Sut ydw i’n rheoli defnyddwyr gweinyddu ym Mhorth Canvas Data 1?

Bydd Canvas Data 1 yn cael ei anghymeradwyo ar 31 Rhagfyr 2023. Ni fydd canllawiau Canvas Data 1 yn cael eu cynnwys yn y Gymuned o ddiwedd Mehefin 2024 ymlaen.  Dysgwch ragor am gael gafael ar ddata gan ddefnyddio Canvas Data 2.

Ym Mhorth Data Canvas, mae’r adran Defnyddiwr Cyfredol yn dangos gweinyddwyr sydd wedi cael mynediad at Borth Data Canvas, ynghyd â’u hawliau. Gallwch chi olygu hawliau ar gyfer gweinyddwyr cyfredol, ychwanegu gweinyddwyr newydd a dileu gweinyddwyr.

Agor Cyfrif

Agor Cyfrif

Cliciwch y ddolen Gweinyddwr (Admin) [1], yna cliciwch enw’r cyfrif [2].

Agor Porth Data Canvas

Agor Porth Data Canvas

Yn y ddewislen Crwydro’r Cyfrif, cliciwch y ddolen Porth Data Canvas (Canvas Data Portal).

Gweld Defnyddwyr

Yn y Porth Manylion, gallwch chi weld y defnyddwyr sydd wedi cael mynediad at Borth Data Canvas.

Mae unrhyw weinyddwr sydd heb fynediad ond sydd wedi ceisio gweld y porth hefyd yn ymddangos ar y rhestr.

Mae gwybodaeth defnyddiwr yn cynnwys enw’r gweinyddwr [1] ac ID defnyddiwr y gweinyddwr [2].

Nodwch: Mae’n bosib y bydd asiantiaid cymorth Canvas sydd wedi rheoli achosion cymorth yn eich porth data hefyd yn ymddangos yn y rhestr Rheoli Defnyddwyr.

Gweld Hawliau

Mae gwybodaeth defnyddiwr hefyd yn dangos hawliau’n seiliedig ar danysgrifiad Data Canvas eich sefydliad.

Yn hawliau, mae’r label na yn golygu nad yw’r defnyddiwr yn gallu gwneud yr hawl sydd wedi’i restru. Mae label iawn yn golygu bod gan y defnyddiwr fynediad i wneud yr hawl.

Gall cyfrif gynnwys hyd at bum hawl sydd ar gael:

  • Rheoli Defnyddwyr—yn gallu ychwanegu defnyddwyr Data Canvas eraill ar gyfer y cyfrif
  • Rhoi Hawliau Gweinyddu—yn gallu gadael i ddefnyddwyr Data Canvas ychwanegu defnyddwyr Data Canvas eraill
  • Cysylltu i Redshift—yn gallu creu manylion i gysylltu i Redshift (cyfrifon wedi’u lletya yn unig)
  • Rheoli Rhestr o Gyfeiriadau IP wedi’u Caniatáu—yn gallu rheoli’r rhestr o gyfeiriadau IP wedi’u caniatáu (cyfrifon wedi’u lletya yn unig)
  • Llwytho Ffeil Fflat i Lawr—yn gallu llwytho ffeil fflat i lawr o Data Canvas

Rheoli Defnyddwyr

I olygu defnyddiwr, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [1]. I ddileu defnyddiwr, cliciwch y botwm Dileu (Delete) [2].

Nodwch: Does dim modd i chi olygu neu ddileu gwybodaeth ar gyfer eich cyfrif eich hun.

Ychwanegu Defnyddiwr

Ychwanegu Defnyddiwr

I ychwanegu gweinyddwr newydd, sgroliwch i lawr y dudalen i’r adran Ychwanegu Defnyddiwr Newydd (Add New User).

Rhowch ID Canvas [1] ac Enw Llawn [2] y gweinyddwr. Dewiswch y blychau ticio ar gyfer yr hawliau rydych chi eisiau eu galluogi ar gyfer y defnyddiwr [3].

Cliciwch y botwm Creu Defnyddiwr (Create User) [4].