Sut ydw i’n rheoli achos unigol yn y Consol Gweinyddu Maes?
Ar ôl i chi agor achos o’r Dudalen achosion, gallwch chi reoli manylion achos unigol.
Nodyn: Gall nodweddion Consol Gweinyddu Maes amrywio yn ôl gosodiadau defnyddiwr a chyfrif. Ar sail yr hyn a ganiateir ar gyfer eich rôl, efallai na fyddwch yn gallu gweld na defnyddio’r nodweddion a ddisgrifir yn y wers hon.
Agor Achos
I weld pob achos, cliciwch y tab Achosion (Cases) [1].
I hidlo achosion yn ôl cynyrch Instructure, statws, achosioon wedi’u creu heddiw, achosion wedi’u neilltuo i chi, achosion a welwyd yn ddiweddar, neu achosion wedi’u blaenoriaethu, cliciwch y ddewislen Hidlo (Filter) [2].
I chwilio am achos, rhowch fanylion neu rif yr achos yn y maes Chwilio (Search) [3].
Yna cliciwch y ddolen rhif achos ar gyfer yr achos rydych chi eisiau ei weld [4].
Gweld Achos
Mae pob achos yn dangos gwybodaeth bwysig ar yr olwg gyntaf [1], gan gynnwys rhif achos, enw’r perchennog, dyddiad/amser agor, lefel uwchgyfeirio uchaf, ac enw cyswllt.
Gallwch chi hefyd weld y statws TIR yn y maes TIR wedi’i fodloni (TIR Met) [2]. Os cafodd y TIR ei fodloni, bydd y maes yn dangos eicon fflag Werdd. Os cafodd y TIR ei fethu, bydd y maes yn dangos eicon fflag Goch.
Cliciwch y botwm Dilyn (Follow) [3] i ddilyn achos. I olygu manylion achos, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [4].
Gweld Manylion Achos
Mae’r meysydd Manylion Achos yn gadael i chi weld a golygu gwybodaeth am yr achos, gan gynnwys:
- y defnyddiwr y bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo iddo [1]
- statws achos [2]
- enw’r person a gyflwynodd yr achos [3]
- cyfeiriad E-bost y person a gyflwynodd yr achos [4]
- pwnc achos [5]
- disgrifiad o'r achos [6]
- URL Canvas lle cafodd yr achos ei gyflwyno [7]
- cydrannau Canvas [8]
Gweld Tab Sgwrsio
I weld sylwadau a ffrwd gweithgarwch yr achos, cliciwch y tab Sgwrsio (Chatter) [1].
I ychwanegu sylw at yr achos, rhowch y sylw yn y maes Rhannu diweddariad (Share an update) [2] a chlicio'r botwm Rhannu (Share) [3]. Mae sylwadau sy’n cael eu rhoi trwy’r opsiwn Postio yn anfon e-bost at y cyfeiriad sydd wedi’i restru yn y maes e-bost Gwe ar gyfer yr achos.
I atodi sylw at eitem ffrwd, cliciwch y ddolen Sylw (Comment) ar gyfer yr eitem [4]. I hoffi eitem ffrwd, cliciwch y ddolen Hoffi (Tynnu) [5].
Newid Statws Achos
I newid statws yr achos, cliciwch yr eicon Newid Statws (Change Status) [1]. Yna, dewiswch y statws newydd o’r gwymplen Statws (Status) [2]. I gadw'r statws, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Nodyn: Wrth anfon neges i Canvas Support, newidiwch statws yr achos i Agored. Fel arall, efallai na fydd y tîm cymorth yn cael eich diweddariad.
Trosglwyddo Achos
I drosglwyddo’r achos, cliciwch y tab Trosglwyddo (Transfer) [1]. Yna cliciwch y maes chwilio i ddod o hyd i’r gweinyddwr maes a fydd yn cael yr achos [2].
I gadw, cliciwch y botwm Cadw (Save) [3].
