Sut ydw i’n gweld fy achosion cymorth ym mhorth cymorth Instructure?

Fel gweinyddwr maes, gallwch chi weld a rheoli achosion gan ddefnyddio’r tabl Achosion. Mae’r tabl Achosion yn dangos pob achos agored y eich cyfrif ond mae modd ei hidlo i ddangos achosion sy’n bodloni meini prawf penodol.

Gallwch chi fewngofnodi i’r Consol Gweinyddu Maes ar adminconsole.canvaslms.com.

Nodyn: Gall nodweddion Consol Gweinyddu Maes amrywio yn ôl gosodiadau defnyddiwr a chyfrif. Ar sail yr hyn a ganiateir ar gyfer eich rôl, efallai na fyddwch yn gallu gweld na defnyddio’r nodweddion a ddisgrifir yn y wers hon.

Achosion Agored

Ar dudalen hafan y Consol Gweinyddu Maes, cliciwch y tab Achosion (Cases).

Gweld Achosion

Mae’r dudalen Achosion yn dangos y tabl achosion, sy’n rhestru achosion agored o gyfrifon rydych chi’n eu rheoli. Mae pob achos yn cynnwys rhif achos [1], statws [2], pwnc [3], y defnyddiwr wnaeth greu’r achos [4], dyddiad yr addasiad diwethaf [5], dyddiad ac amser agor yr achos [6], enw’r perchennog [7], ac enw’r cyfrif [8].

Hidlo’r Tabl Achosion

I hidlo’r tabl Achosion, cliciwch y ddewislen Hidlo (Hidlo) [1]. Gallwch chi hidlo achosion yn ôl cynyrch instructure, statws, achosioon wedi’u creu heddiw, achosion wedi’u neilltuo i chi, achosion a welwyd yn ddiweddar, neu achosion wedi’u blaenoriaethu.

I binio hidlydd fel y wedd ddiofyn ar gyfer y dudalen Achosion, cliciwch yr eicon Pin [2].

I chwilio’r tabl Achosion, cliciwch y maes Chwilio (Search) [3]. I adnewyddu’r tabl, cliciwch y botwm Adnewyddu (Refresh) [4].

Achos Agored

I agor achos, cliciwch rif yr achos.