Sut ydw i’n dod o hyd i Safonau Dysgu i’w ychwanegu at ddeilliant lefel cyfrif?

Mae Safonau Dysgu yn nodau ac amcanion ar gyfer asesu myfyrwyr yn yr Unol Daleithiau. Mae’r safonau hyn wedi cael eu creu gan lywodraethwyr ac arweinwyr addysg y wlad i asesu dysgu penodol myfyrwyr.

Bydd Canvas yn mewngludo’r safonau canlynol am ddim:

  • Pob Safon Common Core ar gyfer Celfyddydau Iaith, Mathemateg, a Gwyddoniaeth (NGSS)
  • Pob safon penodol i dalaith ar gyfer pynciau Core 4 (Celfyddydau Iaith, Mathemateg, Gwyddoniaeth, ac Astudiaethau Cymdeithasol) i daleithiau sydd â chwsmeriaid Canvas cyfredol.
  • Pob Safon ISTE ar gyfer Hyfforddwyr, Addysgwyr Gwyddorau Cyfrifiadurol, Myfyrwyr, Athrawon, a Gweinyddwyr

Pan mae Safonau Dysgu’n cael eu mewngludo i lefel y cyfrif, bydd addysgwyr sy’n chwilio am safonau ar gyfer eu cwrs yn gweld y Safonau Dysgu fel rhan o’r grŵp deilliannau Safonau Cyfrif.

Os nad yw eich talaith yn ymddangos yn Deilliannau neu os nad oes gan eich sefydliad fynediad at safonau dysgu, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer.

Mae’r erthygl hwn yn dangos sut mae darganfod Safonau Dysgu yn y wedd tudalen Deilliannau glasurol. Os ydy’r dudalen Deilliannau yn eich cyfrif yn edrych yn wahanol i'r delweddau yn yr erthygl hwn, dysgwch sut mae darganfod deilliannau sydd wedi galluogi’r opsiwn nodwedd Gwell Rheoli Deilliannau.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif neu’r Isgyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Dod o hyd i ddeilliant

Dod o hyd i ddeilliant

Cliciwch y botwm Canfod (Find).

Dewis Math o Ddeilliant

Dewis Math o Ddeilliant

I weld safonau talaith, cliciwch y grŵp deilliannau Safonau Talaith.

I weld safonau Common Core, cliciwch i grŵp deilliannau Safonau Common Core.

Nodyn: Os nad yw’r grwpiau Talaith a Common Core ar gael i chi, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer.

Dewis Deilliannau

Dewis Deilliannau

Mae Safonau Talaith a Common Core yn ddeilliannau wedi’u nythu, felly does dim modd i chi fewngludo grwpiau deilliannau cyfan i’ch cwrs, neu weld pob grŵp deilliannau wedi’u nythu i ddod o hyd i safon unigol.

Dewiswch enw grŵp deilliannau i weld y deilliannau sydd ar gael [1]. Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ddeilliant, cliciwch enw’r deilliant rydych am ei fewngludo [2]. Cliciwch y botwm Mewngludo (Import) [3].

Gweld Deilliannau

Gallwch weld y Deilliannau sydd wedi’u hychwanegu.

Nodyn: Rhaid i safonau fod wedi’u mewngludo i'r cyfrif neu is-gyfrif cyn bod modd i addysgwyr eu darganfod a’u defnyddio yn eu cyrsiau.