Sut ydw i’n rheoli cyfrifiadau meistroli deilliannau mewn cyfrif?

Os yw’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif wedi’i alluogi ar gyfer eich cyfrif, mae graddfeydd meistroli a dulliau cyfrifo wedi’u gwahanu o ddeilliannau unigol, ac mae’r dudalen Deilliannau’n dangos tabiau Graddfeydd Meistroli a Dulliau Cyfrifo.

O’r tab Cyfrifo, gallwch chi osod dulliau cyfrifo meistroli ar gyfer y cyfrif cyfan.

Sylwch:

  • Bydd galluogi’r opsiwn nodwedd Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif yn effeithio ar ddata cyfrif cyfredol.
  • Os oes cyfarwyddyd sgorio gyda deilliannau wedi’u halinio wedi cael ei ddefnyddio i asesu aseiniad cyn i’r Graddfeydd Meistroli Deilliannau Lefel y Cwrs a Lefel y Cyfrif gael eu galluogi, nid yw’r aseiniad yn cael ei effeithio. Ond, mae unrhyw aseiniadau sydd heb gael eu hasesu gan y cyfarwyddyd sgorio yn cael eu heffeithio os bydd sgorau meistroli’n cael eu haddasu.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Deilliannau

Agor Deilliannau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Deilliannau (Outcomes).

Agor Cyfrifiadau

Agor Cyfrifiadau

I weld a rheoli’r dull cyfrifo meistroli, cliciwch y tab Cyfrifo (Calculation).

Sylwch: Os nad yw’r tab Cyfrifo i’w weld ar y dudalen Deilliannau, nid yw cyfrifiadau meistroli deilliannau lefel y cyfrif wedi cael eu galluogi gan eich sefydliad.

Dewis Dull Cyfrifo

I osod y dull cyfrifo meistroli, cliciwch y gwymplen Cyfrifo Meistroli (Mastery Calculation) [1]. Gallwch chi ddewis rhwng y dulliau cyfrifo canlynol: Cyfartaledd wedi’i Bwysoli [2], Cyfartaledd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar [3], n Sawl Gwaith [4], Sgôr Fwyaf Diweddar [5] a Sgôr Uchaf [7].

Dewis Cyfartaledd wedi’i Bwysoli

I gael cyfartaledd o sgorau eitemau asesu, gan roi mwy o bwyslais ar yr eitem asesu ddiweddaraf, dewiswch yr opsiwn Cyfartaledd wedi’i Bwysoli (Weighted Average) [1].

Bydd y cyfrifiad Cyfartaledd wedi’i Bwysoli yn rhannu’r ganran rhwng yr eitem asesu ddiweddaraf a chyfartaledd o’r holl eitemau asesu blaenorol. Er enghraifft, gallwch osod y cyflwyniad diweddaraf i gael ei bwysoli ar 40% o’r cyfanswm, ac eitemau blaenorol i gael eu pwysoli ar 60% o’r cyfanswm.

Rhowch y ganran i’w defnyddio ar gyfer y canlyniad mwyaf diweddar yn y maes Paramedr (Parameter) [2]. Gallwch chi hefyd gynyddu neu leihau’r paramedr drwy ddefnyddio’r eiconau Saeth (Arrow) [3]. Mae’r maes Paramedr yn derbyn rhifau cyfan rhwng 1 a 99. Yn ddiofyn, mae’r paramedr wedi’i osod i 65% Bydd y swm sydd ar ôl yn cael ei ddefnyddio i bwysoli sgorau blaenorol.

Yn yr adran Enghraifft (Example) [4], mae’r cyfrifiad yn diweddaru’n seiliedig ar y paramedr rydych chi wedi’i ddewis. Bydd y cyfartaledd yn cael ei dalgrynnu i’r ddau ddegolyn nesaf. Os mai dim ond un canlyniad sydd, yr un sgôr hwnnw fydd yn ymddangos.

Dewis Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar

Dewis Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar

I gael cyfartaledd o sgorau eitemau asesu, gan roi mwy o bwyslais ar yr eitem asesu ddiweddaraf, dewiswch yr opsiwn Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar (Decaying Average) [1].

