Sut ydw i’n rheoli gwybodaeth mewngofnodi defnyddiwr eich hun mewn cyfrif?
Gallwch chi reoli gwybodaeth mewngofnodi defnyddiwr eich hun mewn cyfrif. Gallwch chi greu gwybodaeth mewngofnodi newydd i ddefnyddiwr gael gafael ar Canvas drwy eich URL Canvas a dileu gwybodaeth mewngofnodi.
Os oes gennych chi hawl, gallwch chi hefyd olygu cyfrineiriau ar gyfer gwybodaeth mewngofnodi defnyddwyr cyfredol. Os na allwch chi weld y maes cyfrinair ar gyfer gwybodaeth mewngofnodi gyfredol defnyddiwr, does dim modd i chi olygu cyfrinair y defnyddiwr. I gael cymorth gyda'r nodwedd hon, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer. Mae angen i ddefnyddwyr ailosod eu cyfrineiriau drwy system rheoli cyfrineiriau eu sefydliad.
Nodiadau:
- Nid yw gwybodaeth mewngofnodi newydd neu wedi’i diweddaru yn cael ei hanfon yn awtomatig at y myfyriwr. Mae angen rhoi gwybod i’r myfyriwr am y newidiadau. Er diogelwch, ni ddylid anfon gwybodaeth mewngofnodi dros e-bost a dylid ei chyfathrebu ar lafar.
- Os yw eich cyfrif yn rheoli gwybodaeth defnyddwyr drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS), bydd yn rhaid i’r newidiadau gael eu gwneud yn yr SIS hefyd. Ni fydd unrhyw newidiadau fydd yn cael eu gwneud yn Canvas yn cael eu pasio’n ôl i’r SIS.
- Mae gwybodaeth mewngofnodi myfyriwr i’w weld yn y maes ail ID yn y Llyfr Graddau. Os oes gan fyfyriwr fwy nag un wybodaeth mewngofnodi, mae'r ail ID yn cyfateb i ba bynag wybodaeth mewngofnodi sydd wedi’i rhestru gyntaf yn y dudalen manylion defnyddiwr oni bai bod yr wybodaeth mewngofnodi yn cynnwys IS SIS. Mae gwybodaeth mewngofnodi’n gysylltiedig ag ID SIS beth bynnag fo’i safle yn cael ei dangos yn y Llyfr Graddau fel yr ail ID ac ar y dudalen Pobl fel yr ID mewngofnodi.
Agor Cyfrif
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.
Agor Proffil Defnyddiwr
Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.
Ychwanegu Gwybodaeth Mewngofnodi
I ychwanegu gwybodaeth mewngofnodi newydd, cliciwch y ddolen Ychwanegu Gwybodaeth Mewngofnodi (Add Login).
Yn y maes Gwybodaeth Mewngofnodi (Login) [1], ewch ati i greu gwybodaeth mewngofnodi ar gyfer y defnyddiwr. Mae modd i’r wybodaeth mewngofnodi fod yn enw defnyddiwr neu e-bost a chynnwys llythrennau, rhifau, neu’r nodau symbol canlynol: - _ = +.
Yn y maes ID SIS [2], gallwch chi ychwanegu ID SIS.
Yn y maes ID Integreiddio (Integration ID) [3], gallwch chi ychwanegu ID integreiddio (ail ID SIS).
Yn y maes Cyfrinair (Password) [4], ewch ati i greu cyfrinair ar gyfer y defnyddiwr. Yna chadarnhau’r cyfrinair [5].
Cliciwch y botwm Ychwanegu Gwybodaeth Mewngofnodi (Add Login) [6].
Golygu Gwybodaeth Mewngofnodi
I olygu gwybodaeth mewngofnodi bresennol, cliciwch yr eicon Golygu [2].
Diweddaru Gwybodaeth Mewngofnodi
Diweddaru unrhyw wybodaeth mewngofnodi fel bo angen.
Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Diweddaru Gwybodaeth Mewngofnodi (Update Login) [2].
Nodyn: Os na allwch chi weld y meysydd cyfrineiriau, does gennych chi ddim hawl i reoli cyfrineiriau defnyddwyr sydd eisoes yn bodoli. Rhaid i ddefnyddwyr ailosod eu cyfrineiriau drwy system rheoli cyfrineiriau eu sefydliad.
Dileu Gwybodaeth Mewngofnodi
I ddileu gwybodaeth mewngofnodi, cliciwch yr eicon Dileu (Delete).