Sut ydw i’n tanysgrifio i Ddigwyddiadau Byw gan ddefnyddio Gwasanaethau Data Canvas?

Fel gweinyddwr, gallwch chi danysgrifio i Ddigwyddiadau Byw a derbyn set amser real o ddigwyddiadau o’ch Cyfrif Canvas. Gallwch chi ddewis pa ddigwyddiadau yn Canvas rydych chi eisiau tanysgrifio iddynt. Bydd angen i chi gadw ciw Gwasanaethau Gwe Amazon i dderbyn data Digwyddiadau Byw.

Note: I dderbyn data Digwyddiadau Byw, bydd agen angen i chi danysgrifio i Wasanaethau Gwe Amazon er mwyn cadw ciw.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gwasanaethau Data

Agor Gwasanaethau Data

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gwasanaethau Data (Data Services).

Ychwanegu Ffrwd Data

Ychwanegu Ffrwd Data

I greu ffrwd ddata newydd ar gyfer eich cyfrif, cliciwch y botwm Ychwanegu Ffrwd (Add Stream).

Ffurfweddu Ffrwd Data

Ffurfweddu Ffrwd Data

Rhowch deitl ar gyfer eich ffrwd yn y maes Enw/Teitl (Name/Title) [1].

Dewiswch ddull darparu SQS neu HTTPS yn y gwymplen Dull Darparu (Delivery Method) [2]. Yna rhowch eich AWS SQS neu URL pwynt gorffen HTTPS yn y maes URL [3].

Nodiadau:

  • Dim ond un dull darparu a ganiateir ar gyfer pob tanysgrifiad.
  • Mae Canvas yn defnyddio JWT i lofnodi digwyddiad. Os nad yw’r gwasanaeth ar gael ac nad yw Canvas yn gallu ei nôl, efallai na fydd digwyddiadau sy’n digwydd yn ystod toriad yn y gwasanaeth yn cael eu darparu.

Ffurfweddu Ffrwd Data SQS Amazon

Ffurfweddu Ffrwd Data SQS Amazon

Os ydych chi eisiau gwneud dilysu’n orfodol ar gyfer URL SQS Amazon, dewiswch y Manylion AWS yn y maes Dilysu (Authentication) [1]. Os nad oes angen dilysu, gellir gosod y maes hwn i’r opsiwn Dim.

Os oes angen manylion AWS, rhowch yr allwedd AWS [2], y gyfrinach AWS [3], a’r rhanbarth AWS [4].

Dewiswch fformat y digwyddiad yn y maes Math o Neges (Message Type) [5]. Mae modd gosod y math o neges i Canvas neu Caliper 1.1.

Note: Dim ond i’r opsiwn Ffrydio Data y mae modd gosod y maes Math o Raglen.

 

Ffurfweddu Ffrwd Data HTTPS

Mae’r dull darparu HTTPS yn cynnwys opsiwn i ddangos data llwyth gwaith pwynt gorffen ffynhonnell gyda’ch ffrwd data. I weld data llwyth gwaith, dewiswch y blwch ticio Llofnodi Llwyth Gwaith (Sign Payload) [1].

Dewiswch fformat y digwyddiad yn y maes Math o Neges (Message Type) [2]. Mae modd gosod y math o neges i Canvas neu Caliper 1.1.

Note: Dim ond i’r opsiwn Ffrydio Data y mae modd gosod y maes Math o Raglen.

Dewis Tanysgrifiadau

Dewis Tanysgrifiadau

Dewiswch y tanysgrifiadau rydych chi eisiau eu cynnwys yn eich ffrwd data.

I chwilio am ddigwyddiadau penodol, teipiwch enw’r digwyddiad yn y maes Chwilio Digwyddiadau (Search Events) [1].

I gynnwys pob digwyddiad yn eich ffrwd, cliciwch y blwch ticio Tanysgrifiadau (Subscriptions) [2]. Mae dewis yr opsiwn hwn yn cynnwys pob math o ddigwyddiad yn ogystal â chamau gweithredu sydd wedi cael eu creu gan y defnyddiwr a’r system.

I danysgrifio i ddigwyddiadau sydd wedi cael eu sbarduno gan gam gweithredu sydd wedi cael ei wneud yn uniongyrchol gan ddefnyddiwr, cliciwch y blwch ticio Wedi’i Greu gan Ddefnyddiwr (User Generated) [3]. Mae digwyddiadau wedi’u creu gan ddefnyddiwr yn cynnwys gwybodaeth am geisiadau gwe, data defnyddiwr a phorwr ym metaddata digwyddiad, a manylion am wrthrychau sydd wedi’u heffeithio gan y newid.

I danysgrifio i ddigwyddiadau wedi’u sbarduno gan dasgau anghydamseredig, cliciwch y blwch ticio Wedi’i Greu gan System (System Generated) [4]. Mae digwyddiadau sydd wedi’u creu gan system yn cynnwys data am brosesu wnaeth sbarduno digwyddiad yn ogystal â manylion am wrthrychau sydd wedi’u heffeithio gan y newid.

Gallwch chi hefyd danysgrifio i ddigwyddiadau grŵp. I danysgrifio i bob eitem mewn grŵp, cliciwch y blwch ticio ar gyfer y grŵp [5]. Gallwch chi hefyd ddewis cynnwys dim modd data wedi’i greu gaan ddefnyddiwr neu system [6].

I danysgrifio i ddigwyddiadau unigol, cliciwch yr eicon Saeth ar gyfer y grŵp tanysgrifio [7] a chlicio’r blwch ticio ar gyfer y tanysgrifiad rydych chi eisiau ei ychwanegu [8].

Note: Mae’r ddelwedd yn y cam hwn yn dangos opsiynnau tanysgrifio ar gyfer y math o neges canvas. Mae’r opsiynau ar gyfer mathau o negeseuon Caliper 1.1 yn wahanol, ond mae’r camau i danysgrifio yr un fath.

Cadw Ffrwd Data

Cadw Ffrwd Data

I gadw eich ffrwd data, cliciwch y botwm Cadw a Gadael (Save & Exit).

Gweld Ffrydiau Data

Gweld Ffrydiau Data

Gallwch chi weld a rheoli eich ffrydiad data ar y dudalen Opsiynau Ffrydio Data.