Sut ydw i’n cloi gwrthrychau cwrs mewn cwrs glasbrint fel gweinyddwr?

Mewn cwrs glasbrint unigol, gallwch gloi a datgloi gwrthrychau cwrs a chysoni cynnwys ar gyfer y cwrs glasbrint. Os nad ydych chi’n siŵr sut cafodd gwrthrychau eu diffinio ar gyfer eich cwrs, gallwch chi edrych arnynt yn y tab Manylion y Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs. Mae hi’n bosib newid priodoleddau ar gyfer gwrthrychau wedi’u cloi yng Ngosodiadau’r Cwrs unrhyw bryd.

Os ydych chi’n ymrestru fel addysgwr ar gwrs glasbrint, gall yr addysgwr hefyd gloi a datgloi gwrthrychau’r cwrs. Caiff gwrthrychau eu datgloi yn ddiofyn mewn cyrsiau glasbrint

Gwrthrychau Wedi’u Cloi

Mae cloi gwrthrych mewn cwrs yn gorfodi'r priodoleddau sydd wedi’u diffinio yng Ngosodiadau’r Cwrs. Bydd unrhyw newid i briodoledd ar ôl hynny'n berthnasol i bob gwrthrych sydd wedi’i gloi yn y cwrs cysylltiedig. Os yw priodoledd wedi’i alluogi ar gyfer gwrthrychau wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint, bydd unrhyw briodoleddau wedi’u cloi yn y cwrs cysylltiedig, sy’n amrywio o briodoleddau wedi’u cloi yn y cwrs glasbrint, yn arwain at newidiadau heb eu cysoni yn y cwrs glasbrint ac yn diystyru’r gwrthrychau yn y cwrs cysylltiedig.

Pan fyddwch chi’n cloi neu'n datgloi gwrthrych, bydd hynny’n newid yn syth ym mhob cwrs cysylltiedig. Fodd bynnag, bydd y newid hwn yn dal i gael ei nodi fel newid heb ei gysoni ac ni fydd yn ymddangos ar y dudalen Hanes Cysoni (Sync History) nes bod y broses cysoni wedi gorffen. Nid yw newidiadau’n cael eu hadnabod fel newidiadau heb eu cysoni nes bod y dudalen wedi’i hadnewyddu chwaith. 

Gwrthrychau wedi’u Datgloi

Gall gwrthrychau wedi’u datgloi gael eu rheoli gan addysgwr cwrs yn yr un modd ag unrhyw wrthrych Canvas arall. Os caiff y cwrs glasbrint ei gysoni a bod yr addysgwr wedi addasu gwrthrychau wedi’u datgloi yn y cwrs cysylltiedig, ni chaiff gwrthrychau wedi’u datgloi eu diystyru gan y newidiadau sydd wedi’u cysoni.

Mae modd cloi gwrthrychau glasbrint wedi’u datgloi unrhyw bryd. Os ydych chi’n cloi gwrthrych sydd heb ei gyhoeddi, a bod y gwrthrych hwnnw eisoes wedi’i dynnu oddi ar gwrs cysylltiedig, bydd y gwrthrych yn cael ei ddiystyru yn y cwrs cysylltiedig.

Rheoli Gwrthrychau

Mae'r erthygl hwn yn dangos sut mae cloi gwrthrych o’r dudalen Aseiniadau. Mae modd rheoli gwrthrychau yn y Ffeiliau, Modiwlau, Tudalennau a Chwisiau hefyd.

Yn Modiwlau, dim ond eitemau modiwl unigol y bydd modd eu cloi. Caiff newidiadau i strwythur y modiwlau eu sbarduno fel rhan o broses cysoni cwrs.

Nodiadau:

  • Ni allwch chi gloi a datgloi gwrthrychau oni bai eu bod wedi’u creu yn y cwrs glasbrint. Ni fydd unrhyw wrthrychau newydd sydd wedi’u hychwanegu at gwrs cysylltiedig gan addysgwr yn cynnwys eicon glasbrint ac ni fyddant yn gysylltiedig â'r cwrs glasbrint.  
  • Dim ond os bydd Cwisiau Newydd wedi'i alluogi ar gyfer eich sefydliad y gallwch chi gloi a datgloi cwisiau newydd.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

I gynnwys cyrsiau glasbrint yn unig yn eich canlyniadau chwilio, cliciwch yr opsiwn Dangos cyrsiau glasbrint yn unig (Show only blueprint courses).

Agor Gosodiadau Cwrs

Yn y ddewislen cyrsiau, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) cwrs.

Agor Aseiniadau

Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).

Nodyn: Mae modd rheoli gwrthrychau ar y tudalennau Ffeiliau, Modiwlau, Tudalennau a Chwisiau hefyd.

Gweld Statws Eicon

Gweld Statws Eicon

Gallwch weld statws pob gwrthrych ar unrhyw dudalen Mynegai. Mae sgwariau gwyn yn dangos bod y gwrthrych wedi’i ddatgloi [1]. Mae sgwariau glas gydag eicon ar glo yn dangos bod y gwrthrych wedi’i gloi [2].

Caiff gwrthrychau eu datgloi yn ddiofyn. Gallwch newid statws gwrthrych drwy doglo’r eiconau cloi a datgloi.

Cloi Gwrthrych

Cloi Gwrthrych

I gloi gwrthrych, cliciwch eicon datgloi y gwrthrych. Bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am gloi'r gwrthrych.

Datgloi Gwrthrych

Datgloi Gwrthrych

I ddatgloi gwrthrych, cliciwch eicon cloi y gwrthrych. Bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am ddatgloi'r gwrthrych.

Gweld Statws mewn Gwrthrych Unigol

Ac eithrio mewn ffeiliau, gellir addasu statws glasbrint mewn gwrthrychau unigol.

Gall ffeiliau gael eu cloi neu eu datgloi ar y Dudalen Mynegai Ffeiliau yn unig.

Cloi Gwrthrych

Cloi Gwrthrych

I gloi gwrthrych wedi’i ddatgloi, cliciwch y botwm Glasbrint (Blueprint). Bydd y botwm yn newid o lwyd i las ac yn dangos fod y gwrthrych wedi’i gloi.

Datgloi Gwrthrych

Datgloi Gwrthrych

Mae gwrthrychau unigol yn dangos y priodoleddau sydd wedi’u cloi.

I ddatgloi gwrthrych wedi’i gloi, cliciwch y botwm Wedi’i Gloi (Locked). Bydd y botwm yn newid o las i lwyd ac yn dangos fod y gwrthrych wedi’i ddatgloi. Bydd y faner priodoleddau wedi’u cloi hefyd yn cael ei thynnu oddi ar y dudalen.

Gweld Mynediad Addysgwr

Gweld Aseiniad wedi’i Gloi

Gall addysgwyr weld eiconau wedi’u cloi ac wedi’u datgloi ar y dudalen Mynegai (Index). Fodd bynnag, ni allant reoli statws presennol gwrthrych.

Ar gyfer gwrthrychau sydd wedi’u cloi, mae’r dudalen unigol yn dangos y priodoleddau wedi’u cloi sydd wedi’u dewis yng Ngosodiadau’r Cwrs (Course Settings), os o gwbl. Ni all addysgwyr addasu gwrthrychau wedi’u cloi, felly ni all unrhyw briodoleddau sydd wedi’u cloi gael eu golygu.

Gweld Tudalen Olygu ar gyfer Aseiniad