Sut ydw i’n galluogi Equella ar gyfer cyfrif?

Mae Equella yn ystorfa ddigidol sy’n darparu llwyfan ar gyfer addysgu a dysgu.

I integreiddio Equella gyda’ch cyfrif Canvas, bydd angen i chi wybod eich URL pwynt gorffen Equella.

Nodiadau:

  • Rhaid i chi fod â chyfrif Equella cyn y gallwch chi alluogi Equella yn Canvas.
  • Does dim modd i gyfrifon consortiwm plentyn reoli gosodiadau Equella.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Galluogi Equella

Galluogi Equella

Ar y dudalen gosodiadau cyfrif, o dan yr adran nodweddion, dewiswch y blwch ticio Equella.

Rhoi Gosodiadau Equella

Rhoi Gosodiadau Equella

Yn yr adran Gosodiadau Equella sy’n ymddangos, rhowch eich URL Pwynt Gorffen Equella.

Diweddaru Gosodiadau

Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).