Gweld Tab Manylion
Cliciwch y tab Manylion (Details) [1] i weld manylion achos. O’r tab Manylion, gallwch chi weld a golygu gwybodaeth am achos.
I olygu maes yn y tab Manylion Achos, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [2].
Mae’r maes Rhif Achos (Case Number) yn dangos rhif yr achos [3]. Mae’r maes Pwnc (Subject) yn dangos beth wnaeth y defnyddiwr ei deipio yn y llinell pwnc [4]. Mae’r maes Disgrifiad (Description) yn dangos beth wnaeth y defnyddiwr ei deipio yn ar achos [5].
Mae’r maes Perchennog Achos (Case Owner) yn dangos y defnyddiwr sydd wedi’i neilltuo i’r achos ar hyn o bryd [6]. I newid perchennog yr achos, cliciwch yr eicon Perchennog yr Achos (Case Owner) [7].
Gweld Manylion Canvas
Mae’r adran Manylion Canvas (Canvas Details) yn dangos gwybodaeth am yr achos sy’n benodol i Canvas [1]:
- Statws [2]: yn dangos statws yr achos. Mae statws yn gallu cael ei bennu fel agored, newydd, i ddod, yn aros, wedi’i ddatrys, neu wedi’i gau oherwydd dyblygu.
- URL Dod yn Ddefnyddiwr [3]: sy’n dangos y dudalen lle gwnaeth y defnyddiwr gyflwyno'r tocyn. Mae’r URL hwn hefyd yn gadael i chi weld beth mae’r defnyddiwr yn ei weld yn Canvas.
- URL Canvas [4]: sy’n dangos y fersiwn Canvas y cafodd yr achos ei gyflwyno ohono.
- Enw Cyswllt [5]: sy’n dangos enw’r unigolyn sy’n hwyluso cyfathrebu gyda’r ceisydd.
- Adran Cydrannau Canvas (Canvas Component Section) [6]: sy’n disgrifio a yw achos yn berthnasol i gyfrif cyfan, i gwrs penodol, i ddefnyddiwr Canvas, LTI neu integreiddiad neu fater nad yw’n ymwneud â Canvas.
- Cydran Canvas yr Effeithir Arni (Canvas Component Affected) [7]: sy’n disgrifio o ble daw’r nam neu’r broblem yn y nodwedd yn Canvas.
- Cam Gweithredu Cydran Canvas (Canvas Component Action) [8]: sy’n disgrifio’r cam gweithredu a arweiniodd at greu'r achos.
- Problem Cydran Canvas (Canvas Component Issue) [9]: sy’n disgrifio pwrpas creu'r achos.
- Yn Ymwneud ag Anabledd/Hygyrchedd [10]: sy’n neilltuo a yw’r achos yn ymwneud â phryderon anabledd neu hygyrchedd.
I ddysgu rhagor am yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer meysydd Cydrannau Canvas, trowch at y ddogfen adnoddau Cydrannau Canvas.
Ychwanegu Copïau E-bost
Mae’r maes Ychwanegu CC (Add CC) yn cynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost a fydd yn cael hysbysiadau ynglŷn â diweddariadau i achos.
Gweld Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r adran Gwybodaeth Ychwanegol (Additional Information) yn dangos gwybodaeth ychwanegol sy’n ymwneud â'r achos [1]:
- Tarddiad Achos [2]: sy’n dangos tarddiad yr achos, fel e-bost, ffôn, neu gyflwyniad ar-lein.
- Blaenoriaeth [3]: sy’n disgrifio ym mha drefn y dylid delio ag achosion.
- Trosglwyddo [4]: sy’n gadael i ddefnyddwyr drosglwyddo achos i weinyddwr maes arall.
- Enw’r Cyfrif [5]: sy’n dangos enw’r cyfrif
- E-bost Gwe [6]: sy’n dangos cyfeiriad e-bost y ceisydd
- Enw’r Ceisydd [7]: sy’n dangos enw’r defnyddiwr a wnaeth greu’r achos.
