Beth yw Gwasanaethau Data Canvas sy’n defnyddio Canvas Data 1?

Bydd Canvas Data 1 yn cael ei anghymeradwyo ar 31 Rhagfyr 2023.  Ni fydd canllawiau Canvas Data 1 yn cael eu cynnwys yn y Gymuned o ddiwedd Mehefin 2024 ymlaen. Dysgwch ragor am gael gafael ar ddata gan ddefnyddio Canvas Data 2.

Mae Gwasanaethau Data Canvas yn rhoi i weinyddwyr fynediad wedi’i optimeiddio i’w data ar gyfer adroddiadau ac ymholiadau. Mae cwsmeriaid yn gallu cyfuno eu Data Canvas gyda data o sefydliadau dibynadwy eraill, yn ogystal â systemau allweddol eraill ar draws y campws er enghraifft system gwybodaeth myfyrwyr (SIS).

Mae Gweinyddwyr Data Canvas yn gallu llwytho ffeiliau fflat i lawr o Amazon S3 neu, os yw eich sefydliad yn talu am Amazon Redshift, mae Gweinyddwyr yn gallu gweld ffeiliau sy’n cael eu lletya mewn warws data Amazon Redshift. Bydd y data yn fersiwn wedi’i echdynnu a’i drawsnewid o weithgarwch Canvas sefydliad a gellir cael gafael arno gan ddefnyddio unrhyw adnodd dadansoddi cysylltiad cronfa ddata agored (ODBC) i greu adroddiadau a delweddau data personol.

‬I gael rhagor o wybodaeth am Ddata Canvas, edrychwch ar eiriadur Data Canvas.

Nodwch: Nid yw Instructure yn cynefino cwsmeriaid newydd i Canvas Data 1. Dysgwch ragor am gael gafael ar ddata gan ddefnyddio Canvas Data 2.

Gwasanaethau Data Canvas

Fel gweinyddwr, gallwch chi ddewis gosod Gwasanaethau Data Canvas yn eich cyfrif. Mae gwasanaethau Data Canvas yn gadael i chi ffurfweddu ffrydiau data i gael gafael ar ddata Digwyddiadau Byw o Canvas. Mae angen ffurfweddiad ffrwd ddata ar Amazon SQS neu HTTPS URL.

Ffeiliau Data Canvas

Mae gweinyddwyr yn gallu defnyddio APIs a sgemâu Data Canvas i gael gwybodaeth am bynciau fel achrediad, gwella cynllun cwrs, asesu ymgysylltiadau myfyrwyr, a galluogi ymyriadau myfyrwyr.

Fel rhan o Borth Data Canvas, mae sgema Data Canvas yn cynnwys dogfennau sy’n egluro’r holl ddata tabl sy’n cael ei allgludo o Canvas. Mae ffeiliau perthnasol yn gallu cael eu cymharu a’u defnyddio i ateb cwestiynau fel :

  • ‪Pa adrannau/cyrsiau/athrawon sy’n mabwysiadu’r adnodd LMS yn llawn?
  • ‪Beth sy’n gwneud adran/cwrs/addysgwr llwyddiannus?
  • ‪Pa gyrsiau sy’n cael eu hailgymryd?
  • ‪Sut gall ein sefydliad gadw myfyrwyr yn well?
  • ‪Pa wrthrychau dysgu sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr?
  • ‪Faint o amser mae myfyrwyr llwyddiannus yn ei dreulio ar y cwrs?
  • ‪Pryd ddylai addysgwr ymyrryd â myfyriwr?
  • ‪Pa gyrsiau sy’n gweddu i arddull dysgu’r myfyriwr?
  • ‪Sut mae myfyrwyr yn gwneud ar y cwrs (ar hyn o bryd ac yn hanesyddol)?
  • Sut gall myfyrwyr gynllunio i fod yn fwy effeithiol?

Adnoddau Dadansoddi ODBC

Mae modd defnyddio ffeiliau Data Canvas i greu dadansoddiad gweledol gan ddefnyddio ymholiadau ac adroddiadau yn adnoddau dadansoddi ODBC.

Mae adnoddau cyffredin yn cynnwys Excel (gan ddefnyddio Amazon Redshift), Tableau, R, a SQL Workbench/J. Dylai’r rhan fwyaf o gleientiaid PostgresSQL cysylltiad cronfa dda Java (JDBC) ac ODBC allu delio â’r data, ond nid oes modd delio â pgAdmin.