Sut ydw i'n creu ac yn ychwanegu defnyddwyr at gyfrif?

Gallwch chi ychwanegu defnyddwyr newydd at eich cyfrif. Dim ond ar lefel y cyfrif y mae modd ychwanegu defnyddwyr. Dim ond gweinyddwr cyfrif gwraidd sy’n gallu ychwanegu defnyddwyr at gyfrif.

Os ydych chi’n defnyddio ffeiliau SIS wedi’u mewngludo, does dim angen i chi ychwanegu defnyddwyr at eich cyfrif, gan fod modd eu hychwanegu trwy’r system gwybodaeth myfyrwyr (SIS).

Gwahoddiadau Cyfrif

Pan fo cyfrif defnyddiwr yn cael ei ychwanegu gan y defnyddiwr, mae Canvas yn cynnig yr opsiwn i greu gwahoddiad cyfrif. Os bydd y gwahoddiad hwn yn cael ei anfon, bydd y defnyddiwr yn cael ei wahodd i gwblhau’r broses gofrestru drwy greu cyfrinair. Unwaith fo gan y defnyddiwr gyfrif, gall y defnyddiwr gael ei ychwanegu at gwrs. Os bydd defnyddiwr yn cael ei wahodd i gwrs heb gyfrif, bydd y defnyddiwr yn gorfod creu cyfrif cyn derbyn y gwahoddiad cwrs.

Pan fo defnyddwyr yn cael eu gwahodd i gwrs, maen nhw’n gallu gweld y ddolen gwahoddiad cwrs yn eu e-bost a chlicio arno i weld rhagolwg o’r cwrs Canvas. I dderbyn yn swyddogol, rhaid iddyn nhw glicio botwm Derbyn yn rhyngwyneb Canvas. Ond, os oes yn well gennych chi analluogi gweld rhagolwg o gwrs a chael defnyddwyr yn ymuno â’r cwrs yn awtomatig pan fyddan nhw’n gweld y cwrs Canvas, cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer i analluogi gweld rhagolwg o wahoddiad.

Cyfeiriadau E-bost

Mae Canvas yn adnabod defnyddwyr yn ôl cyfeiriadau e-bost. Pan gaiff myfyrwyr eu hychwanegu i gwrs, bydd Canvas yn ceisio cysoni unrhyw wrthdaro rhwng cyfeiriadau e-bost pan fydd y defnyddiwr yn mewngofnodi i’r cwrs am y tro cyntaf:

  • Bydd cyfrif yn cael ei greu i’r defnyddiwr os nad oes gan y defnyddiwr enw defnyddiwr yng nghyfrif gwraidd y cwrs, bod cyfeiriad e-bost y defnyddiwr wedi’i gysylltu â defnyddiwr arall yn y cyfrif, neu nad yw’r sefydliad yn defnyddio proses dilysu wedi’i ddirprwyo os yw cofrestru agored wedi’i alluogi. Dim ond os yw Cofrestru Agored wedi’i alluogi fydd ychwanegu cyfeiriad e-bost sydd heb ei gysylltu â chyfrif yn gweithio.
  • Os yw’r cyfeiriad e-bost wedi’i gysylltu â chyfrif yn barod, bydd gofyn i’r myfyriwr fewngofnodi i Canvas gan ddefnyddio ei gyfeiriad e-bost cyfredol.
  • Weithiau mae’n bosib y bydd myfyriwr yn defnyddio mwy nag un cyfeiriad e-bost yn Canvas. Os bydd myfyriwr yn ymateb i wahoddiad cwrs ar un cyfeiriad e-bost, ond ei fod wedi mewngofnodi i Canvas gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost arall, bydd Canvas yn gofyn a ydy’r myfyriwr eisiau cysylltu’r ddau e-bost i’r un cyfrif. 

Nodiadau:

  • Gallwch chi hefyd ychwanegu defnyddiwr at is-gyfrif drwy eu hychwanegu at gwrs sy’n gysylltiedig â’r is-gyfrif.
  • Gallwch greu ymrestriadau dros dro (create temporary enrollments) os yw hynny wedi’i alluogi ar gyfer eich sefydliad. Mae ymrestriadau dros dro yn caniatáu i chi adael i ddefnyddiwr gael mynediad at gwrs defnyddiwr arall am gyfnod penodol o amser.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Ychwanegu Defnyddiwr

Ychwanegu Defnyddiwr Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Pobl (Add People).

Ychwanegu Manylion Defnyddiwr

Ychwanegu Manylion Defnyddiwr

Llenwch y meysydd canlynol:

  • Mae Enw Llawn [1] yn cael ei ddefnyddio ar gyfer graddio, ffeiliau SIS wedi’u mewngludo ac eitemau gweinyddol eraill.
  • Yr Enw Arddangos [2] yw’r hyn y bydd defnyddwyr eraill yn ei weld mewn trafodaethau, cyhoeddiadau ac ati. Mae’r defnyddiwr yn gallu gosod ei enw arddangos ei hwn os yw’r gosodiad wedi’i alluogi.
  • Yr Enw Mewn Tref [3] yw enw olaf, enw cyntaf y defnyddiwr yn ddiofyn. Mae’r enw hwn yn ymddangos mewn rhestrau wedi’u trefn a gall gweinyddwyr chwilio amdano.
  • Mae E-bost [4] yn cael ei ddefnyddio fel cyfeiriad e-bost diofyn y defnyddiwr yn Canvas. Mae cyfeiriadau e-bost yn cael eu defnyddio i anfon hysbysiadau cwrs.
  • ID SIS [5] yw ID SIS y defnyddiwr. Mae’r maes hwn i sefydliadau sy’n defnyddio ffeiliau SIS wedi’u mewngludo yn unig a dim ond os oes gennych chi’r hawliau SIS lefel cyfrif cywir y bydd yn ymddangos.
  • Mae Anfon e-bost at y defnyddiwr ynghylch creu’r cyfrif hwn [6] yn opsiwn i anfon e-bost at y defnyddiwr ynghylch eu cyfrif newydd. Mae'r opsiwn hwn wedi’i osod yn ddiofyn. Os nad ydych chi eisiau i’r defnyddiwr gael ei hysbysu ynglŷn â’r cyfrif, dad-diciwch y blwch ticio hwn.

Ychwanegu Defnyddiwr

Ychwanegu Defnyddiwr

Cliciwch y botwm Ychwanegu Defnyddwyr (Add User).