Sut ydw i'n defnyddio ffeiliau Canvas Data 1?

Bydd Canvas Data 1 yn cael ei anghymeradwyo ar 31 Rhagfyr 2023. Ni fydd canllawiau Canvas Data 1 yn cael eu cynnwys yn y Gymuned o ddiwedd Mehefin 2024 ymlaen. Dysgwch ragor am gael gafael ar ddata gan ddefnyddio Canvas Data 2.

Dylid defnyddio ffeiliau Data Canvas i greu adroddiadau wedi’u hymholi yn adnoddau dadansoddi ODBC. Mae adnoddau cyffredin gan gynnwys Tableau, SQL Workbench/J, Excel, a R. Analytics hefyd yn gallu cael gafael ar y gronfa ddata Redshift.

Fel rhan o Borth Data Canvas, mae Sgema Data Canvas yn cynnwys dogfennau sy’n egluro’r holl ddata tabl sy’n cael ei allgludo o Canvas. Mae’r dogfennau hyn yn dangos yr holl ffeiliau sydd ar gael ynghyd â’r data ymhob ffeil.

Er mwyn defnyddio Data Canvas yn llawn, dylai ffeiliau data fyw mewn cronfa ddata. Ar ôl i chi lwytho ffeiliau fflat eich sefydliad i lawr, rhaid i benynnau tabl gael eu hychwanegu at y ffeiliau cyn y mae modd eu dadansoddi trwy eich dewis o gronfa ddata.

Os nad oes gan eich sefydliad ei storfa ddata ei hen, mae Amazon Redshift ar gael fel opsiwn premiwm i letya a rhedeg data dadansoddi. Cysylltwch â’ch Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid ar gyfer rhagor o wybodaeth.

Wrth ddefnyddio Rhestr Caniatáu Cyfeiriad IP, dylai ffeiliau meddalwedd gael eu gosod o gyfrifiadur sydd â mynediad at y cyfeiriad IP sydd ar y rhestr caniatáu.

I gael help gyda defnyddio Data Canvas mewn amryw o lwyfannau meddalwedd ac ymholiadau sampl gwahanol, ewch i Grŵp Data Canvas yng Nghymuned Canvas.

Tableau

Tableau

Mae Tableau yn llwyfan meddalwedd trwydded fesul defnyddiwr sy’n helpu pobl i weld a deall eu data. I helpu gyda ffeiliau yn Tableau, ewch i dudalen gymorth Tableau.

Mae Data Canvas yn Tableau yn gallu cael ei weld drwy Amazon Redshift a dyma’r dull hawsaf sy’n cael ei argymell ar gyfer cael gafael ar ddata a’i asesu. Yn Tableau, dewiswch y ddolen Cysylltu i’r Data (Connect to Data) a dewis Amazon Redshift. I gysylltu i’r gronfa ddata, rhowch eich manylion Redshift fel y maen nhw wedi’u gosod ym Mhorth Gweinyddol Canvas.

SQL Workbench/J

Mae SQL Workbench/J yn adnodd ymholi SQL traws-lwyfan am ddim sy’n gweithredu ar Java. I gael rhagor o wybodaeth am SQL Workbench/J, ewch i’r dogfennau Amazon SQL Workbench/J.

Mae modd gweld Data Canvas yn SQL Workbench/J drwy Amazon Redshift. I gysylltu i’r gronfa ddata, rhowch eich manylion Rhedshift fel y maen nhw wedi’i gosod ym Mhorth Gweinyddol Canvas.

ffynhonnell delwedd

Excel

Excel

Mae Excel yn adnodd dadansoddi data sy’n rhan o Microsoft Office. Mae defnyddwyr Windows yn gallu llwytho i lawr Windows Redshift ODBC Driver, ac mae defnyddwyr Mac OS X yn gallu llwytho i lawr Mac Redshift ODBC Driver.

Mae modd gweld Data Canvas yn Excel drwy Amazon Redshift. Agorwch Excel, dewiswch yr Excel Data Connection Wizard, a dod o hyd i’r gyrrwr. I gysylltu i’r gronfa ddata, rhowch eich manylion Rhedshift fel y maen nhw wedi’i gosod ym Mhorth Gweinyddol Canvas.

R

R

Mae R yn amgylchedd meddalwedd am ddim ar gyfer graffeg a chyfrifo ystadegol. Mae’n rhedeg ar amrywiaeth eang o lwyfannau. I helpu gyda ffeiliau yn R, ewch i dudalen gymorth R.

Mae modd gweld Data Canvas yn R drwy Amazon Redshift. I gysylltu i’r gronfa ddata, rhowch eich manylion Rhedshift fel y maen nhw wedi’i gosod ym Mhorth Gweinyddol Canvas.

Adnoddau ODBC Eraill

Dylai Data Canvas allu delio â’r rhan fwyaf o gleientiaid PostgresSQL cysylltiad cronfa dda Java (JDBC) ac ODBC Ond, sylwch nad oes modd delio â pgAdmin.