Sut ydw i’n gweld KB cwsmer yn y Consol Gweinyddu Maes?

Fel gweinyddwr maes, gallwch weld a golygu cronfa wybodaeth (KB) eich cwsmeriaid yn y Consol Gweinyddu Maes. Mae KBs cwsmeriaid yn caniatáu i chi rannu manylion sy’n benodol i’r sefydliad, sy’n helpu asiantau i gefnogi defnyddwyr ag achosion cymorth.

Nodyn: Gall nodweddion Consol Gweinyddu Maes amrywio yn ôl gosodiadau defnyddiwr a chyfrif. Ar sail yr hyn a ganiateir ar gyfer eich rôl, efallai na fyddwch yn gallu gweld na defnyddio’r nodweddion a ddisgrifir yn y wers hon.

Agor KBs Cwsmeriaid

Ar dudalen hafan y Consol Gweinyddu Maes, cliciwch y tab KB Cwsmer (Customer KB).

Agor KB Cyfrif

Cliciwch enw’r cyfrif sy’n cynnwys y KBs rydych chi’n dymuno eu gweld [1].

I hidlo’r cyfrifon sy’n cael eu dangos ar y dudalen, cliciwch yr eicon Hidlo [2].

Gweld Cofnodion KB

I weld manylion am gofnod, cliciwch enw’r cofnod.

Gweld Manylion Cofnod

Mae pob cofnod KB yn cynnwys y manylion canlynol:

  • Enw Cofnod [1]
  • Rolau yr effeithir arnynt [2]
  • Ymdrin ag achos yn ddiofyn [3]: sy’n darparu manylion, testun a geiriau allweddol ychwanegol y gall asiantiaid cymorth eu defnyddio wrth ymdrin ag achos sy’n ymwneud â’r cofnod
  • Diweddaru cais [4]: sy’n cynnwys unrhyw fanylion y dylid eu hychwanegu at gofnod. Pan fydd y diweddariadau hyn wedi cael sylw, cliciwch y blwch ticio Manylion wedi’u Diweddaru (Details Updated) [5].
  • Defnyddiwr a greodd y cofnod [6]
  • Defnyddiwr a addasodd y cofnod ddiwethaf [7]

Golygu Cofnod

I olygu maes, cliciwch yr eicon Golygu [1].

I olygu cofnod KB cyfan, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [2]. I ddileu cofnod KB, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [3]. I glonio cofnod KB, cliciwch y botwm Clonio (Clone) [4].

Gweld Manylion KB

I weld y manylion ar gyfer KB eich cwsmer, cliciwch y tab Manylion [1]. Mae manylion yn cynnwys rhybuddion [2], gwybodaeth gyswllt [3], prif gyfarwyddebau [4], terminoleg cyfrif [5], llwybr achos [6], a gwybodaeth am y cyfrif [7].

I olygu manylion y KB, cliciwch yr eicon Golygu [8].