Sut ydw i’n defnyddio Digwyddiadau Byw gyda’r Porth Gwasanaethau Data?

Os ydych chi wedi gosod Gwasanaethau Data Canvas yn eich cyfrif, gallwch chi ychwanegu a rheoli ffrydiau data yn eich cyfrif.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddata Canvas, edrychwch ar eiriadur Data Canvas.

Nodiadau:

  • Mae gweld Gwasanaethau Data yn hawl cyfrif. Os na allwch chi weld y ddolen Gwasanaethau Data yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, yna dydy’r hawl hon ddim wedi’i galluogi ar gyfer eich cyfrif defnyddiwr.
  • Rhaid i gyfrifon fod ag URL gwasanaeth ffrydio data y mae modd delio ag ef i dderbyn ffrydiau data.
  • Mae ffrydiau Data Canvas yn gallu cynnwys gwybodaeth bersonol ar gyfer defnyddwyr Canvas. Dim ond i wasanaethau a chyrchfannau dibynadwy y dylech chi ffrydio data.
  • Nid yw Data Canvas yn dangos gwybodaeth cyfrif plentyn mewn cyfrif rhiant.
  • Mae data digwyddiadau byw yn cael ei brosesu yn yr un rhanbarth a’r fersiwn Canvas y maen nhw’n cael eu hallyrru ohono. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu derbyn digwyddiadau o unrhyw gyfeiriadau IP. Os bydd Canvas yn dod ar draws gwallau mewn tanysgrifiadau defnyddiwr, efallai y bydd tanysgrifiadau digwyddiad byw yn cael eu hanalluogi.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gwasanaethau Data

Agor Gwasanaethau Data

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gwasanaethau Data (Data Services).

Gweld Gwasanaethau Data

Bwrdd Gwaith

Yn ddiofyn, mae Gwasanaethau Data yn agor i'r dudalen Gosodiadau (Settings) [1]. Yn y Gosodiadau Gwasanaethau Data, gallwch chi weld a rheoli rhestr o holl opsiynau ffrydio data eich cyfrif.

I weld dogfennau gwasanaethau data, cliciwch ddewislen y tab Dogfennau (Documentation) [2].

Gweld Opsiynau Ffrydio Data

Gweld eich ffrydiau data cyfredol. Mae’r tabl Opsiynau Ffrydio Data yn dangos enw [1] a statws [2] eich ffrydiau. Mae ffrydiau anweithredol yn dangos y label statws Anweithredol (Inactive) [3]. Nid yw ffrydiau gweithredol yn dangos label.

Ychwanegu Ffrwd Data

I ychwanegu ffrwd data, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) [1].

Rheoli Opsiynau Ffrwd Data

I weld opsiynau ar gyfer ffrwd data, cliciwch eicon Opsiynau y ffrwd [1]. I olygu’r ffrwd, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. I ddyblygu’r ffrwd, cliciwch y ddolen Dyblygu (Duplicate) [3]. I analluogi’r ffrwd, cliciwch y ddolen Analluogi (Deactivate) [4].

Nodyn: Dim ond am 90 diwrnod mae tanysgrifiadau anweithredol yn cael eu dangos.

Analluogi Ffrwd Data

I analluogi ffrwd sydd wedi’i hanalluogi, cliciwch y ddolen Ail-alluogi (Reactivate).