Sut ydw i’n newid y dewis iaith mewn cyfrif?
Gallwch newid y dewis iaith ar gyfer eich cyfrif cyfan. Mae Canvas yn delio ag amrywiaeth o ieithoedd. Bydd y newid hwn yn diystyru unrhyw osodiadau iaith porwr/OS.
Nodyn: Gall defnyddwyr ddewis iaith yn eu gosodiadau defnyddiwr, a fydd yn diystyru dewis iaith diofyn y cyfrif.
Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Dewis Iaith

Yn y tab Gosodiadau, cliciwch y gwymplen Iaith Ddiofyn (Default Language). Dewiswch yr iaith ddiofyn newydd.
Diweddaru Gosodiadau

Cliciwch y botwm Diweddaru Gosodiadau (Update Settings).