Sut ydw i’n galluogi cwmpasu ar gyfer allwedd API datblygwr mewn cyfrif?

Fel rhan o greu allweddi API datblygwr newydd neu olygu allweddi API datblygwr cyfredol yn eich cyfrif, gallwch chi bersonoli’r mynediad mae’r allwedd API yn ei chael. Mae gorfodi cwmpasau yn gadael i chi reoli mynediad uniongyrchol a phwyntiau gorffen API penodol ar gyfer adnoddau trydydd parti sy’n gysylltiedig â’ch sefydliad.

Yn ddiofyn, mae gorfodi cwmpasau wedi’i analluogi wrth greu allwedd API datblygwr newydd, sy’n gadael i docynnau gael gafael ar bob pwynt gorffen sydd ar gael i’r defnyddiwr sy’n awdurdodi. Ond, mae modd golygu cwmpasau ar gyfer allwedd API datblygwr ar unrhyw adeg a diweddaru tocynnau mynediad ar gyfer y defnyddiwr sy’n awdurdodi mewn modd priodol.

Sylwch:

  • Mae Rheoli Allweddi Datblygwyr yn un o’r hawliau mewn cyfrif. Os nad oes modd i chi reoli allweddi datblygwyr, nid yw’r hawl hwn wedi cael ei alluogi ar gyfer eich rôl defnyddiwr.
  • Nid yw Allwedd Datblygwyr ar gael mewn is-gyfrifon.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Allweddi Datblygwyr

Agor Allweddi Datblygwyr

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Allwedd Datblygwyr (Developer Keys).

Ychwanegu Allwedd Datblygwr

Ychwanegu Allwedd Datblygwr

Cliciwch y botwm Ychwanegu Allwedd Datblygwr (Add Developer Key).

Ychwanegu Allwedd API

Ychwanegu Allwedd API

Cliciwch yr opsiwn Ychwanegu Allwedd API (Add LTI Key).

Gorfodi Cwmpasau

Gorfodi Cwmpasau

Ar ôl i chi gwblhau gwybodaeth yr allwedd datblygwr, cliciwch y botwm Gorfodi Cwmpasau (Enforce Scopes).

Caniatáu Cynnwys Paramedrau

Caniatáu Cynnwys Paramedrau

I ganiatáu defnyddio pob paramedr "cynnwys" ar gyfer yr allwedd hon, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Cynnwys Paramedrau (Allow Include Parameters).

Gall paramedrau "cynnwys" ganiatáu mynediad at ddata ychwanegol sydd ddim wedi'i gynnwys yn y tabl Pwyntiau Gorffen.

Chwilio am Bwyntiau Gorffen

Chwilio am Bwyntiau Gorffen

I chwilio am bwynt gorffen penodol, teipiwch enw’r pwynt gorffen yn y maes Chwilio am Bwyntiau Gorffen (Search Endpoints) [1].

I weld yr holl bwyntiau gorffen sydd ar gael, sgroliwch drwy’r tabl Pwyntiau Gorffen [2].

Dewis Pwyntiau Gorffen Darllen yn Unig

Dewis Pwyntiau Gorffen Darllen yn Unig

I roi mynediad darllen yn unig i’r allwedd datblygwr, dewiswch y blwch ticio Darllen yn unig (Read only). Bydd y tabl yn diweddaru’n awtomatig ac yn dewis pob cwmpas sy’n cynnwys pwyntiau gorffen darllen yn unig.

Dewis Pwyntiau Gorffen Unigol

Gallwch chi roi mynediad wedi’i bersonoli i’r allwedd API datblygwr. Cliciwch unrhyw enw cwmpas i weld pwyntiau gorffen sydd ar gael [1]. Dewiswch y pwyntiau gorffen rydych chi eu heisiau drwy glicio’r blwch ticio wrth enw’r pwynt gorffen [2]. Bydd y llinell enw cwmpas yn diweddaru i ddangos crynodeb o’r holl fynediad pwynt gorffen sydd wedi’i ddewis.

Cadw Allwedd

Cadw Allwedd

Cliciwch y botwm Cadw (Save).