Sut ydw i’n golygu enw defnyddiwr, cylchfa amser, neu e-bost mewn cyfrif?

Gallwch chi olygu manylion defnyddiwr eich hun yn eich cyfrif.

Nodyn: Os yw eich cyfrif yn rheoli gwybodaeth defnyddwyr drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS), bydd yn rhaid i’r newidiadau gael eu gwneud yn yr SIS hefyd. Ni fydd unrhyw newidiadau fydd yn cael eu gwneud yn Canvas yn cael eu pasio’n ôl i’r SIS.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adnodd Pobl

Agor yr adnodd Pobl

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Pobl (People).

Dod o hyd i Ddefnyddiwr

Defnyddiwch yr hidlydd a’r opsiynau chwilio i ddod o hyd i’r defnyddiwr yn y cyfrif.

Agor Proffil Defnyddiwr

Agor Proffil Defnyddiwr

Yn y canlyniadau chwilio, cliciwch enw’r defnyddiwr.

Golygu manylion defnyddiwr

Golygu manylion defnyddiwr

Cliciwch y ddolen Golygu (Edit).

Diweddaru Manylion

Diweddaru Manylion

Yma gallwch chi olygu manylion y defnyddiwr, ond mae modd i’r defnyddiwr ei newid yn ôl os yw’n dymuno; Dyma’r manylion y gallwch chi eu golygu yma:

  • Mae Enw Llawn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer graddio, ffeiliau SIS wedi’u mewngludo ac eitemau gweinyddol eraill [1].
  • Enw Arddangos yw beth fydd defnyddwyr eraill yn ei weld mewn Cyhoeddiadau, Cynadleddau, Sgyrsiau, a Thrafodaethau. [2]. Mae’r defnyddiwr yn gallu gosod ei enw arddangos ei hun os yw’r gosodiad wedi’i alluogi.
  • Yr Enw Mewn Trefn yw enw olaf, enw cyntaf y defnyddiwr yn ddiofyn ac mae modd ei olygu [3]. Mae hwn yn ymddangos mewn rhestrau wedi’u trefn a gall gweinyddwyr chwilio amdano.
  • Mae modd gosod Cylchfa Amser i le mae’r defnyddiwr neu’r lleoliad wedi’u lleoli [4].
  • Yr E-bost Diofyn yw dull cyswllt y defnyddiwr [5].

Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Diweddaru Manylion (Update Details) [6].