf Canvas.
  • Rhaid i unrhyw newidiadau rydych chi am eu cadw yn yr amgylchedd prawf gael eu gwneud yn uniongyrchol yn yr amgylchedd cynhyrchu er mwyn cael effaith ar ddata byw.
  • Nid yw Adnoddau LTI (Apiau Allanol) ar gael y tu allan i’r amgylchedd cynhyrchu fel rheol. Gall adnoddau LTI ymddangos yn yr amgylchedd prawf, ond yn aml maent wedi eu ffurfweddu ar gyfer yr amgylchedd cynhyrchu yn unig. Bydd defnyddio adnoddau LTI sydd wedi eu ffurfweddu ar gyfer cynhyrchu yn yr amgylchedd beta yn effeithio ar ddata byw. Os oes gennych chi hawl i olygu adnoddau LTI, gallwch gadarnhau ffurfweddu adnodd LTI penodol ar gyfer eich cwrs neu eich cyfrif. Cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid ar gyfer cwestiynau penodol.
  • Mae’r tudalennau mae defnyddwyr wedi’u gweld ar lefel cyfrif bob amser yn adlewyrchu gweithgarwch o'r amgylchedd cynhyrchu.
  • Ni fydd gosodiadau opsiwn nodwedd byth yn cael eu copïo o’r amgylchedd cynhyrchu a byddant bob amser yn cadw eu gosodiadau diofyn. Rhaid i opsiynau nodweddion gael eu rheoli'n unigol yn yr amgylchedd prawf.
  • Nid oes modd gweld hanes eich ymweliadau â thudalennau cwrs Canvas yn ddiweddar yn amgylchedd prawf Canvas.

Mynd i’ch Amgylchedd Prawf

Mynd i’ch Amgylchedd Prawf

I fewngofnodi i’ch amgylchedd prawf, teipiwch [enw’r sefydliad (organization name)].test.instructure.com yn y maes URL.

Gweld Neges Rhaglen i Brofi

Bydd defnyddwyr yn yr amgylchedd prawf yn gweld bar y Rhaglen i Brofi (Test Installation) ar draws gwaelod y sgrin a fydd yn nodi bod y defnyddiwr mewn Rhaglen i Brofi Canvas. Caiff yr amgylcheddau prawf eu hailosod bob mis ar ôl rhyddhau cynhyrchiad, a bydd unrhyw newidiadau y byddwch yn eu gwneud yn eich amgylchedd prawf yn cael eu hailosod. Os ydych chi am gadw unrhyw gynnwys cwrs sydd wedi’i greu yn eich amgylchedd prawf, gallwch allgludo eich cwrs.

Sylwch: I guddio bar y Rhaglen i Brofi, cliciwch yr eicon cau.

Rheoli Nodweddion Canvas

Bydd rhai nodweddion newydd yn cael eu rhyddhau fel nodweddion optio i mewn yn unig ac ni fyddant yn ymddangos nes y byddwch yn eu galluogi yn eich amgylchedd prawf. Gallwch chi weld y nodweddion hyn drwy glicio’r ddolen Gosodiadau (Settings) [1] a chlicio’r tab Opsiynau Nodweddion (Feature Options) [2].