Sut ydw i’n ychwanegu adran at gwrs fel gweinyddwr?
Gallwch ychwanegu adran at eich cwrs drwy olygu Gosodiadau eich cwrs yn Canvas. Mae adrannau yn helpu i rannu myfyrwyr yn is-grwpiau mewn cyrsiau ac yn cynnig opsiynau penodol i adran, fel dyddiadau cyflwyno gwahanol ar gyfer aseiniadau, trafodaethau a chwisiau. Mae adrannau hefyd yn ymddangos ar gyfer pob myfyriwr yn nhudalen pobl y cwrs ac yn y Llyfr Graddau.
Hefyd, mae modd creu adrannau ar gyfer myfyrwyr sydd angen mwy o amser mewn cwrs, er enghraifft, os oes gan fyfyriwr radd anghyflawn.
Nodyn: Mae modd ychwanegu adrannau drwy system gwybodaeth myfyrwyr (SIS) eich sefydliad. Efallai bod rhai adrannau o gyrsiau eisoes wedi cael eu creu ar eich cyfer.
Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].
Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses).
Nodyn: Pan fyddwch chi’n agor cyfrif, bydd y cyfrif yn mynd i’r dudalen Cyrsiau yn ddiofyn.
Canfod Cwrs

Defnyddiwch yr opsiynau hidlo a chwilio i ddod o hyd i'r cwrs yn y cyfrif.
Agor Adrannau

Cliciwch y tab Adrannau (Sections).
Ychwanegu Adran

Yn y maes adran (section) [1], rhowch enw'r adran newydd. Cliciwch y botwm Ychwanegu Adran (Add Section) [2].
Ychwanegu ID SIS

Os oes angen i chi ychwanegu neu olygu ID SIS, cliciwch enw’r adran.

Cliciwch y botwm Golygu Adran (Edit Section).

Yn y maes ID SIS [1], rhowch neu olygu’r ID SIS. Cliciwch y botwm Diweddaru Adran (Update Section) [2].
Gweld Adran

Gallwch weld yr adran yn eich cwrs.
Hefyd, gallwch ddewis newid dyddiadau dechrau a gorffen adran os oes angen.
Gallwch ychwanegu adrannau ychwanegol os oes angen. Mae mwy nag un adran cael eu trefnu yn ôl yr wyddor.
Nodyn: Mae adrannau gydag ID SIS hefyd yn dangos IS SIS yr adran yn y dudalen Adrannau Cwrs.