Sut ydw i’n creu macro yn y Consol Gweinyddu Maes?

Gallwch greu macro yn y Consol Gweinyddu Maes. Mae macros yn caniatáu i chi wneud newidiadau i unrhyw achos gydag ambell glic yn unig. Gallwch osod macro pan fyddwch yn gweld achos unigol.

Nodwch: Gall nodweddion Consol Gweinyddu Maes amrywio yn ôl gosodiadau defnyddiwr a chyfrif. Ar sail yr hyn a ganiateir ar gyfer eich rôl, efallai na fyddwch yn gallu gweld na defnyddio’r nodweddion a ddisgrifir yn y wers hon.

Agor Macros

Cliciwch y tab Macros i agor y dudalen Macros.

Creu Macro Newydd

Cliciwch y botwm Newydd (New) i greu macro newydd.

Ychwanegu Manylion Macro

Ychwanegu Manylion Macro

Rhowch y manylion ar gyfer y macro. Mae manylion y macro yn cynnwys:

  • Enw (Name) [1]
  • Cyfrif (Account) [2]: sy’n dangos y cyfrif lle gellir defnyddio’r macro. I dynnu cyfrif, cliciwch yr eicon Tynnu [3].
  • Trosglwyddo (Transfer) [4]: sy’n trosglwyddo achosion i weinyddwr maes dynodedig
  • Statws (Status) [5]: sy’n dynodi statws achos, y gellir ei bennu fel agored, newydd, i ddod, yn aros, wedi’i ddatrys, neu wedi’i gau oherwydd dyblygu.
  • Adran Cydrannau Canvas (Canvas Component Section) [6]: sy’n disgrifio a yw achos yn berthnasol i gyfrif cyfan, i gwrs penodol, i ddefnyddiwr Canvas, LTI neu integreiddiad neu fater nad yw’n ymwneud â Canvas.
  • Cydran Canvas yr Effeithir Arni (Canvas Component Affected) [7]: sy’n disgrifio o ble daw’r nam neu’r broblem yn y nodwedd yn Canvas.
  • Cam Gweithredu Cydran Canvas (Canvas Component Action) [8]: sy’n disgrifio’r cam gweithredu a arweiniodd at greu'r achos.
  • Analluogi Hysbysiadau (Disable Notifications) [9]: sy’n atal negeseuon e-bost sy’n cynnwys hysbysiadau rhag cael eu hanfon at Berchennog yr Achos, Cyswllt yr Achos a CC yr Achos.
  • Sylw Sgwrsio (Chatter Comment) [10]: sy’n ychwanegu sylw at bob achos

I ddysgu rhagor am yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer meysydd Cydrannau Canvas, trowch at y ddogfen adnoddau Cydrannau Canvas.

Cadw Macro

Cadw Macro

I gadw eich macro, cliciwch y botwm Cadw (Save) [1]. I gadw eich macro a dechrau creu macro newydd, cliciwch y botwm Cadw a Newydd (Save & New) [2].

I ddileu eich macro, cliciwch y botwm Canslo (Cancel) [3].

Gweld Macro

Gweld y macro.

I olygu’r macro, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [1]. I ddileu eich macro, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2]. I ddyblygu eich macro, cliciwch y botwm Clonio (Clone) [3].