Mae’r cyfrifiad Cyfartaledd Sy’n Rhoi Mwy o Bwyslais ar Waith Diweddar yn defnyddio fformiwla i bennu cymhwysedd yn seiliedig ar sgorau cyfartalog myfyrwyr, gan roi mwy o bwyslais i’r sgorau mwyaf diweddar. I bennu’r pwyslais sy’n cael ei roi i’r sgôr fwyaf diweddar, mae’r fformiwla yn defnyddio cyfradd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar. Yr uchaf yw cyfradd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar waith diweddar y fformiwla, y mwyaf o bwyslais sy’n cael ei roi i’r asesiad mwyaf diweddar. 

Yn ddiofyn, mae’r pwysau wedi’i osod i 65% yn y maes Paramedr (Parameter) [2]. Ond, gallwch chi addasu’r gyfradd i unrhyw ganran rhwng 50% a 99% gan ddefnyddio’r eiconau Saeth (Arrow) [3]. Rhwng dau asesiad, yr asesiad diweddaraf yn cael pwysau o 65%, a’r cyntaf yn cael 35%. Ar gyfer pob asesiad ychwanegol, mae swm y cyfrifiadau sgôr blaenorol yn lleihau o 35% ychwanegol.

Er enghraifft, mae gan fyfyriwr sgorau o 1, 2, 3, 4 (wedi’u rhestru mewn trefn gronolegol o’r sgôr hynaf i’r sgôr fwyaf diweddar).

(1 × .35) + (2 × .65) = X

(X × .35) + (3 × .65) = Y

(Y × .35) + (4 × .65) = Z  (dyma’r sgôr safonol cyfredol; 3.48)

Dewiswch n Sawl Gwaith

Dewiswch n Sawl Gwaith

I bennu sawl gwaith y bydd yn rhaid i fyfyriwr gyrraedd neu ragori ar lefel meistroli ar gyfer nifer penodol o eitemau cysylltiedig, dewiswch yr opsiwn n Sawl Gwaith (n Number of Times) [1].

Nodwch sawl gwaith rhaid i feistrolaeth gael ei gyflawni yn y maes Paramedr (Parameter) [2]. Gallwch chi hefyd gynyddu neu leihau’r paramedr drwy ddefnyddio’r eiconau Saeth (Arrow) [3]. Mae’r maes Paramedr yn derbyn rhifau rhwng 1 a 10.

Dydy sgorau sydd ddim yn cyrraedd y lefel meistroli ddim yn cael eu defnyddio yn y cyfrifiad.

Gallwch chi weld enghraifft o’r cyfrifiad n Sawl Gwaith yn yr adran Enghraifft (Example) [4].

Dewis Sgôr Fwyaf Diweddar

Dewis Sgôr Fwyaf Diweddar

I ddewis y sgôr ar gyfer yr eitem ddiweddaraf sydd wedi’i graddio, dewiswch yr opsiwn Sgôr Fwyaf Diweddar (Most Recent Score) [1].

Gallwch chi weld enghraifft o’r cyfrifiad Sgôr Fwyaf Diweddar yn yr adran Enghraifft (Example) [2].

Dewis Sgôr Uchaf

Dewis Sgôr Uchaf

I ddewis y sgôr uchaf o’r eitemau asesiad, dewiswch yr opsiwn Sgôr Uchaf (Highest Score) [1].

Gallwch chi weld enghraifft o’r cyfrifiad Sgôr Uchaf yn yr adran Enghraifft (Example) [2].

Dewis Cyfartaledd

I ddewis y sgôr cyfartalog o’r eitemau asesiad, dewiswch yr opsiwn Cyfartaledd (Average) [1].

Gallwch chi weld enghraifft o’r cyfrifiad Cyfartaledd yn yr adran Enghraifft (Example) [2].

Cadw Dull Cyfrifo

Cadw Dull Cyfrifo

I gadw eich dull cyfrifo, cliciwch y botwm Cadw Cyfrifiad Meistroli (Save Mastery Calculation).

Cadarnhau Newidiadau Cyfrifo

Cadarnhau Newidiadau Cyfrifo

I gadarnhau eich newidiadau i’r cyfrifiad meistroli, cliciwch y botwm Cadw (Save).