Sut ydw i’n defnyddio’r dudalen Cyrsiau mewn cyfrif?

Gallwch weld cyrsiau yn eich cyfrif ar y dudalen Cyrsiau. Gallwch weld a hidlo cyrsiau yn ôl tymor ac athro yn ogystal â chwilio am gyrsiau unigol. Hefyd, gallwch roi colofnau canlyniadau chwilio mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Gweld Cyrsiau mewn Isgyfrifon

Gweld Cyrsiau mewn Isgyfrifon

Os ydych chi wedi trefnu cyrsiau yn eich cyfrif yn ôl isgyfrifon, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts) i ddod o hyd i’r isgyfrif a’i agor, yna cliciwch ddolen Cyrsiau (Courses) yr isgyfrif.

Gweld Tudalen Cyrsiau

Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Mae'r dudalen Cyrsiau yn dangos yr holl gyrsiau yn y cyfrif. Mae’r dudalen wedi’i dylunio gyda'r gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1] ac yna’r data cwrs sydd wedi’i greu [2].

Mae pob maes yn defnyddio lled y porwr i gyd, ac mae modd addasu hyn yn ôl yr angen i arddangos data am y cwrs.

Hidlo Tymhorau

Hidlo Tymhorau

Mae gosodiadau cyffredinol yn cynnwys chwilio a hidlo yn ôl data am gyrsiau. Mae meysydd chwilio a hidlyddion yn diweddaru'n ddeinamig.

Yn ddiofyn, mae cyrsiau ar gyfer pob tymor i'w gweld ar y dudalen Cyrsiau. I hidlo cyrsiau yn ôl tymor, cliciwch y gwymplen Hidlo yn ôl tymor (Filter by term) [1]. Caiff tymhorau eu grwpio yn ôl tymhorau blaenorol, rhai gweithredol a rhai i’r dyfodol. Caiff y tymor Diofyn ei gynnwys ar y rhestr o dymhorau gweithredol. Gan ddibynnu ar nifer y tymhorau sydd mewn cyfrif, gall y ddewislen Tymhorau (Terms) ddangos neges yn llwytho hyd nes y bydd yr holl dymhorau i’w gweld.

I chwilio am dymor penodol yn ôl allweddair, teipiwch allweddair yn y maes testun Hidlo yn ôl tymor (Filter by term) [2]

Mae'r ddewislen Termau yn dangos enw llawn term yn y rhestr [3].

Trefnu a Chwilio am Gyrsiau

Mae’r dudalen Cyrsiau yn chwilio yn ôl cyrsiau fel mater o drefn. I chwilio am gwrs penodol, teipiwch enw’r cwrs, cod cwrs, ID SIS, neu ID cwrs Canvas yn y maes chwilio [1].

I chwilio am gyrsiau yn ôl athro (addysgwr), cliciwch y ddewislen Trefnu yn ôl (Sort by) a dewiswch yr opsiwn Athro [2]. Mae'r testun yn y maes chwilio yn diweddaru i ddangos eich bod chi wrthi’n chwilio am gyrsiau yn ôl athro. Gallwch chwilio yn ôl enw'r addysgwr (dos dim modd delio ag ID Defnyddiwr, ID SIS nac ID mewngofnodi).

Wrth chwilio, os ydych chi am eithrio cyrsiau nad oes myfyrwyr wedi ymrestru arnynt, ticiwch y blwch Cuddio cyrsiau sydd heb fyfyrwyr (Hide courses without students) [3].

Gweld Cyrsiau Glasbrint

Er mwyn dangos cyrsiau glasbrint yn unig wrth chwilio, ticiwch y blwch Dangos cyrsiau glasbrint yn unig (Show only blueprint courses) [1].

Mae Cyrsiau Glasbrint yn cynnwys yr eicon Glasbrint [2].

Gweld Templedi Cyrsiau

Mae templedi cyrsiau yn dangos yr eicon templed cwrs. Dydy templedi cyrsiau ddim yn gadael i ymrestriadau gael eu hychwanegu a dydyn nhw ddim yn dangos cyfrif myfyrwyr na data tymor.

Ychwanegu Cwrs

Ychwanegu Cwrs

I ychwanegu cwrs at y cyfrif, cliciwch y botwm Ychwanegu Cwrs (Add Course).

Gweld Cyrsiau

Mae’r dudalen Cyrsiau yn tudalennu canlyniadau hidlo a chwilio mewn setiau o 15 cwrs ac maent yn cael eu trefnu yn ôl ID SIS. Mae pob tudalen sydd wedi’i thudalennu yn cael ei dangos mewn fformat tabl ond mae’r colofnau’n addasu yn unol â'r golofn letaf ar y dudalen honno.

Mae’r canlyniadau’n dangos enw’r cwrs [1], ID SIS (os yw’n berthnasol) [2], tymor [3], athro [4], isgyfrif [5], a nifer y myfyrwyr gweithredol [6].

Ac eithrio’r golofn Myfyrwyr (Student), gellir gosod pennawd pob colofn mewn trefnu esgynnol neu ddisgynnol (yn nhrefn yr wyddor neu mewn trefn rifyddol).

Mae cyrsiau sydd wedi’u cyhoeddi yn dangos blwch ticio wrth enw'r cwrs [1].

Os yw cwrs yn cynnwys mwy na dau athro, bydd y golofn Athro yn dangos dolen Dangos Mwy (Show More) [2]. Gellir clicio y ddolen hon i ddangos y rhestr lawn o'r athrawon.

Rheoli Cwrs

I agor cwrs, cliciwch enw’r cwrs [1]. I weld manylion defnyddiwr ar gyfer athro yn y cwrs, cliciwch enw'r athro [2]. I agor is-gyfrif, cliciwch enw’r is-gyfrif [3].

I gael mynediad cyflym at ddata cwrs, gallwch ychwanegu defnyddiwr eich hun at y cwrs [4], edrych ar ystadegau'r cwrs [5] ac edrych ar osodiadau'r cwrs [6].