Sut ydw i’n dileu cwrs at gyfrif fel gweinyddwr?

Ar ôl i chi ddileu cwrs, bydd y cwrs yn cael ei dynnu’n gyfan gwbl o gyfrif eich sefydliad ac ni fydd modd i chi, myfyrwyr blaenorol, na gweinyddwr y cyfrif ei weld. Nid ydym yn argymell dileu cyrsiau (hyd yn oed rhai sydd wedi dirwyn i ben), yn enwedig os yw’r cwrs yn cynnwys data myfyrwyr a chynnwys, oherwydd efallai y bydd angen yr wybodaeth arnoch chi rywbryd eto.

Os ydych chi eisiau tynnu’r cwrs o Gyrsiau a Grwpiau ym Mar Crwydro'r Safle Cyfan, gallwch chi newid dyddiad gorffen cyfranogiad y cwrs, neu ddirwyn y cwrs i ben.

Nodiadau:

  • Cyn i chi ddileu cwrs, gwnewch yn siŵr fod gennych chi gofnod o’ch rhif ID Cwrs rhag ofn y bydd angen i chi ei adfer. Gallwch chi ddod o hyd i’ch rhif ID Cwrs ar ddiwedd eich URL cwrs (e.e. canvas.instructure.com/courses/XXXXXX).
  • Dydy cyrsiau ddim yn cael eu dileu o gyfrif oni bai eich bod chi neu ddefnyddiwr arall yn eich sefydliad yn gwneud hynny.
  • Does dim modd dileu cyrsiau sydd wedi’u gosod fel templedi. Fodd bynnag, mae modd i ddefnyddwyr sydd â hawl i ddileu templed cwrs ddad-ddewis y blwch ticio Templed Cwrs a’i dynnu fel templed cwrs.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).

Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.

Canfod Cwrs

Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen cyrsiau, cliciwch yr eicon Gosodiadau (Settings) cwrs.

Dileu Cwrs yn Barhaol

Dileu Cwrs yn Barhaol

Cliciwch y ddolen Dileu’r Cwrs hwn (Delete this Course).

Cadarnhau’r broses Dileu

Cadarnhau’r broses Dileu

Cliciwch y botwm Dileu Cwrs (Delete Course).