Sut ydw i’n dad-draws-restru adran mewn cwrs fel gweinyddwr?

Os gwnaethoch chi draws-restru adran o gwrs, efallai y byddwch chi’n gallu traws-restru’r un adran yn ôl i’r cwrs gwreiddiol. Mae’r broses hon yn cael ei galw’n ddad-draws-restru ac mae’n dychwelyd pob ymrestriad myfyriwr yn ôl i adran wreiddiol y cwrs.

Ar ôl i chi ddad-draws-restru ymrestriadau, bydd pob gradd a chyflwyniad myfyriwr yn cael eu tynnu o’r cwrs (gan nad yw’r cwrs yn gallu cysylltu’r wybodaeth ag unrhyw ymrestriad cwrs mwyach). Os oes angen i chi gadw graddau myfyriwr a’u rhoi yn y cwrs gwreiddiol, dylech chi allgludo’r Llyfr Graddau a’i fewngludo i’r cwrs gwreiddiol cyn dad-draws-restru’r adran.

Nodyn: Peidiwch â newid enw’r cwrs wrth draws-restru neu ddad-draws-restru.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen cyrsiau, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) cwrs.

Agor Adrannau

Agor Adrannau

Cliciwch y tab Adrannau (Sections).

Agor Adran

Agor Adran

Cliciwch deitl yr adran rydych chi am ei dad-draws-restru.

Dad-draws-restru’r adran hon

Dad-draws-restru’r adran hon

Cliciwch y botwm Dad-Draws-Restru’r Adran Hon (De-Cross-List this Section).

Cadarnhau Dad-Draws-Restru

Cliciwch y botwm Dad-Draws-Restru’r Adran Hon (De-Cross-List this Section). Bydd yr adran hon yn cael ei symud yn ôl i’w chwrs gwreiddiol.

Nodyn: Os byddwch chi’n dad-draws-restru adran sy’n cynnwys graddau myfyriwr, bydd Canvas yn cynnwys neges na fydd graddau’n weladwy mwyach. Os oes angen i chi gadw graddau myfyriwr a’u rhoi yn y cwrs gwreiddiol, dylech chi allgludo’r Llyfr Graddau a’i fewngludo i’r cwrs gwreiddiol cyn dad-draws-restru’r adran.