Sut ydw i’n gweld hysbysiadau e-bost wedi neidio’n ôl i ddefnyddwyr mewn cyfrif?

Mae gweinyddwyr sy’’n cael gweld hysbysiadau yn gallu cael gafael ar y tab Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl yn yr Adnoddau Gweinyddol. Mae’r tab Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl yn dangos hysbysiadau e-bost sydd wedi neidio’n ôl ar gyfer pob defnyddiwr mewn cyfrif.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Adnoddau Gweinyddol

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Adnoddau Gweinyddol (Admin Tools).

Agor Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

Agor Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

Cliciwch y tab Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl (Bounced Emails).

Chwilio Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

Chwilio Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

I weld pob hysbysiad e-bost sydd wedi neidio’n ôl yn eich cyfrif, cliciwch y botwm Chwilio (Search) [1].

Hidlo Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

Hidlo Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

I ddod o hyd i hysbysiadau e-bost penodol sydd wedi neidio’n ôl, gallwch chi osod hidlyddion wrth chwilio. Gallwch chi hidlo yn ôl cyfeiriad e-bost defnyddiwr a/neu ddyddiad.

I hidlo negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl yn ôl cyfeiriad e-bost, teipiwch gyfeiriad e-bost yn y maes Cyfeiriad (Address). Caniateir nodchwilwyr ar gyfer enw defnyddiwr yr e-bost ac enw’r parth [1].

I weld hysbysiadau e-bost sydd wedi neidio’n ôl ar ôl dyddiad penodol, teipiwch neu ddewis dyddiad yn y maes Wedi neidio’n ôl ddiwethaf ar ôl (Last bounced after) [2].

I weld hysbysiadau e-bost sydd wedi neidio’n ôl cyn dyddiad penodol, teipiwch neu ddewis dyddiad yn y maes Wedi neidio’n ôl ddiwethaf cyn (Last bounced after) [3].

I weld hysbysiadau e-bost sydd wedi neidio’n ôl rhwng dyddiadau penodol, rhowch ddyddiad yn y ddau faes dyddiad.

I weld hysbysiadau e-bost sydd wedi neidio’n ôl gyda’r hidlyddion rydych chi wedi’u dewis, cliciwch y botwm Chwilio (Search) [4].

Gweld Negeseuon e-bost wedi neidio’n ôl

Mae'r canlyniadau hysbysiad e-bost sydd wedi neidio’n ôl yn dangos enw’r derbynydd iawn [1], y cyfeiriad e-bost [2], y dyddiad neidio’n ôl diweddaraf [3], a’r rheswm pam fod y neges e-bost wedi neidio’n ôl [4].

I lwytho canlyniadau neges e-bost wedi neidio’n ôl ar ffurf ffeil CSV, cliciwch y ddolen Llwytho’r canlyniadau hyn i lawr fel CSV (Download these results as CSV) [5].

Nodyn: Os nad yw gwybodaeth defnyddiwr wedi’i gynnwys yn y canlyniadau e-bost sydd wedi neidio’n ôl, efallai fod y defnyddiwr wedi’i restru ar restr atal Amazon Web Services (AWS). I wirio a yw cyfeiriad E-bost penodol ar y rhestr hon ac i wneud cais i’w dynnu, cysylltwch â Canvas Support. Ar ben hynny, mae rhestr atal AWS yn cael ei chlirio’n awtomatig bob pythefnos gan Amazon.