- ID Defnyddiwr [8]: sy’n dangos ID defnyddiwr y ceisydd.
- Rôl Ceisydd [9]: sy’n dangos rolau’r ceisydd. I ychwanegu neu dynnu rôl, cliciwch deitl y rôl a chlicio’r bysellau Saeth [10].
I analluogi’r hysbysiadau ar yr achos, cliciwch yr opsiwn Analluogi Hybysiadau (Disable Notifications) [11].
Ychwanegu Sylw
I ychwanegu sylw at yr achos, rhowch y sylw yn y maes Sylw Cyhoeddus (Public Comment) [4].
Mae’r maes Enw’r Perchennog (Owner Name) yn dangos enw perchennog yr achos.
Gweld Gwybodaeth We
Mae’r maes Amgylchedd HTTP (HTTP Environment) yn nodi system weithredu, fersiwn porwr, a chyfeiriad IP y defnyddiwr [1]. I ddehongli’r llinyn hwn, ewch i wefan llinyn asiant y defnyddiwr a gludo’r testun yn y ffenestr i'w ddadansoddi.
Mae’r maes Stacktrace yn cynnwys y neges gwall peiriannu [2]. Bydd y maes hwn yn cael ei lenwi os cafodd y tocyn ei gyflwyno o adroddiad Gwall Tudalen. Fel arfer, dim ond y peiriannydd a ysgrifennodd y cod all ddehongli’r neges ond efallai y bydd yn cynnwys peth gwybodaeth a fydd yn eich rhoi ar y trywydd iawn tuag at ddatrysiad.
Gweld Tab Ffeiliau
Cliciwch y tab Ffeiliau (Files) [1] i weld ffeiliau [1].
Mae pob ffeil wedi’i hatodi yn dangos y teitl [2], math [3], dyddiad yr addasiad diwethaf [4], a’r defnyddiwr a wnaeth atodi’r ffeil [5].
I weld rhagolwg o’r ffeil, cliciwch deitl y ffeil [6]. I atodi ffeil newydd, cliciwch y botwm Llwytho ffeiliau i fyny (Upload Files) [7].
Gweld Tab Macro
I osod macro i’r achos, cliciwch y tab Macro [1]. Gallwch chi osod gwrthrych macro clasurol neu wrthrych newydd.
I osod macro newydd, cliciwch y gwymplen Dewis Macro (Select Macro) yn y ddewislen Gosod Golau Macro Personol [2]. Yna cliciwch y botwm Nesaf (Next) [3].
I osod macro clasurol, cliciwch y gwymplen Macro [4] a chlicio’r botwm Gosod (Apply) [5].
Nodyn: Cafodd hen facros eu hanghymeradwyo ar 1 Mehefin 2021.
Gweld Tab Uwchgyfeirio
I uwchgyfeirio’r achos i Canvas Support, cliciwch y tab Uwchgyfeirio (Escalate) [1] a chlicio’r botwm Uwchgyfeirio (Escalate) [2].
Gweld Tab Uwchgyfeirio SIS
I uwchgyfeirio’r achos i’r tîm cymorth SIS, cliciwch y tab Uwchgyfeirio SIS (SIS Escalation) [1] a chyflwyno’r Ffurflen Achos SIS [2].
Gweld Tab Recordiad/Trawsgrifiad
I weld recordiadau ffôn neu drawsgrifiadau sgwrs o’r achos cliciwch y tab Recordiad/Trawsgrifiad (Recording/Transcript) tab [1].
I weld trawsgrifiad llawn o sgwrs, cliciwch y ddolen dyddiad trawsgrifiad sgwrs [2].
I wrando ar recordiad o alwad, cliciwch y ddolen dyddiad recordiad o alwad [3] a chlicio’r botwm Agor Recordiad o Alwad (Open Call Recording) [4].