Sut byddaf i’n gwybod os oes diffyg yng ngwasanaeth Canvas?

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Canvas, defnyddiwch y Dudalen Statws, ar Twitter, neu'r Rhestr Bostio i Weinyddwr.

Gweld Tudalen Statws Canvas

Ewch i status.instructure.com i gael adroddiadau digwyddiadau sy'n ymwneud â Canvas. Mae’r adroddiadau'n gyhoeddiadau cyffredinol a allai effeithio ar eich sefydliad. Ni fydd Tudalen Statws Canvas yn nodi diffygion yn y gwasanaeth oni bai eu bod wedi para mwy na 15 munud.

I gael gwybodaeth o’r dudalen statws, cliciwch y botwm Tanysgrifio i Ddiweddariadau (Subscribe to Updates).

Mynd i'r Ganolfan Gymorth

Mynd i'r Ganolfan Gymorth

I fynd i’r Ganolfan Gymorth, cliciwch y botwm Help [1] ac yna cliciwch y ddolen cefnogi safle (support site) [2].

Tanysgrifio i Grynodeb

Tanysgrifio i Grynodeb

I danysgrifio i grynodeb, cliciwch y botwm Crynodeb (Feed) [1], yna cliciwch y botwm Crynodeb Atom (Atom Feed) [2] neu’r botwm Crynodeb RSS (RSS Feed) [3].

Gweld Eiconau Statws

Ar y Dudalen Statws, defnyddir eiconau i ddisgrifio statws presennol Canvas yn gyffredinol [1] a chydrannau penodol yn Canvas [2]. Bydd yr eiconau hyn yn cyfateb i’r statws canlynol:

  • Gweithredol: mae’r gydran yn gweithio yn ôl y disgwyl [3]
  • Perfformiad wedi Dirywio: mae’r gydran yn arafach na’r ystod disgwyliedig [4]
  • Diffyg Rhannol: mae'r gydran yn araf iawn ac mae cyfnodau segur ysbeidiol sydd fel arfer yn effeithio ar is-set fach o ddefnyddwyr [5]
  • Diffyg Mawr: nid yw’r gydran yn weithredol mwyach neu mae'r cysylltiad wedi’i golli’n rhannol, gan effeithio ar nifer fawr o ddefnyddwyr Canvas [6]
  • Cynnal a chadw: mae’r gydran wedi’i thynnu i lawr yn fwriadol i ddatrys problemau mawr [7]

Dilynwch Ddiweddariadau Canvas ar Twitter

Dilynwch LMS Canvas (@CanvasLMS) i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae’r cyfrif hwn yn anfon negeseuon trydar pan fydd gwasanaethau’n cael eu hatal ar draws Canvas, ynghyd ag anfon negeseuon trydar am newyddion a digwyddiadau eraill sy’n ymwneud â Canvas.

Tanysgrifio i'r Rhestr Bostio i Weinyddwyr.

Cysylltwch â'ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid i danysgrifio i’r Rhestr Bostio i Weinyddwyr. Os ydych chi wedi tanysgrifio i'r rhestr bostio, byddwch yn cael negeseuon e-bost os bydd diffyg yng ngwasanaeth Canvas yn effeithio ar eich sefydliad.