Pa opsiynau cofrestru ac ymrestru defnyddwyr sydd ar gael yn Canvas?

Fel gweinyddwr cyfrif, gallwch osod opsiynau cofrestru ac ymrestru gwahanol ar gyfer eich cyfrif. Mae’r opsiynau sydd ar gael yn cynnwys hunan-ymrestru, hunan-gofrestru, a chofrestru agored.

Hunan-ymrestru

Hunan-ymrestru

Mae hunan-ymrestru yn ddull ymrestru agored sy’n gadael i fyfyrwyr ddefnyddio cod neu URL cyfrinachol i ymuno â chwrs. Mae’r opsiwn hwn yn gofyn bod gan fyfyrwyr gyfrif Canvas yn barod—mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn creu cyfrifon Canvas yn awtomatig ar gyfer pob myfyriwr drwy fewngludo SIS.

Os ydych chi’n galluogi hunan-ymrestru ar gyfer cyfrif, mae modd i addysgwyr ganiatáu hunan-ymrestru ar gyfer eu cwrs yng Ngosodiadau Cwrs i greu URL neu god cyfrinachol i’w anfon at fyfyrwyr.

Hefyd, mae modd i’r addysgwr ychwanegu dolen ar dudalen hafan y cwrs fel bod myfyrwyr yn gallu ymuno â’r cwrs ar unrhyw adeg. Mae’r opsiwn hwn hefyd yn gweithio’n dda ar gyfer cyrsiau sydd wedi’u hychwanegu at y Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus.

Hunan-gofrestru

Hunan-gofrestru

Mae hunan-gofrestru hefyd yn ddull dilysu drwy Canvas sy’n gadael i ddefnyddwyr heb gyfrif greu cyfrif i’w hunain.

Os ydych chi’n galluogi hunan-gofrestru ond nad oes gan y myfyrwyr gyfrif Canvas, yna mae hunan-gofrestru yn gadael iddyn nhw greu eu cyfrifon eu hunain ar gyfer mewngofnodi i Canvas ac ymuno â’r cwrs.

Cofrestru Agored

Cofrestru Agored

Mae cofrestru agored yn gadael i fyfyrwyr gael eu hychwanegu at gwrs, hyd yn oed os nad oes gan y myfyrwyr gyfrif Canvas yn eich sefydliad. Bydd myfyrwyr yn creu eu cyfrif yn ystod y broses o ymrestru ar y cwrs.

Gallwch alluogi cofrestru agored yng ngosodiadau eich cyfrif.