Sut ydw i’n gweld y cyfnodau graddio mewn cyfrif?

Fel gweinyddwr, gallwch reoli cyfnodau graddio ar gyfer eich sefydliad. Mae pob set o gyfnodau graddio yn berthnasol i’r sefydliad cyfan, gan gynnwys isgyfrifon. Mae pob cwrs sy’n gysylltiedig â thymor mewn cyfnod graddio yn etifeddu cyfnodau graddio’r tymor yn awtomatig.

Gan nad yw cyfnodau graddio yn cael effaith uniongyrchol ar unrhyw aseiniadau ar gyfer cwrs, mae modd dileu cyfnodau graddio neu newid eu dyddiadau dechrau a gorffen. Ond, yn gyffredinol, dylai newidiadau gael eu gwneud cyn i’r tymor ddechrau. Os bydd dyddiadau cyfnod graddio yn cael eu newid yn ystod tymor, bydd hynny’n effeithio ar gyfanswm graddau.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor yr adran Graddio

Agor yr adran Graddio

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Graddio (Grading).

Agor Cyfnodau Graddio

Agor Cyfnodau Graddio

Cliciwch y tab Cyfnodau Graddio (Grading Periods).

Hidlo Setiau o Gyfnodau Graddio

Mae modd hidlo cyfnodau graddio drwy edrych ar dymor yn y ddewislen Tymhorau (Terms) [1], neu drwy chwilio am enw tymor neu gyfnod graddio yn y maes chwilio [2].

Gweld Setiau o Gyfnodau Graddio

Bydd y tab Cyfnodau Graddio ar lefel cyfrif yn dangos pob set o gyfnodau graddio a’u cyfnodau graddio.

Mae pob set o gyfnodau graddio yn dangos enw’r set o gyfnodau graddio [1], a’r tymhorau cysylltiedig [2].

Rheoli Setiau o Gyfnodau Graddio

I olygu enw neu dymor ar gyfer set o gyfnodau graddio, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r set o gyfnodau graddio, cliciwch yr eicon Dileu [2].

Ychwanegu Set o Gyfnodau Graddio

I ychwanegu set newydd o gyfnodau graddio, cliciwch y botwm Ychwanegu Set o Gyfnodau Graddio (Add Set of Grading Periods).

Gweld Cyfnodau Graddio

I weld cyfnod graddio, dylech ehangu’r set o gyfnodau graddio drwy glicio’r saeth wrth ymyl enw’r set [1].

Mae pob cyfnod graddio yn dangos enw’r cyfnod graddio [2], y dyddiad dechrau [3], y dyddiad gorffen [4] a’r dyddiad mae’n dod i ben [5].

Os yw’ch cyfnodau graddio’n cael eu pwysoli, gallwch weld y ganran wedi’i phwysoli ar gyfer pob cyfnod graddio [6]. Gall cyfanswm y canrannau ar gyfer y set gyfan o gyfnodau graddio ddod i unrhyw rif – does dim rhaid i hynny adio i 100%.

Note: O dan y meysydd dyddiad, bydd Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn unol â’r cyd-destun. Os ydych chi’n rheoli cyfrif mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol chi, bydd amser y cyfrif a’r amser lleol yn ymddangos er gwybodaeth.

Rheoli Cyfnodau Graddio

I olygu dyddiadau ar gyfer cyfnod graddio, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu cyfnod graddio, cliciwch yr eicon Dileu [2].

I ychwanegu cyfnod graddio arall, cliciwch y ddolen Ychwanegu Cyfnod Graddio (Add Grading Period) [3].

Gweld Cyfnodau Graddio sydd wedi Dirwyn i Ben

Pan fydd cyfnod graddio wedi dirwyn i ben, ni ddylai’r setiau presennol o gyfnodau graddio fyth gael eu golygu na’u hailddefnyddio ar gyfer tymhorau yn y dyfodol. Dylai tymhorau yn y dyfodol gael eu hychwanegu at set newydd o gyfnodau graddio, gyda dyddiadau wedi’u diffinio’n benodol ar gyfer y tymor yn y dyfodol. Gan fod dyddiadau tymhorau yn para am flwyddyn gyfan fel arfer, dim ond unwaith y flwyddyn y dylai fod angen i chi greu setiau newydd o gyfnodau graddio.

Mae dal gafael ar dymhorau sydd wedi dirwyn i ben, a’u cyfnodau graddio cysylltiedig, yn sicrhau y bydd adroddiadau graddau yn gywir.