Sut ydw i’n creu cyhoeddiad cyffredinol mewn cyfrif?

Mae cyhoeddiadau cyffredinol yn gadael i chi gysylltu â phob defnyddiwr, neu ddefnyddiwr penodol, o fewn cyfrif neu isgyfrif gan ddefnyddio un neges. Er enghraifft, os oes cyfnod o ddiweddaru’r cyfrif neu os na fydd ar gael am gyfnod, mae’n bosib y byddwch chi am adael i’r defnyddwyr wybod o flaen llaw fel eu bod nhw’n gallu trefnu’n unol â hynny.

Mae cyhoeddiadau cyffredinol i’w gweld o bob cyfrif sy’n gysylltiedig â defnyddiwr, ac maen nhw i’w gweld yn Nangosfwrdd y defnyddiwr. Os byddwch chi'n dewis yr opsiwn i anfon hysbysiad, bydd defnyddwyr sydd wedi galluogi'r dewis hysbysiadau ar gyfer Cyhoeddiadau Cyffredinol yn gallu derbyn rhybuddion am gyhoeddiadau byd-eang trwy'r math hysbysu a ffefrir ganddynt. Dydy cyhoeddiadau a hysbysiadau cyffredinol ddim ond yn cael eu hanfod at ddefnyddwyr sydd â mwy nag un ymrestriad gweithredol yn y tymor presennol.

Os oes gan ddefnyddiwr gyfrif gyda mwy nag un sefydliad, bydd y defnyddiwr yn gallu gweld mwy nag un cyhoeddiad. Er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng cyhoeddiadau ar lefel y cyfrif a’r isgyfrif, mae’r cyhoeddiad hefyd yn nodi pa gyfrif neu isgyfrif anfonodd y cyhoeddiad cyffredinol.

Gallwch greu pum math gwahanol o gyhoeddiad: rhybudd, gwall, gwybodaeth, cwestiwn, neu galendr. Pan fydd cyhoeddiad cyffredinol newydd yn cael ei greu, bydd yr wybodaeth yn ymddangos fel y math o gyhoeddiad diofyn. I ddysgu mwy am y mathau o gyhoeddiadau a sut maen nhw’n ymddangos i ddefnyddwyr, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Mathau o Gyhoeddiad Cyffredinol.

Mae modd i gyhoeddiadau cyffredinol ymddangos yn ystod cyfnod penodol. Ar ôl i gyhoeddiad gyrraedd ei ddyddiad cychwyn, bydd y cyhoeddiad i’w weld yn syth yn nangosfwrdd pob defnyddiwr a bydd modd i’r defnyddiwr ei ddiystyru.

Os oes angen, gallwch hefyd olygu’r testun mewn cyhoeddiad cyffredinol, er enghraifft i newid camgymeriadau sillafu. Mae modd golygu’r dyddiadau dechrau a gorffen hefyd tan ddyddiadau dechrau a gorffen go iawn y cyhoeddiad.

Nodiadau:

  • Pan na fydd defnyddwyr wedi ymrestru ar unrhyw gyrsiau, mae modd iddyn nhw weld cyhoeddiadau o’r cyfrif gwraidd. Dim ond ar ôl cael eu hychwanegu at gwrs o fewn isgyfrif y mae modd gweld cyhoeddiadau isgyfrifon. Does dim rhaid cyhoeddi cyrsiau i ddefnyddwyr weld cyhoeddiadau isgyfrif.
  • Mae prif liw’r Golygydd Thema yn gysylltiedig â hysbysiadau calendr, gwybodaeth, a chwestiynau. Ond, does dim modd newid lliwiau rhybuddion a gwallau.
  • Ni fydd unrhyw newidiadau i Gyhoeddiad Cyffredinol ar ôl ei ddyddiad cychwyn yn golygu bod y neges yn ailymddangos i ddefnyddwyr sydd wedi ei diystyru’n barod. Dylai unrhyw newidiadau sylweddol i gyhoeddiad cyffredinol gael eu creu fel Cyhoeddiad Cyffredinol newydd fel ei fod yn ailymddangos i bob defnyddiwr.
  • Dydy cyhoeddiadau cyffredinol ddim yn cael eu dangos i ddefnyddwyr sydd ag ymrestriadau anweithredol neu ymrestriadau sydd wedi'u dirwyn i ben gan y defnyddiwr.
  • Mae cyhoeddiadau cyffredinol yn ymddangos mewn trefn gronolegol, gyda’r cyhoeddiadau mwyaf newydd yn ymddangos ar frig y dudalen.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yng Ngosodiadau'r Cyfrif, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Nodyn: I wneud cyhoeddiad mewn isgyfrif, cliciwch y ddolen Isgyfrifon (Sub-Accounts), a dewis isgyfrif, yna cliciwch ddolen Gosodiadau (Settings) yr isgyfrif.

Agor Tab Cyhoeddiadau

Cliciwch y tab Cyhoeddiadau (Announcements).

Ychwanegu Cyhoeddiad Newydd

Ychwanegu Cyhoeddiad Newydd

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyhoeddiad Newydd (Add New Announcement).

Ychwanegu Manylion Cyhoeddiad

Yn y maes Teitl (Title) [1], rhowch deitl y cyhoeddiad.

Yn y maes Math o gyhoeddiad (Announcement type) [2], gosodwch y math o gyhoeddiad (rhybudd, gwall, gwybodaeth, cwestiwn, neu galendr).

Yn y maes Neges (Message) [3], gallwch greu’r cyhoeddiad gan ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.

Yn yr adran Dangos i (Show to) [4], dewiswch rolau’r defnyddwyr a ddylai weld y cyhoeddiad. Gallwch ddewis rolau cwrs a chyfrif. Bydd dewis rôl yn anfon hysbysiad ar bob defnyddiwr sydd a'r rôl honno ar unrhyw gwrs. Os nad oes unrhyw rolau wedi’u dewis, bydd y cyhoeddiad i’w weld gan bawb sydd â chwrs yn y cyfrif neu isgyfrif tarddu.

Nodyn: Os yw eich sefydliad yn gysylltiedig â chyfrif ymddiriedaeth, gallwch ddewis dim ond dangos y cyhoeddiad i ddefnyddwyr yn y parth presennol.

Dewis Dyddiadau Dechrau a Gorffen

Dewis Dyddiadau Dechrau a Gorffen

Dewiswch ddyddiadau dechrau a gorffen ar gyfer y cyhoeddiad drwy deipio yn y meysydd neu ddewis yr eiconau Calendr (Calendar) (gofynnol).

Anfon Hysbysiad am Gyhoeddiad

Anfon Hysbysiad am Gyhoeddiad

I anfon hysbysiad yn syth at ddefnyddwyr pan mae'r cyhoeddiad yn dechrau, cliciwch y blwch ticio Anfon hysbysiad yn syth at ddefnyddwyr pan mae cyhoeddiad yn dechrau (Send notification directly to users when announcement starts). Bydd defnyddwyr sydd wedi galluogi'r dewis hysbysiadau ar gyfer Cyhoeddiadau Cyffredinol yn derbyn hysbysiad pan fydd y cyhoeddiad yn dechrau.

Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Cyhoeddi Cyhoeddiad (Publish Announcement).

Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol

Gweld y cyhoeddiad cyffredinol. Mae’r cyhoeddiad yn cynnwys enw eich cyfrif neu isgyfrif.

Rheoli Cyhoeddiad

Rheoli Cyhoeddiad

I olygu eich cyhoeddiad cyffredinol, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu eich cyhoeddiad cyffredinol, cliciwch yr eicon Dileu [2].