Sut ydw i’n gweld yr hanes cysoni ar gyfer cwrs glasbrint fel gweinyddwr?

Ar ôl cysoni cwrs glasbrint â chyrsiau cysylltiedig, caiff y broses cysoni ei chofnodi ar y dudalen Hanes Cysoni. Gallwch edrych ar Hanes Cysoni (Sync History) i weld prosesau cysoni blaenorol a manylion amdanynt.

Gall unrhyw addysgwr sydd wedi ymrestru ar y cwrs glasbrint hefyd wneud newidiadau a chysoni cynnwys â chyrsiau cysylltiedig. Mae newidiadau wedi’u cysoni gan yr addysgwr hefyd yn cael eu dangos ar y dudalen Hanes Cysoni.

Mae’r dudalen Hanes Cysoni yn cofnodi pum tro diwethaf y cysonwyd â’r cwrs glasbrint.

Nodiadau:

  • Os nad yw’r hanes cysoni yn dangos dim manylion cysoni, roedd y cwrs glasbrint wrthi’n cael ei gysoni â chwrs cysylltiedig. Mae'r hanes cysoni ar gyfer prosesau cysoni cysylltiedig yn dangos dyddiad ac amser y broses cysoni ond nid oes rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys.
  • Gall addysgwyr mewn cyrsiau cysylltiedig weld yr wybodaeth ddiweddaraf am gysoni’r glasbrint yn Ngosodiadau'r Cwrs.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

I gynnwys cyrsiau glasbrint yn unig yn eich canlyniadau chwilio, cliciwch yr opsiwn Dangos cyrsiau glasbrint yn unig (Show only blueprint courses).

Agor Gosodiadau Cwrs

Yn y ddewislen cyrsiau, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) cwrs.

Agor Hanes Cysoni

Ar Dudalen Hafan y Cwrs, cliciwch dab bar ochr y Glasbrint (Blueprint) [1], yna cliciwch y ddolen Hanes Cysoni (Sync History) [2].

Nodyn: Gallwch weld bar ochr y Glasbrint o unrhyw dudalen yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs.

Gweld Hanes Cysoni

Mae’r dudalen Hanes Cysoni (Sync History) yn dangos gwybodaeth am y pum tro diwethaf y cysonwyd â'r cwrs glasbrint. Mae’r dudalen yn dangos dyddiad ac amser y cysoni [1], nifer y newidiadau [2], ac enw’r defnyddiwr a gysonodd y newidiadau [3].

Os oedd neges wedi’i chynnwys fel rhan o’r hysbysiad, caiff y neges ei dangos uwchben y rhestr o’r newidiadau sydd wedi’u cysoni [4].

Ar ôl cysylltu â chwrs am y tro cyntaf, bydd yr hanes cysoni’n dangos dyddiad amser y cysoniad ond ni fydd yn cynnwys manylion sy'n ymwneud â’r cysoniad.

Gweld Manylion Cysoni

Mae’r dudalen Hanes Cysoni (Sync History) yn dangos y cynnwys penodol sydd wedi’i gysoni. Mae pob gwrthrych cynnwys yn dangos statws cysoni’r gwrthrych (wedi’i gloi neu wedi’i ddatgloi) [1], enw eitem y cynnwys [2], y math o wrthrych yn y cynnwys [3], newid y cynnwys [4] ac a gafodd y broses cysoni ei rhoi ar waith ai peidio [5].

Mae newidiadau i gynnwys yn gallu cael eu creu, eu diweddaru neu eu dileu. Mae newidiadau wedi’u diweddaru’n dangos unrhyw newid i gynnwys presennol.

Gweld Eithriadau Cysoni

Gall y dudalen Hanes Cysoni (Sync History) ddangos eitemau sydd ag eithriad o ran cysoni. Mae eithriadau’n codi pan na fydd cynnwys yn cael ei gysoni oherwydd bod y cynnwys wedi’i addasu mewn cwrs cysylltiedig cyn i’r cwrs glasbrint gael ei gysoni.

Caiff eithriadau eu nodi yn y dangosydd Eithriadau (Exception) [1], sy'n cynnwys y nifer o eithriadau.

I weld pa gwrs/gyrsiau oedd ag eithriad, cliciwch yr eicon saeth wrth enw eitem y cynnwys [2]. Caiff tymor ac enw’r cwrs ei ddangos yn y manylion sydd wedi’u hehangu.

Cau Hanes Cysoni

Cau Hanes Cysoni

Ar ôl i chi orffen â'r dudalen Hanes Cysoni (Sync History), cliciwch y botwm Wedi Cwblhau (Done).