Sut ydw i’n ychwanegu rôl defnyddiwr newydd yn Canvas?

Mae modd creu rolau lefel cyfrif yn Canvas.

Caiff rolau cyfrif eu rhoi i bob gweinyddwr Canvas ac maent yn diffinio’r math o fynediad sydd gan bob gweinyddwr yn y cyfrif. Mae modd creu rolau personol ar lefel cyfrif, gan ddibynnu ar anghenion eich sefydliad.

Ar ôl creu rôl, mae modd ychwanegu defnyddwyr gweinyddol a rheoli hawliau lefel cyfrif.

Nodyn: Pan fyddwch chi’n newid hawl, gall gymryd 30 munud neu fwy i’r hawl hwnnw ddod i rym. Os nad yw’r newidiadau disgwyliedig yn ymddangos yn sych, rhowch gynnig arall arni mewn peth amser.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Hawliau

Agor Hawliau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Hawliau (Permissions).

Agor Rolau Cyfrif

Agor Rolau Cyfrif

Cliciwch y tab Rolau Cyfrif (Account Roles).

Ychwanegu Rôl

Ychwanegu Rôl

Cliciwch y botwm Ychwanegu Rôl (Add Role).

Ychwanegu Enw Rôl

Ychwanegu Enw Rôl

Yn y maes Enw Rôl (Role Name), rhowch enw'r rôl newydd.

Cadw Rôl

Cadw Rôl

Cliciwch y botwm Cadw (Save).

Gweld Rôl Cyfrif

Gweld y rôl lefel cyfrif newydd.