Sut ydw i’n gweld ystadegau ar gyfer cyfrif?

Mae’r dudalen ystadegau’n dangos cipolwg o’r gweithgarwch yn y cyfrif cyfredol. Mae ystadegau’n darparu gwybodaeth gyfredol am eich cyfrif ond gallwch chi hefyd weld gwybodaeth dros amser. Mae ystadegau’n gweithio ar y cyd â Dadansoddiadau Cyfrif, y gallwch chi hefyd ei weld o’r dudalen Ystadegau.

Gwylio fideo am Ddadansoddiadau ac Ystadegau.

Note: Os yw eich dadansoddiad yn edrych yn wahanol i’r hyn sydd i’w weld yn y wers, efallai bod y rhagolwg nodwedd Admin Analytics wedi’i alluogi ar eich cyfrif. Dysgwch sut i ddefnyddio Admin Analytics yn eich cyfrif.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Ystadegau

Agor Ystadegau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Ystadegau (Statistics).

Gweld Rhifau Cyffredinol

Gweld Rhifau Cyffredinol

Yn y dudalen Ystadegau, gallwch chi weld gwybodaeth gyffredinol am eich cyfrif.

  • Wedi’i Greu (Generated): yn dangos pryd y cafodd y data ei greu ddiwethaf ar gyfer eich cyfrif. Does dim modd creu data eich hun.
  • Cyrsiau (Courses): yn dangos faint o gyrsiau sydd wedi’u cyhoeddi yn y cyfrif.
  • Athrawon (Teachers): yn dangos faint o athrawon unigryw sydd â gweithgarwch yn gysylltiedig â Canvas yn y 30 diwrnod diwethaf. Os yw un defnyddiwr yn athro mewn pum cwrs, bydd yr ystadegyn ond yn cyfrif un athro.
  • Myfyrwyr (Students): yn dangos yr un ystadegau â'r rhai ar gyfer athrawon, ond yng nghyd-destun myfyrwyr.
  • Defnyddwyr (Users): yn cynnwys cyfanswm yr athrawon, myfyrwyr, arsyllwyr a chynorthwywyr dysgu sydd wedi mewngofnodi yn y 30 diwrnod diwethaf. Nid yw’r rhif hwn yn cynnwys myfyrwyr prawf sydd wedi’u creu drwy’r Wedd Myfyriwr.
  • Storfa Ffeiliau wedi’u Llwytho i Fyny: yn nodi faint o ffeiliau sydd wedi’u storio a nifer y ffeiliau ym mhob cwrs ar gyfer y cyfrif cyfan. Nid yw ffeiliau wedi’u dileu wedi’u cynnwys. I ddysgu am fanylion cwota ffeil benodol, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cwota Ffeiliau Cwrs. Mae’r terfyn storio ffeiliau yn cael ei gyfrifo gyda nifer yr ymrestriadau llawn amser (FTE) yn eich sefydliad (diofyn yw 500 MB/FTE). I gyfrifo faint o’r storfa ffeiliau sydd wedi’i defnyddio yn eich cyfrif, newidiwch y rhif storfa ffeiliau wedi’u llwytho i fyny i MB (e.e. 1.88 GB yw 1880 MB). Yna cymerwch rif yr ymrestriadau llawn amser a lluosi’r MB i bob ymrestriad (e.e. 3,000 FTE x 500 MB). Os yw’r rhif wedi’i drosi yn llai na’r rhif wedi’i luosi, mae eich sefydliad o fewn eich terfyn storio ffeiliau. Os yw’r rhif yn uwch, cysylltwch âch Rheolwr Llwyddiant Cwsmer i gael opsiynau storio ychwanegol. Gallwch chi hefyd newid y cwota ar gyfer pob cwrs neu gyrsiau penodol.
  • Storio Ffeiliau Cyfryngau (Media File Storage): yn dangos nifer y gwrthrychau cyfryngau sydd wedi’u llwytho i fyny i gyrsiau gweithredol, fel ffeiliau fideo, sain a cherddoriaeth. Nid yw cyfryngau sydd wedi’u creu yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn rhan o’r storfa ffeiliau cyfryngau.

Mae rhifau cyffredinol yn dangos yr ystadegau cyfredol yn y cwrs; i weld sut mae ystadegyn wedi esblygu dros amser, cliciwch y ddolen dros amser (over time).

Gweld Ystadegau Dros Amser

Gweld Ystadegau Dros Amser

Mae’r graffiau ystadegau dros amser yn dangos sut mae data penodol wedi esblygu ers i’ch cyfrif gael ei greu. Gallwch chi symud eich cyrchwr dros y graff data i weld data ar gyfer dyddiad penodol [1]. Gallwch chi hefyd lwytho’r data i lawr drwy glicio’r ddolen Llwytho CSV i Lawr (Download CSV) [2].

Gweld Ystadegau'r Cwrs

Gweld Ystadegau'r Cwrs

Gallwch chi weld cyrsiau sydd wedi cychwyn yn ddiweddar [1] a chyrsiau sydd wedi gorffen yn ddiweddar [2] yn eich cyfrif. I weld cwrs, cliciwch enw’r cwrs.

Gweld Defnyddwyr

Gweld Defnyddwyr

Gallwch chi hefyd weld rhestr o ddefnyddwyr sydd wedi mewngofnodi i’ch cyfrif yn ddiweddar. I weld manylion am ddefnyddiwr, cliciwch enw’r defnyddiwr

Gweld Dadansoddiadau Cyfrif

Gweld Dadansoddiadau Cyfrif

I weld dadansoddiadau cyfrif, cliciwch y botwm Gweld Dadansoddiadau (View Analytics).