Sut ydw i’n gweld ac yn rheoli is-gyfrif?

Fel gweinyddwr gallwch chi weld a rheoli is-gyfrifon yn Canvas. Mae is-gyfrifon yn helpu i sefydlu strwythur hierarchaidd eich cyfrif a chynnwys cyrsiau ac ymrestriadau.

Mae holl is-gyfrifon eich sefydliad wedi’u lleoli yn y cyfrif gwraidd. Ond, mae is-gyfrifon yn gallu cynnwys is-gyfrifon ychwanegol wedi’u nythu, ac mae gweinyddwyr is-gyfrifon yn gallu gweld rhestr o’r holl is-gyfrifon yn eu cyfrif.

Mae is-gyfrifon yn gallu cael eu creu a’u rheoli gennych chi neu drwy ffeil SIS wedi’i mewngludo. Yn ogystal, mae is-gyfrifon sy’n cael eu creu drwy API neu ffeil SIS wedi’i mewngludo yn cadw’r dangosyddion a roddwyd i'r ffynhonnell wreiddiol. Gallwch chi olygu enwau is-gyfrifon i’w gwneud yn haws i ddod o hyd iddynt yn Canvas

Gwyliwch fideo am Is-gyfrifon.

Nodiadau:

  • Does dim modd dileu is-gyfrifon sy’n cynnwys cyrsiau.
  • Yn awtomatig, mae pob cyfrif gwraidd yn cynnwys is-gyfrif o’r enw Cyrsiau sydd heb gael eu creu’n awtomatig sy’n rheoli nifer o brosesau ôl i Canvas ac nad oes modd ei ddileu.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Is-gyfrifon

Agor Is-gyfrifon

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Is-gyfrifon (Sub-Accounts).

Gweld Is-gyfrif

Gweld Is-gyfrif

Mae is-gyfrifon wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor. I weld is-gyfrif, cliciwch enw’r is-gyfrif.

Crebachu ac Ehangu’r Rhestr Is-gyfrifon

Crebachu ac Ehangu’r Rhestr Is-gyfrifon

Mae nifer o gyfrifon Canvas yn cynnwys mwy nag un is-gyfrif gydag is-gyfrifon wedi’u nythu. I lywio’n haws o fewn is-gyfrifon, gallwch chi grebachu rhestrau is-gyfrifon, gan eu cuddio.

I grebachu rhestr o is-gyfrifon, cliciwch yr eicon Saeth i Fyny [1].

I ehangu rhestr o is-gyfrifon sydd wedi cael eu crebachu, cliciwch yr eicon Saeth i Lawr [2].

Ychwanegu Is-gyfrif

Ychwanegu Is-gyfrif

I greu is-gyfrif, cliciwch y botwm Ychwanegu.

Rheoli Is-gyfrif

Golygu Is-gyfrif

I olygu enw is-gyfrif, cliciwch yr eicon Golygu [1]. Golygwch enw’r is-gyfrif drwy deipio yn y maes enw. I gadw eich newidiadau, pwyswch y fysell Return (ar Mac) neu’r fysell Enter (ar gyfrifiadur) ar eich bysellfwrdd.

I ddileu’r is-gyfrif, cliciwch yr eicon Dileu [2].

Note: Does dim modd dileu is-gyfrifon sy’n cynnwys cyrsiau.

Cadarnhau Dileu Is-gyfrif

Cadarnhau’r broses Dileu

Wrth ddileu is-gyfrif, bydd neidlen yn ymddangos yn eich porwr. Cliciwch y botwm Iawn (OK).