Sut ydw i’n rheoli allweddi datblygwyr ar gyfer cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch reoli allweddi datblygwyr ar gyfer cyfrifon gwraidd. Gallwch reoli statws allweddi datblygwyr unigol a rheoli mynediad yn uniongyrchol at bwyntiau gorffen API penodol ar gyfer adnoddau trydydd parti.

Mewn cyfrif, bydd allweddi datblygwyr sydd newydd eu creu wedi’u diffodd yn ddiofyn.

Nodiadau:

  • Mae Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn un o’r hawliau mewn cyfrif. Os na allwch chi weld dolen yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.
  • Er bod allweddi newydd wedi'u hanalluogi wrth eu creu, bydd allweddi sydd wedi'u creu cyn 14 Gorffennaf, 2018 wedi’u rhoi ar waith yn ddiofyn er mwyn sicrhau bod modd cael mynediad cyson.
  • Nid yw Instructure yn adolygu gwerthwyr cyn rhoi allweddi datblygwyr cyffredinol, er mae angen gwybodaeth benodol am werthwyr. Dylech adolygu eich rhestr o allweddi sydd wedi’u hetifeddu i wneud yn siŵr mai dim ond allweddi sydd wedi’u cymeradwyo gan y sefydliad sy’n cael eu defnyddio. I bennu pa allweddi datblygwyr sy’n cael eu defnyddio yn eich cyfrif, ewch ati i redeg yr Adroddiad Allweddi Datblygwr (Developer Keys Report).
  • Mae Gweinyddwyr Consortiwm yn gallu golygu allweddi datblygwyr mewn cyfrifon rhiant i gysoni newidiadau i bob adnodd cysylltiedig sydd wedi’i osod ar unrhyw gyfrif plentyn.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Allweddi Datblygwyr

Agor Allweddi Datblygwyr

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Allwedd Datblygwyr (Developer Keys).

Gweld Allweddi Datblygwyr

Mae tudalen yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) yn mynd yn ddiofyn i’r tab Cyfrif (Account), ac yno gallwch weld yr Allweddi Datblygwyr (Developer Keys) ar gyfer eich cyfrif.. Mae pob allwedd yn dangos yr enw [1], e-bost y perchennog [2], manylion [3], ystadegau [4], math [5], a chyflwr [6].

Os yw allwedd wedi'i ffurfweddu fel allwedd LTI, bydd y golofn Math yn dangos yr eicon Adnodd Allanol [7].

Gweld Allweddi wedi'u Hetifeddu

I weld allweddi wedi’u hetifeddu sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif, cliciwch y tab Wedi Etifeddu (Inherited) [1]. Allweddi sydd wedi’u creu a’u rheoli ar lefel safle cyfan gan Canvas yw allweddi wedi’u hetifeddu. Gallwch reoli cyflwr yr allweddi sydd wedi’u hetifeddu ar gyfer eich cyfrif. Ond, os bydd allwedd yn llwyd [2], mae wedi'i galluogi’n gyffredinol a does dim modd ei haddasu ar lefel benodol y cyfrif.

Rheoli Allweddi Datblygwyr

I analluogi allwedd, cliciwch y botwm toglo i’r safle Diffodd [1]. I olygu allwedd, cliciwch yr eicon Golygu [2]. I ddileu’r allwedd, cliciwch yr eicon Dileu (Delete) [3].

Gweld Neges Cadarnhau

Gweld Neges Cadarnhau

Pan fydd newidiadau’n cael eu gwneud i allwedd datblygwr, bydd neges gadarnhau’n ymddangos. I gadarnhau'r newidiadau, cliciwch y botwm Iawn (OK) [1]. I ganslo’r newidiadau, cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [2].

Gweld Allweddi wedi'u Hanalluogi

Pan fydd allwedd wedi’i hanalluogi, fydd yr allwedd ddim yn weithredol. Y botwm toglo Diffodd [1] sy’n dangos yr allweddi sydd wedi’u hanalluogi. I ailysgogi allwedd anweithredol, cliciwch y botwm toglo i’r safle Ar Waith[2].

Ychwanegu Allwedd Datblygwr

I ychwanegu allwedd datblygwr, cliciwch y botwm Ychwanegu Allwedd Datblygwr (Add Developer Key).

Golygu Allwedd LTI

I olygu allwedd LTI, cliciwch yr eicon Golygu [2].

Diweddaru Ailgyfeirio URL

I ddiweddaru’r maes Ailgyfeirio URI (Redirect URIs) ar ôl newid y JSON am allwedd LTI, cliciwch y botwm Cysoni URI (Sync URIs). Os ydy’r maes Ailgyfeirio URI (Redirect URIs) yn wag, mae’n cael ei boblogi’n awtomatig o’r JSON sydd wedi cael ei ludo.